1VY meibion‐bychain, y pethu hyn yð wyf yn y scryvenu atoch, val na phechoch: ac a phecha nep, y may y ni ymðiddanwr y gyd a’r Tat, Iesu Christ y cyfiawn.
2Ac efe yw’r cyssiliat tros ein pechodeu: ac nyd tros yr yddom ni yn vnic, eithyr tros pechotæ yr oll vyt.
3Ac wrth hyn y gwyddam yr adwaenam ef, a’s cadwn y ’orchymynion ef.
4Yr hwn a ddywait, Mi adwen ef, ac ny chaidw ei ’orchmyneu, celwyddawc yw, a’r gwirionedd nyd yw ynthaw.
5Eithr hwn a gaidw y ’air ef, yn wir yn hwnvv y mae cariat ar Dduw yn berffeith: wrth hyn y gwyddam ein bot ynthaw ef.
6Yr hwn a ddywait y vot yn aros yntho ef, a ðylei ys velly rodiaw, megis ac y rrotiawdd yntef.
7Vrodyr, nyd wyf yn yscrivenu vn gorchymyn newydd atoch, eithyr gorchymyn hen, yr hwn y vu y chwi or dechreuat: yr hen ’orchymyn yw’r gair, yr hwn a glywsoch or dechreuat.
8Trachefn, gorchymyn newydd ydd wyf yn eiscrivenu atoch, yr hyn ’sy yn wir yntho ef, ac yno chwithe hefyt: can ys y tywyllwch aeth heibio, a’r gwir ’olauni ’sy yr awrhon yn llewychu.
9Yr hwn a ðywait y vot yn y golauni, ac yn casau eu vrawt, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hyn.
10Yr hwn a gar ei vrawt, ys y yn aros yn y golauni, ac nyd oes achos cwymp ynthaw.
11Eithyr hwn a gasao ey vrawt, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rrodiaw, ac ny wyr y b’le y mae yn mynet, can ddarvot i’r tywyllwch ddallu ei lygait.
12 Ha blant‐bychain, ydd wyf yn scrivenu atoch, o bleit maddeu ychwi eich pechote er mwyn y Enw ef.
13Scrivennu ydd wyf atoch, dadeu, can y chwi adnabot yr hwn ys ydd or dechreuat. Scrivennu ydd wyf ato‐chwi, wyr‐ievainc, can ddarvot y chwi orchvygu y Vall.
14Scrivenny ydd wyf ato‐chwi, yr ei bychain, can y chwi adnabot y Tat. Scrivennais atoch, dateu, can y chwi adnabot yr hwn ys ydd o’r dechreuat. Scrivenais atochwi, wyr‐ieuainc, can eich bot yn gedyrn, a’ gair Duw ys ydd yn aros ynoch’, a’ gorchvygesoch y Vall.
15Na charwch y byt, na’r petheu ys ydd yn y byt. A char nep y byt, nyt yw cariat y Tat ynthaw.
16Can ys pob peth ys ydd yn y byt (megis chwant y cnawt, a’ chwant y llygait, a’ balchder ybywyt) nyd yw o’r Tat, eithyr or byt y mae.
17A’r byt ys ydd yn mynet heibio, ay chwant ef: a’ hwn a wna wyllys Duw a erys yn dragyvyth.
18 Ha‐blant‐bychain, yr amser dywethaf ydiw hi, a’ megis y clywsoch y delei yr Antichrist, ac yr owrhon y mae Antichristieu lawer: wrth yr hyn y gwyddom mae’r amser dywethaf ydyw hi.
19O ddywrthym ni ydd aethant wy allan, eithyr nyd oeddent o hanam ni: can ys pe besent o hanam, ys arosasent vvy gyd a ni. Eithr hyn a dderyvv, val yr eglurit, nad ynt vvy oll o hanam ni.
20Eithr y mae y chwi enneint o ddywrth yr hwn ys y Sanctaidd, a’ chvvi a wyðoch bop peth.
21Nyd escrivennais atoch’, o bleit na wyddoch y gwirionedd: eithyr am y chwi ei hadnabot, ac am nad oes dim celwydd o’r gwirionedd.
22Pwy yw ’r celwyddawc, anyd yr hwn a wad may Iesu yw ’r Christ? hwn yw ’r Antichrist yr vn a wad y Tat a’r Map.
23Pwy pynac a wad y Map, nyd yw y Tat gan hwnw chwaith.
24 Aroset gan hynny yno‐chwi yr hyn a glywsoch or dechreuat. A’s erys ynoch yr hyn a glywsoch o’r dechreuat, chwithe hefyt a aroswch yn y Map, ac yn y Tat.
25A’ hwn yw’r addewit a addawodd ef y ni, ’sef bywyt tragyvythawl.
26Y petheu hyn a scrivenais atoch, erwydd yr ei ’sy ich twyllo.
27Eithyr yr enneint a dderbyniesoch y cantho ef, ys y yn aros ynoch: ac nyd rait ychwi vot nep ich dyscu: eithr mal ich dysco yr Enneint hwnw am bop peth, ac y mae yn gywir, ac nyd yw yn gelwyddawc, ac megis ich dyscawdd, yr aroswch ynthaw.
28Ac yr owrhon blant‐bychain, aroswch ynthaw, mal pan yr ymddangoso ef, y bo hyder genym, ac na chywilyddiom ger y vron ef yn ei ddyvodiat.
29A’s gwyddoch y vot ef yn gyfiawn, gwybyddwch may pwy pynac a wna gyfiawnder y anet o honaw ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.