1PAul Apostol (nyd gā ddynion, na thrwy ddyn, anyd trwy Iesu Christ, a’ Duw tat yr hwn y cyvodes ef o veirw)
2a’r oll vrodur ’sy ’gyd a mi, ad Ecclesi Galatia:
3 rat vo gyd a chwi a’ thangneðyf y gan Dduw Tat, a’ chan ein Arglwydd Iesu Christ,
4yr hwn y rhoddes y hun dros ein pechotae, val in gwaredai y wrth y cydrychiol vyd drwc yma erwyð ewyllys Duw a’n Tat,
5ir hwn y bo gogoniāt yn oesoedd oesoeð, Amē.
6Ryveð yw genyf mor vuan ich ysmutwyt ymaith i Euangel arall, y wrth yr vn ach galwesei yn rhat Christ,
7yr hwn nyd oes Euangel arall, anyd bot rei ich trallodi, ac yn wyllysu datroi Euangel Christ.
8Eithyr pe’s nyni neu Angel o’r nef a brecethei ywch amgen, na hynn a precethesam ywch, malldigedic vo.
9Mal y racddywedasam, velly y dywedaf yr awrhon drachefn, A’s precetha neb y chwy yn amgenach, nac yd er byniesoch, malldicedic vo.
10Can ys yr owrhon ai precethu ’r wyf athravveth dynion, ai ’r yddo Duw? ai ceisio ’ðwyf rengu boð dynion? o bleit a’s etwo y rengwn voð dynion, ny’s byddwn was Christ.
11Weithion y mynnaf ywch wybot, vrodyr, am yr Euangel a precethwyt geny vi, nad oedd hi erwyð dyn.
12Can na’s derbyniais y hi gan ddyn, ac ny’m dyscwyt hi i mi, eithr trwy ddatguddiat Iesu Christ.
13Can ys clywsoch son am vy‐cytro i gynt, yn y ddeddyf‐Iuddewic, val y tra erlynais ar Eccles Duw, ac ei hanreithiais,
14ac a vuddiais yn y ddeddyf-Iuddewic goruwch llawer o’m cyfeillion yn vy‐genetl vyhun, ac oeddwn vwy awyddus o lawer i a thrawaetheu vy‐tadeu.
15Eithr pan vu dda gan Dduw (yr hwn am gohanesei o groth vy mam, ac am galwesei trwy y rat ef)
16y ddatguddiaw ei Vap ynof, val y byddei y‐my y evangelu ef ymplith y Cenetloedd, yn y man nyd ymchwedleyais a chnawt a’ gwaed:
17ac ny ddaethym drachefn i Caerusalem at yr ei ’n a vesynt Apostolion o’m blaen i, anyd myned avvnaethym i Arabia, ac a ðychwelais drachefn i Damasco.
18Yno gwedy tair blynedd y daethym drachefn i Caerusalem y ymweled a Phetr, ac a arosais y gyd ac ef pempthec diernot.
19A’ nebun or Apostolon ny’s gwelais, dyeithr Iaco brawd yr Arglwydd.
20Ac am y petheu ’ddwy ’yn y scrivennu atoch, nachaf vi yn testolaethu geir bron Duw, nad wyf yn dywedyt celwydd.
21Gwedy hyny, yr aethym i dueddae Siria a’ Cilicia:
22can ys ni’m adwaenit wrth wynep gan Ecclesidd Iudaia, yr ei oeddent yn‐Christ.
23Eithr clywed a wnaethent vvy yn vnic rei yn ddyvvedyt, Yr vn oeð yn ein ymlit ni gynt, ’sydd yr awrhon yn precethu’r ffydd, yr hon oedd ef gynt yn hi anreithiaw.
24A’ gogoneddu Duw a wnaethant am danaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.