Matthew 7 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen vij.Christ yn gohardd barn ehud. Na vwrier pethe sanctaidd i gwn. Am erchi, caisio a’churo. Diben neu ystyrieth yr Scrythur ’lan. Am y porth cyfing, ar vn eheng. Am y gau prophwyti. Am y pren da, ar vn drwc. Gwyrthiae gauoc. O’r tuy ar y graic, ac o’r tuy ar y tyvot.

1NA vernwch, val na ’ch barner.

2Cāys a’ pha varn y barnoch, ich bernir: ac a pha vesur y mesuroch, y mesurir y chwithae eilchwyl.

3A’ phaam y gwely di y gwelltyn y sydd yn llygad dy vrawt, ac na ddyelli y trawst ys ydd yn dy lygat tyun?

4nai pa vodd y dywedy wrth dy vrawt, Gad i mi vwrw allan y gwelltyn oth lygat, ac wele drawst yn dy lygat dyun?

5A hypocrit, bwrw allan yn gyntaf y trawst oth lygat tyun, ac yno y canvyddy vwrw allan y gwelltyn o lygat dy vrawt.

6¶ Na rowch y peth ’sy sāctaið i gwn, ac na thavlwch eich gemmae geyrvron moch, rac yddyn ei sathry y dan draed, a’ throi drachefn ach rhwygo.

7¶ Archwch, ac ei rhoddir y‐chwy: caisiwch, ac ei ceffwch: Curwch, ac ef agorir y‐chwy.

8Can ys pwy pynac a airch, a dderbyn: a’r nep a gaiso, a gaiff: ac i hwn guro, yr agorir.

9Can ys pa ddyn y sydd yn eich plith, yr hwn a’s airch ei vap iddo vara, a rydd vaen iddo?

10Ai a’s airch ef byscodyn, a ddyry ef sarph iddo?

11A’s chwychwi gan hyny, a chwi yn ddrwc, a wyddoch roi rroddion da i’ch plant, pa veint mwy y bydd ich Tad yr hwn ’sy yn y nefoedd, roddy daoedd ir ei a archant arno?

12Can hyny, peth pynac a ewyllysoch wneythy ’r o ddynion i chwi, velly gwnew‐chwithe yddwynt wy. Can ys hynn yw’r Ddeddyf a’r Prophwyti.

13Ewch y mewn ir porth cyfing: cā ys eheng yw’r porth, ac llydan ywr ffordd ys y yn tywys i ddistriwiad: a’ llaweroedd ynt yn myned y mywn ynovv,

14o bleit cyfing yw’r porth, a chul yw’r ffordd a dywys i vuchedd: ac ychydigion ’sy, a ei caffant.

Yr Euangel y viij. Sul gwedy Trintot.

15¶ Y mogelwch rac y gau‐prophwyti, yr ei a ðawant atoch yngwiscoedd deveit, anid o ðymewn ydd ynt blaiddiae raipus.

16Wrth ei ffrwyth ydd adnabyddwch wy. A’ gascla’r ei ’rawnwin o y ar ddrain? nei fficus o ydd ar yscall?

17Velly pop pren da a ðwc ffrwyth da a’ phren drwc a ðwc ffrwyth drwc.

18Ny ddychon pren da, ddwyn ffrwythe drwc na phren drwc ddwyn ffrwythe da.

19Pop pren ar ny ddwc ffrwyth da, a dorir y lawr, ac a davlir ir tan.

20Erwydd paam wrth ei ffrwyth yr adnabyddwch wy.

21Nyd pwy bynac a ddyweit wrthyf, Arglwyð, Arglwydd, a a i deyrnas nefoedd amyn yr hwn a wna ewyllys vy‐Tat yr hwn yw yn y nefoedd efe a ddavv i deyrnas nefoedd.

22Llaweroedd a ðiwedant wrthyf yn y dyð hwnw, Arglwydd, Arglwyð, a nyd drvvy dy Enw di y prophwydesam? a thrvvy dy enw y bwriesom allan gythraulieit? a thrvvy dy Enw y gwnaetham weithredoedd‐mawrion?

23Ac yno yr addefaf yddyn, Ny’s adnabym chwi er ioed: ewch ymaith y wrthyf yr ei a weithiwch enwiredd.

24Pwy pynac gan hyny a glyw genyf y geiriae hyn, ac ei gwna, mi ai cyffelypaf ef i wr doeth, yr hwn a adeilawdd ei duy ar graic:

25a’r glaw a syrthiodd, a’r llifeirieint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ðygwyðesont ar y tuy hwnw, ac ny chwympodd: can ys ei sylfaeny ar graic.

26An’d pwy pynac a glywo genyf vy‐geiriae hyn, ac nys gwna, a gyffelypir i wr ynfyd, yr hwn a adeiliedodd ei duy ar dyvot:

27a’r glaw a gwympoð, a’r llifdyfreð a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythesan, ac a guresont ar y tuy hwnw, ac e gwympodd, a’ ei gwymp a vu vawr.

28¶ Ac e ddarfu, gwedy i’r Iesu ðywedyt y gairiae hyn, rhyveddy a wnaeth y popul gan y ddysc ef.

29Can ys ef y dyscawdd wy val vn ac awturtaw, ganthaw, ac nid val y Gwyr‐llen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help