1NA cheisiwch fod yn veistred lawer, fymrodyr, gan wybod y cawn i farnedigaeth glettach.
2Can ys mewn llawer o bethay y ddym ni pawb yn llithro. O byð y neb na lithro ar air, hwnw sy wr perffaith, ac a ddichin ffrwynor holl corph.
3 Nycha, y ddym yn dodi ffrwynay ymhennau r meirch yw gwneuthyr yn vfydd i ni, ac y ddym yn troi ey cyrff hwynt oddiamgylch.
4Nycha hevyd y llongay, rrain cyd bont mowrion, a gwynt creulawn yw gyru, etto i troi hwynt o amgylch a wneir a llyw bychan bach, lle i mynnor llowydd.
5Velly y tavawd hevyd aylod bychan yw, yn bostio pethay mawrion, nycha faint o ddeunydd a ynnynna y chydic dan.
6A’r tavawd tan ydyw, ie byd o enwiredd: velly i gosodet y tavawd y mysc ein ayloday, mal y llygra ef yr holl corph, yn fflamhau troell naturieth, ac yn fflamedic can vffern.
7Cans holl natur ynifeiliaid, ac adar, ac ymlusciaid, a’r petheu yn y mor a ddofir ac a ddofwyd can natur ddyniol.
8Y tavawd hagen nis dichin neb rryw ddyn y ddofi. Drwg anllyfodraythus ydyvv, yn llawn gwenwyn marwol.
9Trwyddo ef i bendigwn ni Ddyw a’r tad, a’ thrwyddo ef i melltigwn ni ddynion, a wnaethbwyd ar lun Dyw.
10Or vn genau i daw allan bendith a melltith: fymrodyr ni ddylaynt y pethay hyn fod felly.
11A ðyry ffynnon or vn man ddwr melus, a’ chwerw?
12A ddichin y pren ffeigys, fymrodyr, ddwyn olifaid, neu winwdden ffeigys? velly ny ddichon vn ffynnon roddi dwr hallt a’ chroyw.
13Pwy sy wr doeth a gwybodaeth cantho yn ych mysc chwi? dangosed trwy ymwereddiad da eu weithredoedd mewn rrowiogrwydd doythineb.
14Eithr o bydd cenychi cenfigen chwerw, ac ymryson yn ych calonay, nac ymlawenhewch, ac na fyddwch celwyddog yn erbyn y gwirionedd.
15Y doythineb hyn nid oddi fynydd y discin, eithr dayarawl yvv, enifeilaidd, a’ diawlaidd.
16Can ys lle bo cenfigen ac ymryson, yno y bydd tervysc, a phob gweithred ddrwc.
17Eithr y doythineb y sydd o ddifynydd, yn gynta pur ydyw, wedi hynny heddychol, boneddigaið, hawdd y thrino, llawn trugaredd a’ ffrwythydd da yn ddiddosparth, ac yn ddiffuant.
18A ffrwyth cyfiawnder a heir mewn heddwch, ir rrai heddychawl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.