1 BEllach, vroder, gweddiwch drosom, ar rwyddhau rac gair yr Arglwydd, a’ e i ogoneddu, megis a chyd a chwitheu,
2ac ar ein rhyðhau ywrth ddynion anresimol a drigionus: can nad oes ffyð gan bawp.
3Eithr bot yr Arglwydd yn‐ffyddlawn, yr hwn ach ffyrfha, ac ach caidw rac y drwc.
4Ac ydd ym yn gobaitho am danoch trwy ’r Arglwydd, ac ych bot yn gwneuthu’r, ac y gwnelwch rhac llavv y petheu a ’orchymynwn y‐chwy.
5A’r Arglwyð a gyfrwyðo eich caloneu at cariad ar Dduw, ac y ðysgwyliad am Christ.
6Ys gorchmynwn ywch, vroder, yn Enw ein Arglwyð Iesu Christ, ar ychwy ymdymu ymaith ywrth bop brawt ’sy yn rhotio yn afreolus, as nyd wrth yr athraweth, a dderbyniawdd ef genym ni.
7Can ys‐chwychwi eichunain a wyddoch po’dd y dylech ein dylyn ni: can nad ymddugesam‐yn‐afreolus yn eich cyfrwng,
8ac ny’s bwytesam vara gan nep yn rhat: anyd gweithio avvnaem trwy lafur a’ lluddet nos a’ dydd, er mwyn na phwysem ar neb o hanoch.
9Nyd can nad oedd i ni awturtot, yn amyn val y dodem einunain yn esempl y’wch i’n dilyn.
10Can ys‐pan oeddem gyd a chwi, hyn ich rhybyddiesam amdano, can a’s byðei neb, a’r nyd wyllysei weithio, na chei vwyta chvvaith.
11Can ys‐clywsam, vot ’rei yn rhotio yn eich plith yn afreolus, eb weithio dim oll, anyd gwaithio afraid.
12Can hyny yr ei ’sy gyfryw, a ’orchymynwn ac a gygcorwn can eun Arglwydd Iesu Christ, ar yddyn waithio y gyd a llonyddwch, a’ bwyta ei bara euhunain.
13A’ chwitheu, vroder, na ddefficiwch yn gwneuthu’r dayoni.
14Ad oes nep ny’s vvyddhao i’n ymadrodd, arwyddocewch ef trwy lythyr, ac na vit ywch’ or gymddeithas ac ef, megis y cywillyddio.
15Er hyny na chymerwch ef val gelyn, eithyr cygcorwch ef brawt.
16A’ gwir Arglwyð y tangneddyf a roddo yw’ch tangeddyf yn ’oystatawl ym‐pop modd. Yr Arglwydd vo y gyd a chwi oll.
17Yr anerch y can‐y‐vi Paul, a’m llaw vyhun, yr hwn yw’r arwydd ym‐pop epistol: val hyn y’r scrivēnaf,
18Rat ein Arglwydd Iesu Christ vo y gyd a chwi oll, Amen.
Yr ail Epistol ad y Thessalonicceit a scrivennwyt o Athen.
O Lyver cenedleth. &c. yd y van hyn, W. S.; a’r Epistol iso D.R.D.M. ei translatodd
Rr.ij.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.