1AC e ddarvu ar vn o’r dyddiae hyny, ac ef yn dyscu ’r popul yn y Templ, ac yn Euāgelu, yr Archoffeiriait, a’r Gwyr llen a ddaethant arnaw y gyd ar Henafieit
2ac a lafaresont wrthaw, gan ddywedyt, Dyweit i ni wrth pa awturtot y gwnai di y pethe hyn, nai pwy a roes i ti yr awturtat hyn?
3Ac ef atepodd ac a ddyuot wrthwynt, A’ minef a ’ovynaf i chwithe, vn‐peth: dywedwch ymy gan hyny:
4Betyð Ioan ai o’r nef ydd oeð, ai o ddynion?
5A’ hwy a resymesōt ynthyn y hunain, gā ðywedyt, A’s dywedwn mai or nef, ef a ðywait, Paam gan hyny na chredech y‐ddaw?
6Ac a’s dywedwn Mai o ddynion, yr oll popul a’n llapyddia ni: can ys‐diogel yvv ganthwynt mai Prophwyt oedd Ioan.
7Am hyny yr atebesont, na wyddent o b’le ydd oeð.
8Yno y dyuot yr Iesu wrthynt, Ac nys’ ddywedaf vinev y chwithev, trwy pa awdurdot y gwnaf y pethae hyn.
9Yno y dechreawdd ef ddywedyt wrth y plwyf y parabol hyn, Gwr oedd a blannei winllan, ac y llocawdd hi y dir‐ðiwylliawdwyr: ac aeth i wlat dieithr, dros amser mawr.
10Ac ar ryw bryd, yd anvones ef was at y tir‐ðiwylliawdwyr val y rhoddent y‐ddaw o ffrwyth y winllan, eithyr y tir‐ddiwyllyawdwyr y bayddent ef, ac eu danvonent ymaith yn wac.
11Ac eilwaith yd anvonawdd ef was arall: a hwnavv a gurasont wy, ac ei amparchesont ac ei danvonesōt y fforð yn wac.
12Trache e ddanvonawdd y trydydd, a hwn, a archollesont ac a vwriesont allan.
13Yno y dyuot Arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Anvonaf y caredic vap mauvi: ef allei y parchant, pan y gwelont ef.
14A’r tir‐ddiwilliawddwyr pan welesont ef, ymrysymy ai gylydd a ’orugant, gan ddywedyt Hwn yw’r y tifedd: dewch, lladdwn ef, y’n y bo yr tiveddiaeth yn eiddom.
15A’ hwy y tavlesont ef allan o’r winllan, ac ei lladdesont. Pa beth gan hyny a wna Arglwydd y winllan yddwynt?
16Ef a ddaw ac a destryw y tir‐ddiwilliawdwyr hyn, ac a ddyd ey winllan y eraill. A’ phan glywsant hyn, y dywedesont Na bo hyny.
17Ac ef a edrychawdd arnynt, ac a ddyvot, Beth ynteu yw hyn a esceivenwyt, Y maen y wrthodent yr adailwyr, hwnw a wnaethpwyt yn ben ir congylvaen?
18Pwy pynac a syrthio ar y maen hwnaw, a ddryllir: ac ar pwy pynac y syrthio ef ei mal yn chwilfriw.
19Yno yr Archoffeiriait a’r Gwyr‐llen yn yr awr hono a geysynt ddodi dwylo arnaw: (anyd bot arnyn ofn y popul) can ys gwybuont may yn y erbyn hwy y dywedesei ef y parabol hwn.
20A’ hwy ei dysgwyliesont, ac a ddanvonent gynllwynwyr a symlent ey bot yn gyfion, y graffu ar y ymadrodd ef, ac y’w roddy ef ym‐meddiant ac awturtot y President.
21Ac y a ’ofynesont y‐ddaw, gan ddywedyt, Athro, gwyddam y dywedy di ac y dyscy yr vnion, ac na dderbyny vvyneb ond val ygylydd, ’eithyr dyscu yddwyt i bavvp ffordd Dduw yn‐gwirioned.
