Ephesieit 2 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. ij.Bod mawrygu Rat Christ, rhwn yw vnic achos iechedwrieth. Y mae yn dangos yddyn pa sut popul oeddynt cyn ei gorymchwel, A’ pha suwt ydyn yr awrhon yn‐Christ.

1AChwitheu a vyvvocaodd ef, yr ei oeðech wedy meirw yn‐camweddae a’ phechotae,

2yn yr ei, gynt y rhodiech erwydd helhynt y byt hwn ac erwydd y tywysoc a lywadraetha yn yr awyr, ’sef yr yspryt, ’sy owrhon yn gweithiaw ym‐plant anuvyðdot,

3yn cyfrwng pa rei ydd oeddem ninheu hefyt yn cydtro gynt, yn trachwantae ein cnawt, gan wneuthur ’wyllyse y cnawt, a’r meddwliae, ac oeddem wrth anian yn blant digofeint, yn gystal ac eraill.

4Eithr Duw yr hwn ’sy ’oludoc yn‐trugaredd, trwy ei vawr gariat a’r yn carodd ef ni,

5a’ phan oeddem wedy meirw gan pechote, a’n cyd vywhaodd ni yn‐Christ, gan rat pa vn yr iachawyt chwi, ac an cyd gyvodes,

6ac a’n cyflehaod yn y nefolion leoedd yn‐Christ Iesu,

7val y dangosei yn yr oesoedd rhac llaw y dirvawr olud y rat ef, trwy ei garedigrwydd y nyni in‐Christ Iesu.

8O bleit can rat yr iacheir chwi trwy ffydd, a’ hyny nyd o hanoch y‐hunain: dawn Duw ydyw.

9Nyd o weithrededd, rac y neb ymhoffy.

10Can ys y weithred ef ydym wedy ein creau in‐Christ Iesu y weithrededd da, yr ei a ddarparodd Duw, val y rhodiem ynthwynt,

11Erwydd paam cofiwch ych bot gynt yn Genetloedd yn‐y cnawt, ac ich gelwit yn ddienwaediat gan yr ei’n, a elwir yr Enwaediat yn‐y cnawt, o waith dwyllaw,

12eich bot, meddaf, y pryd hyny eb Christ, ac yn ddieithredic y wrth wladwrieth Israel, ac yn estronieit ywrth yr ambodae’r addewit, ac eb obeith genwch, ac yn rei ddidduw yn y byt.

13Ac yr awrhon in‐Christ Iesu, yr ei oeðech gynt ym‐pell, a wnaethpwyt yn agoseieit, ’sef trwy waed Christ.

14Can ys efe yw’n tangneddyf, rhwn a wnaeth y ddoyblaid yn vn, ac a ddatododd y gayad y rhan‐baret,

15gā ðirymio trwy y gnawd ef y gelyniaeth, ’sef Deddyf y gorchymynnae yr hon ’sy yn hanuod o ’ordinadeu, y wneuthur y ðau yn vn dyn newyð ynðo yhun, gan wneuthur tangneddyf velly,

16ac val y cysiliai ef y ddau a Duw yn vn corph gan y grogiad ef, a’lladd gelyniaeth wrthei,

17ac a ddaeth, ac a Euangelawð dangneðyf ywch ’yr ei oeddech ym‐pell, ac ir ei oeddech agosieid.

18Can ys trwyddaw ef y mae i ni y ddwyblaid dywysogeth at y Tat gan yr vn Yspryt.

Yr Epistol ar ddydd S. Thomas.

19Weithion gan hyny nyd yw‐ch’ mwy ddieithreit a’ dyvodieit: amyn cytddinasieit a’r Sainctæ, ac yn duylwyth tuy Duw,

20ac wedy eich adailad ar sailvaeniad yr Apostolion a’ Prophwyti, ac yntef Iesu Christ yn bod yn ben conglfaen,

21yn yr hwn yr oll adailad wedy’ gyssyltu, a dyf yn templ sanctaidd ir Arglwydd,

22yn yr hwn hefyt ych cyf adailwyt chwi y vot yn drigfan Duw gan yr Yspryt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help