Ioan 3 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iij.Christ yn addyscu Nicodemus ynghylch yr adenedigaeth. Am Fydd. Am serch Duw er lles y byd. Dysceidaeth a’ batydd Ioan. A’r testiolaeth a ddwc ef am Christ.Yr Euangel ar y Sul Trintot.

1YDd oedd dyn o’r Pharisaiait, a’ ei enw yn Nicodemus pennaeth ymplith yr Iuðaeon.

2Hwn a ðeuth at yr Iesu liw nos, ac a ðyvot wrthaw, Rabbi, ni y wyddam mae dyscawdur wyt wedy dyvot y wrth Dduw: can na ddychon nep wneythy’r y gwrthiae hyn a wney di, a ny byðei Duw gyd ac ef.

3Yr Iesu a atepoð ac a ðyuot wrthaw, Yn wir, yn wir y dywedaf yt’, A ðiethr geni dyn drachefyn, ny ddygon ef welet teyrnas Duw.

4Nicodemus a ddyvot wrthaw, Pa vodd y dychon dyn eni ac ef yn hen? a all ef vynet i groth ei vam drachefyn, a’ geni?

5Yr Iesu atepawdd, Yn wir, yn wir y dywedaf yti, addieithr geni dyn o ddwfyr ac or yspryt, ny ddichon ef vyned y mewn teyrnas Duw.

6Yr hynn a ’anet or cnawt, ys y gnawt: a ’r hynn a ’anet o’r Yspryt ys yð yspryt.

7Na ryvedda ðywedyt o hanof wrthyt, Y byd rait eich geni drachefyn.

8Y gwynt lle mynno, a chwyth, a’ ei lef a glywy, eithyr ny wyddost o b’le y daw, ac y bale ydd a: velly y mae pop dyn a a’net o’r Yspryt.

9Nicodemus atepawdd ac a ddyvot wrthaw, Paddelw y dychon y pethae hynn vot?

10Yr Iesu a atepawdd ac a ddyvot wrthaw, A ywti yn ðyscyawdr yr Israel, ac ny wyddost y pethae hynn?

11Yn wir, yn wir y doedaf wrthyt, yr hynn a wyddam a ddywedwn, a’r hyn a welsam a testoliaethwn: a’n testiolaeth ny dderbyniwch.

12A’s pan ddywetaf ychwy pethe daiarol, ny chredwch, pa vodd a’s dywetwyf ychwy, am pethae nefolion y credwch.

13Can nad escen nep ir nef, a ddieithr hwn a ddescenawdd o’r nef, ys ef Map y dyn yr hwn ys y’n y nef.

14A’ megis y derchafawð Moysen y sarph yn y diffeith, velly y bydd rait bot derchavael Map y dyn,

15yn y bo y bwy bynac a cred yntaw, na choller, yn amyn caffael bywyt tragyvythawl.

Yr Euāgel ar ddie Llun y Sulgwyn.

16¶ Can ys velly y carodd Duw y byt, y n y roðes ef ei vnig‐enit vap, y’n y vydei i bop vn a greda ynthaw, na choller, amyn caffael bywyt tragyvythawl.

17Can na ddanvonawdd Duw ei vap i’r byt, i varny’r byt, anyd er iachay yr byt trwydaw ef.

18Yn vn a cred ynthaw ef, ny vernir: a’r vn ny thred a varnwyt eisioes can na chredodd yn. Enw yr vnigenit vap Duw.

19A’ hynn yw’r varnedigaeth, can ðyvot golauni ir byt, a’ chary o ddynion dywyllwch yn vwy na’r golauni, o erwydd bot y gweithrededd wy’n ðrwc.

20O bleit pop vn yn gwnethy drwc, ys y gas gātho yr golauni, ac ny ðana i’r golauny, rac argyoeddy ei weithredeð

21Ar hwn a wna wirionedd a ddaw i’r golauni, y n y bo cyhoedd ei weithredoedd, mae o erwydd Duw y gweithredwyt wy.

22Gwedy y pethe hyn y daeth yr Iesu ef a ei ddiscipulon i dir Iudaia, ac yno y trigiawdd y gyd ac wynt, ac y betyddyawdd.

23Ac ydd oedd Ioan hefyt yn batyddiaw yn Ainon geyr llaw Salim, can ys bot dyfredd lliosawc yno: a’ daethant vvy, ac eu betyddiwyt.

24Can na vwriesit eto Ioan yn‐carchar.

25Yno y bu ’orchest rhwng discipulon Ioan a’r Iuddaeon, yn‐cylch purhau.

26A’ daethwynt ad Ioan, ac a ddywedesont wrthaw, Rabbi, hwn oedd y gyd a thi y tu hwnt i Iorddonen, i’r vn y testolaethais‐ti, nycha, y batyddia ef, a’ phawp oll ’sy yn dyuot attavv.

27Ioan a atepawdd, ac addyuot, Ny aill dyn dderbyn dim a ny’s roddir yddaw o’r nef.

28Chwychwi ychunain ydyw vy‐testion i, ar ddywedyt o hano vi, Nyd mi yw yr Christ, eithr darvot vy’n anvon o y vlaen ef.

29Hwn ’sy iddo ddyweddivvreic, y w’r dyweddiwr: a’ char y dyweðiwr yr hwn a saif ac y clyw ef, a lawenha yn vawr, o bleit llef y dyweddiwr. Y llawenydd hyn meu vi gan hyny a gyflawnwyt.

30Raid yðaw ef ymangwanegy, ac y minef ymleihau.

31Hwn a ddaeth o dduchod, ysy goruwch pavvp oll: hwn ysy o’r ddaiar, y sy o’r ddayar, ac o’r ddaiar yr ymadrodd: hwn a ddaeth o’r nef y sy goruch pavvp oll.

32A’ hyn a welawdd ac a glywawdd, hyny a testolaetha ef: a’i destiolaeth ef ny dderbyn nebun.

33Hwn a dderbyniavvdd y destiolaeth ef, ys ef a inseliawdd mai Duw ’sy gywir.

34Can ys yr hwn a ddanvonawdd Duw, a lafara’ airiae Duw: can nyd wrth vesur y mae Duw yn rhodðy iddo yr Yspryt.

35Y Tat a gar y Map, ac a roddes bop peth oll yn ey law.

36Hwn a gred yn y Map, y mae iddo vywyt tragyvythawl, a’ hwn nyd vvyddhao i’r Map, ny wyl ef vywyt, anyd digofain Duw a erys arnaw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help