1BYddwch gan hynny ddilynwyr Duw, val plant caredigol,
2a’ rhodiwch yn‐cariat, megis in caroð Christ ninheu, ac y roddes y hunan y trosā, y vot yn offrwm ac aberth arogl arwynt tec y Dduw.
3Eithyr godinep, a’ phop aflendit, neu cupyðdot, nac enwer chwaith yn eich plith, val y gwedda y Sainctæ, na chroesaneth,
4nac ymadrodd ynvyt, na chellwair, y pethau ny chyggweddant, eithr yn gynt rhoddy diolvvch.
5Can ys hyn a wyddoch, am puteiniwr, na neb aflan, neu cupydd, yr hwn yw delw‐addolwr, nad oes yddo ddim etiueðieth yn‐teyrnas Christ, a’ Duw.
6Na thwyllet nep chwi a gwac ’airiau: can ys o bleit cyfryw betheu y daw digofeint Duw ar y plāt anuvydd.
7Na vyddwch gan hynny gyfeillion yddynt.
8Can ys yr oeddech gynt tywyllwch, ac yr awrhon goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch mal plant golauni,
9(can ys ffrwyth yr yspryt a hanoedd o bop daoni, ac vniondep, a’ gwirionedd)
10gan yvvch broui hyn ’sy gymradwy gan yr Arglwydd.
11Ac na vit yw’ch gyveillach a’r gweithredoeð anffrwythlon y tywyllwch, eithr ac yn gynt argyweddwch hvvy.
12O bleit croesaneth yw bot adrodd y petheu, a wneir y ganthynt yn guðiedic.
13Eithyr pop peth gwedy ’r argywedder gan y golauni, a eglurir: can ys golauni a eglurha bop peth oll.
14Erwydd paam y dywait ef, Dyffro dydi ’sy yn cuscu, a’ chyvot yn dy sefyll ywrth y meirw, a’ Christ, a ’oleuha y‐ti.
Yr Epistol yr xx. Sul gwedy Trintot.
15Gwelwch gan hyny vot i chwi rodio yn ddiyscaelus, nyd val andoethion, amyn val doethion,
16gan brynu yr amser: can ys y dyddiae ’sy ðrwc.
17Am hyny na vyddwch ampwyllogion, eithr dyellwch beth yw’ wyllys yr Arglwydd.
18Ac na veddwoch a’r win, yn y peth y mae rhythni: eithyr cyflawner chwi a’r Yspryt,
19gan ymðiddan a chwychwi eichunain yn psalmae, ac emynnae, ac odlae ysprytawl, gan ganu, a’ psalmu ir Arglwydd yn eich calonæ,
20can ddiolvvch yn ’oystat am pop dim y Dduw sef y Tat, yn Enw ein Arglwyð Iesu Christ,
21gan ymddarestwng y’w gylydd yn ofn Duw.
22Y gwragedd, ymestyngwch ich gwyr priawd, megis ir Arglwyð.
23Can ys y gwr yw pen y wreic, megis ac y mae Christ yn ben yr Eccles, ac yntef yw ’r iachawdr y corph.
24Can hyny mal y mae ’r Eccles yn ddarestyngedic i Christ, ac velly bot y gwragedd y’w gwyr priawd ym‐pop dim.
25Y gwyr, carwch eich gwragedd eich un, megis ac y y carawð Christ yr Eccles, ac y rhoes y hunan drostei,
26val y saincteiddiai ef y hi, a’i charthu gan ’olchiat y dwfr trwy’r gair,
27val y gwnelei ef yhi yddo yhun yn Eccles ’ogoniantus, eb arnei vrycheun neu chrychni, neu ddim or cyfryw bethae: anyd hi bot yn sainctaidd ac yn ddigwyliedic.
28Velly y dylei gwyr garu ei gwragedd, vegis y cyrph yhunain: hwn a garo ei wreic ei hun y car ehunan.
29Can na chasaodd nebnu erioed ei gnawt yhun, anyd ei vagu a’i gynnesu, megis ac y gvvna ’r Arglwyð am yr Eccles.
30Can ys aylodeu ydym yvv corph ef, ac oei gnawt, ac o ei escyrn.
31O bleit hyn y gad dyn dat a’ mam, ac y glyn wrth ei wreic, ac y vyddant ill dau yn vn cnawt.
32Dirgelwch mawr yw hyn: eithr dywedyt ydd wyf am Christ, ac am yr Eccles.
33Cā hyny pop vn o hanoch, gvvnewch velly: caret pop vn ei wreic eihun, ’sef megis yhunan a’ bid ir wraic ofni hei gwr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.