Marc 8 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. viij.Miracl y saith torth. Y Pharisaiait yn erchi arwydd. Surdoes y Pharisaiait. Y dall yn derbyn ei ’olwc. Ei adnabot gan ei ddiscipulon. Ef yn ceryddy Petr. Ac yn dangos mor angenraid yw bot ymlid a’blinderwch.Yr Euangel y vij. Sul gwedy Trintot.

1YN y dyddyae hyny, pan oeð tyrva dra‐mawr ac eb gantwyut ddim yw vwyta, yr Iesu a ’alwawdd ei ðiscipulon ataw, ac a ðyvot wrthwynt,

2Ydd wyf yn tosturiaw wrth y tyrfa, can ys yddwynt aros y gyd a mi er ys tri‐die, ac nid oes Ganthwynt dim yw vwyta.

3Ac a’s anvonaf wy ymaith eb vwyt y’w teie ehunain, wy loysygant ar y ffordd: can ys yr ei o hanaddynt a ddeuthant o bell.

4Yno ydd atepawdd ei ddiscipulon iddo, Paweð y dychon dyn borthy ’r ei hynn a bara yma yn y diffeith?

5Ac ef a o vynnawdd yddwynt, Pasawl torth ys ydd genwch? Ac wy a ddwedesont, Saith.

6Yno y gorchymynawdd ef yr tyrfa eistedd ar y ddaear: ac ef a gymerawdd y saith torth, ac wedy iddo ddiolvvch, eu torawdd, ac eu rhoddes y’w ddiscipulon yw gesot geyr eu bron, ac wy ei gesodesont geyr bron y popul.

7Ac ydd oedd ganthwynt ychydic pyscot bychain: ac wedy iddo vendithiaw, ef archawdd yddwynt hefyd ei gesot geyr eu bron.

8Ac wy a vwytesont, ac a gawsont digon, ac wy a godesont o’r briwvwyt oedd yn‐gweddill, saith basgedeit,

9(a’r ei vysent yn bwyta, oedd yn‐cylch pedeir‐mil) ac velly ef yd anvonawdd wy ymaith.

10Ac ar hynt ydd aeth ef i long gyd ei ddiscipulon, ac y ðaeth i barthae Dalmanutha.

11A’r Pharisaiait a ddaethan allan, ac a ddechreusont ymddadle ac ef, gan geisiaw gantaw arwydd o’r nef, a’ chan ei demptio.

12Yno yr vcheneiddioð ef yn ddwys: yn ei yspryt, ac y dyuot. Pa geisio arwydd y mae’r genedleeh hon? Yn wir y dywedaf y chwi, na’s rhoddir arwyð ir genedlaeth hon.

13Ac ef y gadawodd wy, ac aeth i’r llong drachefyn, ac a dynnodd ymaith dros y dwfr.

14Ac anghofio a wnaethent gymeryd bara, ac nid oedd ganthwynt amyn vn dorth yn y llong.

15Ac ef a orchmynawdd yddynt gan ddywedyt, Gwiliwch, ac ymogelwch rac leven y Pharisaieit, a’ rac leven Herod.

16A’ resymy a wnaethant wrth ei gylydd, gan ddywedyd, Hyn ’sy can Nyd oes ddim bara genym.

17A’ phan ei gwybu ’r Iesu, y dyvot wrthwynt, Pa resymy ddych velly, can na’d oes genwch vara? a nyd ychvvi yn synniaw etwa, nag yn deally? A ytyw eich calonae eto genwch wedy ’r argaledu?

18Oes llygait genwch ac ny chāvyðwch? ac oes i chwi glustiae, ac ny chlywch? Ac any ddaw yn eich cof?

19Pan doreis y pemp torth ym‐plith pempmil, pa sawl bascedeit o vriwvwyt a godesoch? Dywedesont wrthaw, Dauddec.

20A’ phan doreis saith ymplith pedeir mil, pa sawl bascedeit gvveddi ll o vriwfwyt a godesoch? Dywedesont wythae, Saith.

21Yno y dyvot ef wrthwynt, P’wedd yvv na ydyellwch?

22Ac ef a ddaeth i Bethsaida, ac wy a dducesont ataw ddall, ac a ei gweddieson ar iddo y gyfwrdd ef.

23Yno y cymerawdd ef y dall erbyn, ei law, ac ei tywysawdd allan o’r dref, ac a boyrawdd yn ei lygait, ac a ’osodes ei ddwylaw arno, ac a ovynawdd iddaw a welei ef ddim.

24Ac ef a edrychodd i vynydd, ac a ddyuot, Mi welaf ddynion: can ys gwelaf wy yn gorymddaith, mal petyn breniae.

25Gwedy hyny, y gesodes ef, ei ddwylo drachefyn ar y lygait ef, ac y parawdd iddo edrych-drachefn. Ac ef a edverwyt iddo ei olvvc, ac ef a welawdd bavvp oll o bell ac yn eglaer.

26Ac ef a ei danvonawð ef a‐dref y’w duy, gan ddywedyt, Ac na ddos ir dref, ac na ðywait i nep yn y dref.

27A’r Iesu aeth allan, ef a ei ðiscipulō i Caesarea Philippi. Ac ar y ffordd yr ymovynnawð ef a ei ddiscipulon, gan ddywedyt wrthynt, Pwy’n medd dynion ytwy vi?

28Ac wy a atebesont, yr ei a ddvvvait mai Ioan Vatydiwr: a’r ei, Elias: a’r ei mai vn o’r Propwyti.

29Ac ef a ddyvot wrthynt, A’ phwy’n meddw‐chwi ytwy vi? Yno yð atepawð Petr ac y ddyuot wrthaw, Tydy yw’r Christ.

30Ac ef a ’orchymynawdd yn gaeth yddynt na vanegent hyny i nep am danaw.

31Yno y dechreawdd ei dyscy y byddei ddir y Vap y dyn ddyoðef llawer o bethæ, a’ ei argyweddy y gan yr Henaifieid, a chan yr Archoffeiriait a’r Gwyr‐llen, a’ chael ei ladd, ac o vewn tri dic‐yfody drachefyn.

32Ac ef a adrodes y peth hyny yn ’olae. Yno y cymerth Petr ef or ailltu, ac a ddechreodd roi iddo sen.

33Yno ydd ad ymchoelawdd ef, ac ydd edrychawdd ar ei ddiscipulon, ac yrrhoes‐sen i Petr, gan ðywedyt, Tynn ar v’ol i Satan: can na synny bethae Duw, eithr pethae dynion.

34A’ gwedy iddo ’alw y werin attaw gyd aei ðiscipulon, a’ dywedyt wrthynt, Pwy pynac a wyllysa ddyvot ar v’ol i, ymwrthodet ac ef yhun, a’ chymered i vyny ei groc, a’ dylynet vi.

35Can ys pwy pynac a ewyllysa gadw ei einioes, ei cyll: a’ phwy pynac a gyll ei einioes er vy mwyn i a’r Euangel, ef ei caidw.

36Can ys pa les i ddyn, er enill yr oll vyt, a ’cholly ei enaid?

37Ai pa peth a ryð dyn yn ymdal dros ei eneit?

38Can ys pwy pynac a wrido om pleit i, n’am geiriae ym‐plith yr ’odinebus a’r bechadurus genedlaeth hon, o bleit yntef y gwrida Map y dyn hefyt, pan ddel yn‐gogoniant ei Dat y gyd a’r Angelion sainctus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help