Psalm 4 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .iiij.¶ Cum inuocarem.¶ Yr nep y orvydd ar Neginoth. Psalm Dauid.

1GWrando arnaf pan alwyf, Dduw vy-cyfiawnder: ehengeist arnaf mewn cyfyngdra: trugarha wrthyf ac erglyw vy-gweddi.

2A veibion dynion, yd pa hyd vy-gogoniant, yn warthrudd, gan garu gwagedd cheisio celwydd: Selah.

3Can ys gwybyddwch ddarvot ir Arglwydd ethol iddo ehun y sanctaidd: yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arnaw.

4 Ofnwch, ac na phechwch: ymgympwyllwch yn eich calon ar eich gwely, a’ thewch Selah.

5Aberthwch ebyrth cyfiawnder, ac ymddiriedwch yn yr Arglwydd.

6Llawer ys ydd yn dywedyt, Pwy a ddengys y ni daoni? eithr Arglwydd, dercha arnam lewych dy wynepryd.

7Ys rhoddeist y my o lawenydd yn vy-calon nac pan amylha ei gwenith a’i gwin.

8Mewn tangneddyf y gorweddaf, ac yr hunaf: can ys ti Arglwydd yn vnic am pair y drigo mewn diogelwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help