1GWedy hyn mi edrycheis, a’ syna, y rydoeð drws yn ogored yn y nef, ar lleis cynta y glyweis, oedd mal lleis trwmpet yn cwhedlea a mi, dan ddywedyd, Dabre y vynydd yma, a mi ddangosaf ytti y pethey y orfydd yw gwneithr rrac llaw.
2Ac yn y man y royddwn yn yr ysbrud, a syna, ve ddodwyd eisteddle yn y nef, ac ve eisteddoydd vn ar yr eisteddle.
3Ar vn y eisteddoedd, oedd yw edrych arno, yn debic y garec iaspis, a’ charec sardin, ac envys oedd gylch ogylch yr eisteddle yn debic yr olwc arno y garec smaragdus.
4Ac ynghylch yr eisteddle yr oedd pedwar eisteddle a rrigein, ac mi a weleis ar yr eisteddleoedd yn eiste pedwar a rrigein o henafieid, a dillad gwnion amdanynt, a choraney aur ar y penney.
5A’ mellt a thraney, a lleisiey, y ddoethant allan or eisteddle, a saith lamp o dan oeðent yn llosgi gair bron yr eisteðle: yrrein ydynt seith ysbrud Dyw.
6Ac yn golwc yr eisteddle yr ydoedd mor o wydr yn debic y vaen cristal: ac ynchanol yr eisteddle, ac ynghylch yr eisteddle y royddent pedwar enifel yn llawn o lygeid ym’laen ac yn ol.
7Ar enifel cyntaf cynhebic yllew ydoeð, ar eil enifel yn debic y lo, ar trydedd oedd ac weyneb gantho mal vvynep duyn, ar pedwaredd enifel oedd yn debic y eryr yn hedfan.
8Ac yroedd y bob vn or pedwar enifel chwech o adeinedd gylch ogylch yddynt, a’ rreini yn llawn llygeid otyfewn ac nyd odddent yn gorffowys dydd na nos, yn dwedyd, Sancteidd, sancteidd Sancteidd Arglwydd Ddyw, hollalluawc, yr hwn y Vu, ac y Sydd, ac Ys ydd ar ddyvot.
9A’ phan rroyssont y nefeylied hynny gogoniant ac anrrydedd, a’ diolch ir yr hwn oeð yn eistedd ar yr eisteddle, yr hwn y sydd yn byw yn dragywydd.
10Y pedwar ar rigein o henafied y syrthiasant gair bron yr vn oedd yn eistedd ar yr eisteddle, ac a anrrydeddasont ef, y sydd yn byw yn dragywyð, ac y vwrasont y coronae gair bron yr eisteðle, dan ddywedyd,
11Teylwng wyd, Arglwydd, y dderbyn gogoniant ac anrrydedd, a’ gally: cans ti y creest pop peth ac er mwyn dy ewyllys di y maent, ac y crewyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.