1CLywch hyn yr oll populoedd: clustymwrandewch oll drigiolion byt.
2Sef yr ei distadl a’r ei o stat, y goludawc a’r tlawt.
3Vy-genae a gympwyll ddoethinep, a’ mevyrdawt vy-calon am ddeall.
4Gogwyddaf vy-clust ar ddamec: datcanaf vy gwiwdraethawt ar y delyn.
5Paam ydd ofnaf y ny dyddiae anvad: pan vo enwireð im gogychyny ar vy sodleu?
6Yr ei rydd ei coel ar ei da, ac a ymffrostiant yn amylder ei golud.
7Eithyr ny all nep waredy ddim o vrawt: ny all ef roddy ei gyngwerth y Ddew.
8Can ys gwerthvawr yw prynyant ei heneidiae, a’rpaid yn tragywydd.
9 Er iddo vyw yd dragyvyth, ac na welo y bedd.
10Can ys e wyl vot y doethion yn meirw, a’hefyt ys collir yr andoeth a’r ynfyd, ac y gadant ei golud y ereill.
11A’ hwy dybiant ei tai i trig-leoedd yn tragywydd, o genedlaeth i genedlaeth, a’ galw tireð yn ol ei henweu.
12Eithr nyd erys dyn mewn anrydedd: cyffelip yw yr escrublieit y vyddant veirw.
13 Llyma y ffordd hwy ei h’ynfydrwydd: yr ei ddel ar ei hol, vydd hoff ganthynt ei hymadrodd. Sélah.
14Val deueit y gorweðant yn y bedd: angae ei h’ysa, a’r ei cyfion ei llywia hwy y borae: ei tegwch y ddervyð, o’i cartref i’r bedd.
15Eithyr Dew a weryd eneid o law y bedd: can ys ef a’m cymer. Sélah.
16Nac ofna pan govoethogir vn, phan liosocer gogoniant ei duy.
17Can ys wrth varw ny ddwc ef ddim ymaith, ac ny ddescen ei vawredd ar ei ol.
18Erwydd tra ytoedd e byw, efa ymhoffei: a’ hwy ath clodvorant, pan vych dda wrthy-ty
19Efa ðaw y mewn yd cenedlaeth ei dadae, ac ny welant ’olauni yn dragyvyth.
20Dyn mewn anryddedd ac ny ddeall: ef gyffelypir i’r yscrublieit [y gollir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.