1IDdo ’nawr, chwi gywaethogion: wylwch, ac vdwch am ych trueni a ddel arnoch.
2Ych cowaeth chvvi llygry a wnayth: a’ch gwiscoedd bwyd pryfed ydynt.
3Ych aur ach arian a rydodd, ay rrwd hwynt a fydd tyst yn ych erbyn, ac a yssa ych cnawd mal tan. Casclu trysawr a wnaythoch tros y dyddiau diwaytha.
4Wele, cyfloc y gweithwyr, rrain a fedasont ych meysyð (rrwn a attaliasoch trwy dwyll) sy yn crio a bloyddiay y rrai a fedassont, a entriassont y glustiau Arglwydd y byddinoedd.
5Byw ar ddayntethion y buoch ar y ddayar, ac mewn trythyllwch. Meithrin ych calonay a wnaythoch, megis ac yn y dydd lladdedigaeth.
6 Euocau a wnaythoch a’ lladd y cyfion, rrvvn niss gwrthnebodd chwi.
7Am hynny, vymrodyr, byddwch ymarhoys, hyd devodiad yr Arglwydd. Synna, y llafurwr a ddiscwyl am wyrthfawr ffrwyth y ddayar, yn dda eu ymynedd am dano, hyd caffel o hono y glaw cynnar, ar diweddar.
8O blegid hynny byddwchithay hevyd dda ych ymynedd, a chadarnhewch ych calonay, can ys y may defodiad yr Arglwydd yn nesau.
9Na wnewch ddim tuchan yn erbyn y gilidd, fymrodyr, val na bo barn arnoch: wele, may’r browdwr yn sefyll wrth y drws.
10Cymerwch, fymrodyr, yn siampl am oddeu blinder, ac am hir ymynedd, y proffwydi rrain a fuont yn doyded yn Enw’r Arglwydd.
11Wele, dedwyddd y ddym yn gadel y rrai a ymoddefant. Chwi a glowsoch am ymynedd Iob, ac a welsoch y diwedd a vvnaeth yr Arglwydd. O blegit trathosturiol yw’r Arglwydd a’ thrugaroc.
12Eithr ymlaen pob peth, fymrodyr, na thyngwch, nac ir nef, nac ir ddayar, na llw arall amgen: eithr bid ych ief, yn ief, ach nac ef, yn nac ef, rrac syrthio o honoch, mewn barn.
13Oes neb yn ych plith mewn adfyd? gweddied. Oes neb yn esmwyth arno? caned.
14Oes neb yn ych plith yn glaf? Galwed am Henaduriaid yr eglwys, a gweddiant wy trosto, ac eliant ef ac olew yn Enwr Arglwydd.
15A gweddi ’r ffydd a iachaar claf, ar Arglwydd ay cyfyd ef y fynydd: ac o gwnaeth ef pechoday, hwynt a vaddeuir iddo.
16Cyfaddefwch ych beie y naill ir llall, a gweddiwch tros y gilidd, y gael ych iachau: can ys llawer a dal gweddir cyfion, pan vo ffrwythlon.
17Elias dyn ydoedd or vn sut a ninay, ac yn eu weddi ydd archodd na bai glaw, ac ni bu glaw tair blynedd, a’ chwech mis.
18Ac ef a weddiawdd drachefn, ac a roddes y nef y glaw, ac a ddug y ddayar eu ffrwyth.
19 Vymrodyr, o daeth neb o honoch ar gyfeilorn oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw vn ef,
20Gwybyðed ef am y neb a droes y pechadur rrac mynd ar gyfeilorn o ddiar y ffordd, y vod ef yn cadw enaid rrac angay, ac yn kyscodi lliawsgrvvydd o pechodau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.