22Ai cyfreithlawn i ni roddy teyrnget i Caisar ai nyd yw?
23Ac ef a ddyallawdd y dichell wy, ac a ddyuot wrth‐wynt, Paam y temptiwch vi?
24dangoswch i mi geiniawc. Pwy biae ’r ddelw ar graipht ’sy arnei. Atep o hanynt a ’dywedyt, Caisar.
25Yno y dywedei ef wrthynt, Rowch am hyny yr eiddo Caisar, i Caisar, a ’r eiddaw Duw, y Dduw.
26Ac velly ny allesont veio ar y eiriae ef geyr bron y popul: anyd ryveð vu ganthynt y atep ef, a’ thewy a son a wnaethāt.
27Yno y daeth ataw ’r ei o’r Zadduceit (yr ei a wadant vot cyuodedigaeth) ac a ’ovynent iðaw,
28gan ddywedyt, Athro, Moysen a yscrivennawdd i ni, A’s bydd marw brawd nep ac iddaw wreic, a’ marw o hanaw yn ddi‐blant, bot y’w vrawt gymeryd ei wreic, a’ chody had y’w vrawd.
29Ac yr oedd saith broder, a’r cyntaf a gymerth ’wraic ac a vu varw yn ddi blant.
30A’r ail a gymerth y wreic, ac yntef a vu varw eb plant.
31Yno y trydydd y cymerth hi: a’r vn modd y bu veirw y saith eb adu plant.
32Ac yn ddywethaf oll marw o’r wreic hefyt.
33Can hyny yn y cyuodedigaeth, gwraic i bwy vn o hanynt vydd hi? can ys ir saith y bu hi yn wreic.
34Yno ydd atebawdd yr Iesu, ac y dyuot wrthynt, Plant y byd hwn a wreicaant ac a’wrant.
35Anyd yr ei a deilyngir y veddy ar y byd hwnw, a ’r cyuodiat o veirw, ny wreicaant, ac ny wrhant.
36Can na allant varw mwyach, o bleit eu bot yn gymetrol a’r Angelon, ac ynt yn Veibion Duw, ac wyntæ yn blant y cyuodedigaeth.
37A’ bod ir meirw adgyuodi, ’sef Moysen ei racddangoses yn y dyrysllwyn, pan ddyvot ef, Mai yr Arglwydd yvv y Duw Abraham, a’r Duw Isaac, a’r Duw Iaco.
38Can nad yw ef Duw ’r meirw, anyd ir ei byw: can ys byw ynt oll iddo ef.
39Yno ydd atepawdd ’r ei o’r Gwyr‐llen, ac a ddywedesont, Athro, da y dewedeist.
40Ac ar ol hyny, ny veiddiesont ymofyn ac ef ddim oll.
41Yno y dyuot wrth‐wynt, Pa‐vodd y dywedant vot y Christ yn vap Dauid?
42Ac yntef Dauid yn dywedyt yn llyver y Psamae, Dywedawð yr Arglwydd wrth vy Arglwydd, eisted ar vy‐deheulaw,
43Y n y wnelwyf vy‐gelynion yn droedfainc y‐ty.
44Can y Ddauid y alw ef yn Arglwydd, a’ pha weð y mae ef yn vap iddaw.
45Yno a’r popul yn clywet, y dyuot ef wrth ei ddiscipulon,
46Ymogelwch rac y Gwyr‐llen, yr ei a ewyllysiant vyned mewn dillat llaision, ac a garant gael cyfarch gwell yddyn yn y marchanatoedd, a’r eisteddvae vchaf yn y Synagogae, a’r lleoedd pennaf yn yn y gwleddoedd:
47yr ei a lwyr ysant dai y gvvragedd-gweddwon ’sef yn rhith hir weddiaw: yr ei hyn a dderbyniant varn drymach.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.