1PEd ymddiðanwn a’ thafodeu dynion ac Angelion, a mi eb gariat, perfeith genyf, yr wyf val efydd yn seiniaw, neu cymbal yn tincian,
2a’ phe gvvyddvvn prophwyto, a’ gwybot oll ddirgelion, a’ phop celfyddyt, a’ phe bei genyf yr oll ffydd, mal y gallwn ysmuto mynyddedd, a’ bod eb gariat, nyd wyf ddim.
3A’ phe porthwn y tlodion am oll da, a’ phe rhoddwn vy‐corph, im llosci, a’ bod eb gariat, nyd dim lles‐ymy.
4Cariat ys y ddyoddefus, y mae yn gymwynascar: cariat ny chenvigena; cariat nyd ymffrostia: nyd ymchwydda:
5ny ddiystyra: ny chais yr yddaw y hunan: ny chythruddir: ny veddwl drwc:
6ny lawenha am ancyfiawnder, anyd cydlawenhau a gwirionedd:
7goðef pop dim, credu pop dim: gobeitho pop dim: ymaros ym pop dim.
8Cariat byth ny chwymp ymeith, cyd pallo prophetolaethae, ai peidiaw tavodae, ai divlannu gwybodaeth.
9Can ys o ran y gwyddom, ac o ran ydd ym yn prophwyto.
10Anyd gwedy y del yr hyn ’sy perfeith, yno yr hyn ’sydd o ran, a ddilëir.
11Pan oeddwn yn vachcen, mal bachen yr ymðiðanwn, mal bachcen y dyallwn, mal bachcen y meddyliwn: and pam aethym yn wr, mi roisym heibio vachceneiddrwydd.
12Can ys yr awrhon yddym yn gweled mewn drych ar ddamec: and yno y gvvelvvn wynep yn wynep. Yr awrhon yr adwaen o ran: and yno yr adnabyddaf megis ac im adwaenir.
13Ac yr awrhon y mae yn aros ffydd, gobeith a’ chariat, sef y tri hyn: a’r pennaf or ei hyn yvv cariat.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.