1. Thessalonieit 3 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iij.Dangos y mae vaint y serch yddwynt can yddaw ddanvon Timotheus atwynt, A’ hefyd am y vot yn gweddiaw drostwynt.

1AM hyny can na allem ymattal a vei hwy, ys tybiesam vod yn oreu y ni aros yn Athen ein vnain,

2a’ hebrwng Timotheus ein brawt a’ gwenidawc Duw, a’n cydweithwr yn yr Euangel Christ, ich cadarnhau, ac ich confforto yn‐cylch eich ffydd,

3val na chynnyrfyt neb o bleit y gorthrymderae hyn: can ys chvvichvvi ychunain a wyddoch, ein darparu ni y hynny.

4Can ys yn wir pan oeddem y gyd a chwi, ys rac ðywedesam ywch’ y byddei y ni gahel gorthrymdereu, vegis ac y darvu, ac y gwyddoch.

5Sef o bleit hyn, pryd na allwn ymattal yn hwy, ys auvonais ef y ymwybot y wrth eich ffydd, rrac darvot ir temptiwr eich temptio mewn neb ryw vodd, a’ myned o ein gwaith yn wac.

6Eithr yn hwyr yr owhon gwedy dyvot Timotheus odd ywrthych atom, a’ menegi y ni ddaeoni am ych ffydd a’ch cariat, a’ch bod yn cadw cof da am danam yn ’oystadol, gan ðeisyfu cahel ein gweled, vegis ac ydd ym ninheu am danoch chwitheu,

7am hyny, vroder, in confforthit ni ynoch, yn ein ol’ orthymder a’n angenoctit trwy ych ffydd chwi.

8Can ys yr awrhon ydd ym yn vyw, a’d yw chwi yn sefyll yn ddyfal yn yr Arglwydd.

9Can ys pa ddyolvvch allwn ni y ad‐talu y Dduw ydrosoch am yr oll llawenydd a’r yð ym yn llawenychu er eich mwyn gar bron ein Duw,

10nos a’ dydd yn tra gweddiaw ar weled o hanam eich wynep, a chyflawny y sydd yn eisieu ich ffydd?

11Ac yntef y Duw, ’sef ein Tat, a’r Arglwydd Iesu Christ, a vniono ein ffordd atoch,

12a’r Arglwydd a’ch lliosoco ac a’ch amplao yn‐cariat y gylydd, ac y bawp oll, megis ac ydd ym ni y chwi:

13er goystatau eich calonae yn ddigwliedic yn sancteidd geyr bron Duw ’sef ein Tad, yn‐dyuodiat ein Arglwyd Iesu Christ y gyd ai oll Sainctæ.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help