1PAul yntae a edrychawdd yn ddyfri ar y Cyccor, ac a ddyvot, Hawyr vroder, Mi a wasanaethais Dew ym‐pop cydwybot da yd y dydd hwn.
2Yna yr Archoffeirat Ananias, a ’orchymynawdd yr ei oedd yn sefyll yn ei emyl, ei daro ar ei enae.
3Yno y dyvot Paul wrthaw, Eath dery Dew dydi, baret gwynlliw. A’ thi a eisteddy im barny i yn ol y Ddeddyf, ac a ’orchymynny vy‐taro yn erbyn y Ddeddyf?
4A’r ei oedd yn sefyll gerllaw, a ddywedynt vvrtho, A gebly di Archoffeiriat Dew?
5Ac Paul a ddyvot, Ny wybuum i, vroder, y vot ef yn Archoffeiriat: can ys bot yn escrivenedic’ Na velltithia Bennaeth dy popul.
6Eithyr pan ddeallawdd Paul vot y naill parth i’r popul yn Tsadduceit, a’r llall yn Pharisaieit, ef a lefawdd yn y Cycor, gan ddyvvedyt. Ha wyr vroder, Myvi ’sy Pharisai, ac yn vap i Pharisai: am ’obeith a’ chyvodiadigeth y meirw im bernir.
7A’ gwedy yddo ddywedyt hynn yma, y cyvodes ymryson rhwng y Pharisaiait a’r Tsaduceit, y n y hollwyt y lliaws.
8Can ys y Tsadduceit a ddywedant, nad oes dim cyfodiadigeth, nag Angel, nac yspryt: a’r Pharisaiait a a ddefant bop vn or ddau.
9Yno y bu llefain mawr: a’r Gwyr‐llen o blait y Pharisaiait a gyvodesont i vynydd, ac ymrysonesont, gan dddywedyt, Nid ym ni yn cael dim drwc yn y dyn hwn: can ys a’s bu i yspryt ai Angel ymiddan ac ef, nac ymladdwn‐ni‐a‐Dew ddim.
10A’ phan gyvodes tervysc mawr, y pen Captaen, can ofny rac rhwygo Paul yn ddrylliae y ganthwynt, y ’orchymynawdd ir milwyr vynet i waeret, a’ ei ddwyn ef oei plith wy, a’ei arwein ir castell.
11Ar noshon nesaf y savawdd yr Arglwydd wrtho, ac a ddyvot, Bydd dda dy gyssir Paul: can ys megis ac y testolaetheist am danaf yn‐Caerusalem, velly y byð dir yty ðwyn testolaeth hefyd am danaf yn Ruuein.
12A’ gwedy y bot hi yn ddydd, ydd ymglasgawdd ’r ei or Iuddaeon, ac a gyf‐reithiesont, gan ddywedyt, na vwytaent ac nad yfent, y n y laddent Baul.
13Ac ydd oedd mwy no dauugain‐vvyr, y wnaethoeddynt y bwriat hwn.
14Ac wyntwy a ddaethant ac yr Archoffeiriat ar Henafiait, ac a ddywedesont, Ys darvu y ni ymgyf‐reithiaw a Raith, na vwytaem ddim, nes y ni ladd Paul.
15Yr owrhon gan hyny, arwyddocewch chvvy chwi a’r Cycor ir pen Capten, bod yddaw y ðwyn ef allan y vory atoch, mal petech ar veidr cahel gwybot ryw bethe yn yspysach y gantho: a’ nineu, cyn nag y del ef yn agos, a vyddwn yn parawt yvv ladd ef.
16Eithyr pan glybu nai vap chwaer i Paul y y cynllwyn, mynet a wnaeth ef, a’ dyvot y mewn ir castell, a’ manegy i Paul.
17Ac Paul a alwodd vn o’r Cannwriait attaw, ac a ddyvot, Dwc y gwr‐ieuanc hwn at y Pen‐Captaen, can ys mae canthaw beth y ei vanegy yddaw.
18Ac ef ei cymerth, ac ei duc at y pen‐Captaen, ac a ddyvot, Paul y carcharawr am galwodd attaw, ac a ddysyfawdd arnaf ddwyn y gwr‐ieuanc hwn atat, can vot gantaw beth y ei adrodd wrthyt.
19Yno y pen‐Captaen ei cymerth erbyn ei law, ac aeth ar‐gwrr ac ef or naillu, ac a ’ovynodd yddaw, Pa beth ’sy genyt y ei venegy y‐my?
20Ac ef a ddyvot, Yr Iuddeon a gydvwriesont ðeisyfy arnat, ðwyn Paul allan evory ir Cyccor, megis petyn ar vedr ymofyn mwy o yspysrwydd am danaw.
21Eithyr na wna di yn ei hol wy: can ys y mae o hanwynt yn y gynllwyn ef, mwy no dauugain‐wyr, yr ei a gyf‐reithiesant, na bai yðwynt na bwyta nac yfet, nes yddynt y ladd ef: ac yr awrhon yð ynt yn parawt, gan edrych am dy addewit ti.
22Yno y pen‐Captaen a ollyngawdd ymaith y gwr‐ieuanc, ac a ’orchymynawdd yddaw na venagei y neb, ddangos o hanaw cyfryw pethae wrthaw.
23Ac ef a alwodd attaw ðau ryw Gannwriait, ac a ddyvot, Paratowch ddau cant milwr, y vynet y Caisareia, a’ dec a thriugain o varchogion, a dau‐cant, a ffynweywyr ar y drydedd awr o nos,
24a pharatoant yscrublieit y ðody Paul arnoddynt, er ei ðwyn ef yn ddiogel at Felix y President.
25Ac ef a escrivenawdd lythyr ar y ffurf hon.
26Claudius Lysias yn anuon annerch ar yr ardderchocaf President Felix.
27Wrth ddalha y gwr hwn gan yr Iuddaeon, ac a’ hwy ar vedr ei ladd, ydaethym arnynt a llu, ac y achupais ef, can wybot mae Ruueinwr ytoedd.
28A’ phan oeddwn yn ewyllysiaw gwybot yr achos, y cuhaddesent ef, y dugais ef at y Cyccor hwy.
29Yno y deellais mae ei guhuddaw a wnaethit am gwestionae o y Deddyf hwy, ac nid oedd arnaw vn caredd teilwng a angae, nai rrwymae.
30A’ gwedy dangos y mi, mal yr oedd yr Iuddaeon yn cynllwyn y gwr, yn ebrwyð y danvoneis ef atat, ac ’orchymyneis ydd ei guhuddwyr ddywedyt ger dy vron di y pethae oedd ganthvvynt yn ei erbyn. Does yn iach.
31Yno yr milwyr megis y gorchymynesit yddwynt, a gymeresont Paul, ac ei dugeson o hyt nos at Antipatris.
32A’r dydd dranoeth y gadawsont ir marchogion vynet gyd ac ef, ac yr ymchwelesont ir castell.
33A’ phan ddaethant i Caisareia, y rroddesont yr epistol ir President, ac a ’osodesont hefyt Paul ger ei vron.
34Velly wedy daroedd ir President ei ddarllen, a’ gofyn o ba gyvoeth ydd han oedd: a ’phan wybu mae o Cilicia ydd ytoedd,
35mi ath wrandawaf, eb yr ef, pan ddel hefyd dy guhuddwyr: ac a ’orchymynawdd ei gadw yn‐dadlaudy Herod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.