1TRugareddeu yr Arglwydd y ganaf byth: a’m genae y menagaf dy wirionedd o genedlaeth y genedlaeth.
2Can ys dywedais, Ys adaflir trugaredd yn tragyvyth: dy wirionedd y gadarnéy ys yn y nefoedd.
3Gwneythym ddygymbot am eholedic, tyngais wrth Ddauið vy-gwasnaethwr,
4Dy had y ddarparaf yn tragyvyth, ath eisteddfa adailaf o genedlaeth y genedlaeth. Selah.
5Arglwydd, ys y nefoedd a glodvorant dy ryveddawt: ’sef dy wyrionedd yn-Cynnulleidfa y Sainct.
6Can ys pwy yn y nef’sy ogyfuwch ar Arglwydd, sy gyffelyp ir Arglwydd ymplith meibion y dewieu?
7Dew sy derribil yn Cynnulleidva y Sainct, a’ therribil goruwch yr oll ’r ei, o ei amgylch.
8Arglwydd Ddew y lluoedd, pwy mal tydi, y cadarn Ior, a’th wirionedd oth amgylch?
9Ti ’sy yn llywiaw chwydd y môr: pan ymgoto ei doneu ti eu goystegy.
10Ti a drabaiddaist Raháb mal vn lladdedic: goyscereist dy ’elynion a braich dy gadernit.
11 I ti y mae nefoedd, y ddaiar hefyt ys ydd yti: seiliaist y byt, a’i gyflawnder.
12Gogledd a’ Deau ti eu creaist: Thabór a’ cHermón a lawenechant yn dy Enw.
13Y mae yty vraich a chadernit: ys nerthol yw dy law, vchel dy ddeheulaw.
14 Iawnder ac vniondep yw trigva dy eisteddle: trugaredd a’ gwirionedd a racvlaenant dy wynep.
15Gwyn ei vyd y popul a wyr ymlawenhay: rhodiant yn-goleuni dy wynepryd, Arglwydd.
16Yn dy Enw y bydd ei hyfrydwch, ac yn dy gyfiawnder y ymdderchavant.
17Can ys gogoniant y nerth hwy yw ti, a’chan dy ewyllys-da y derchefir ein cyrn.
18Can ys ar yr Arglwydd y mae ein tarian, ac y Sanct Israel ein Brenhin.
19Yno ymddiddeneist yn-gweledigaeth ath Sanct, ac y ddywedeist, Gosodeis cymporth ar vn galluawc: derchefeis vn etholedic o’r popul.
20Cefeis Ddauið vy-gwasanaetwr: ac oleo vy sancteiddrwydd yr enneiniais ef.
21Am hyny y ffyrféir vy llaw y gyd ac ef, a’m braich ei cyfnertha.
22Ny chaiff y gelyn ei orthrymu, na ’r mab enwir ei ddrygu.
23Eithr escutiaf ei elynion rac ei wyuep, a’ei gaseion a vaiddaf.
24Vy-gwirionedd hefyt am trugaredd gyd ac ef, ac yn vy Enw y derchefir ei gorn.
25A’ gosodaf ei law ar y môr, a’ei ddeheulaw yn y llifeirieint.
26Ef a ’ailw arnaf, Ti yw vy-tat, vy-Dew, a’ chraic vy iechyt.
27Hefyt mi ei gwnaf yn gyn-enit ymy, yn uwch na Brenhinedd y ddaiar.
28Cadwaf yddo vy-trugaredd yn tragyvyth am dygymbot vydd yn ffyddlawn yddo.
29A’gosodaf ei had yn dragyvyth, a’ei eisteddfa val dyddiae y nefoedd.
30[Eithr] a’s ei blant a wrthddodant vy-Deddyf, ac ny rodiant yn vy-barnae:
31A’s torant vy cynneddfeu, a’ bod eb gadw vy-gorchymynion:
32Yno y govwyaf ei trawsedd a’r wialen, a’ei scelerder a ffonnodieu.
33Er hyny ny dducaf vy-trugaredd y arnaw, ac ny ffugiaf vy-gwirionedd.
34Ny thoraf vy-dygmbot, a’r hyn a ddaeth om gwefusae nid ysmutaf.
35Tyngais vnwaith ym Sanctawt, na ffugiaf y Ddauið,,
36Ei had ef vydd yn tragyvyth, a’ei eisteddfa mal yr haul ger vy-bron.
37Mal y lleuat y saif ef yn tragywyth, ac tyst ffyddlawn yn y nefoedd. Selah.
38A’ thi wrthðodeist ac a dremygeist, soreist wrth dy Enneiniawc.
39Toreist ddygymbot dy was, a halogeist ei dalaith ir llawr.
40Dryllieist ei oll vagwyrydd: dodeist ei amddyffynvae ef yn advail.
41Yr oll ’rei y ant rhyd y ffordd, y espeiliant ef: y mae ef yn warthrudd y ei gymydogion.
42Dyrchefeist ddeheulaw ei ’elynion, llawenycheist ei oll wrthnepwyr.
43Dychweleist hefyt vin ei gleddyf, ac ny wnaethost’ yddo sefyll yn y rryvel.
44Pereist yw ardderchawgrwydd yspeidiaw, a’ei eisteddle ir llawr a davleist.
45Dyddiae ei ieuntit a vyréist, thoeist ef a chywilydd. Selah.
46Arglwydd, pa hyd yr ymguddy, byth? ac a lysc dy lit val tan?
47Cofia pa oes ysydd ymy: y ba beth y creyt’ yn over oll blant dynion
48Pa ddyn ’sy vyw, ac ny wyl angae? wared ef ei eneit rac llaw y beddrod? Selah.
49Arglwydd, p’le mae dy drugareddeu o’r blaen, ei y dyngeist wrth Ddauið yn dy wirionedd?
50Coffa, Arglwyð, warthruð dy weision, rhwn yr wyf yn ei ðwyn im monwes y gan yr oll bopuloedd mawrion.
51O bleit ith ’elynion gablu, Arglwyð, can yddynt gablu ol traet dy Enneiniawc.
52Moler yr Arglwyð yn tragywyth. Velly y bo, ac velly y bo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.