1NId y ni Arglwydd, nyd i ni, anyd ith Enw di dyro y gogoniant er mwyn dy drugareð a’th wirionedd.
2Paam y dyweit y cenedledd, P’le ’r owrhon y mae ei Dew ’n hwy?
3 A’n Dew ni ’s’yn y nefoedd: efe y wna bop peth y ewyllysia.
4Y delwae hwy ariant ac aur, ys gwaith dwylaw dynion.
5Genae ’s’yddynt ac ny lavarant: llygait sy ydd-wynt ac ny welant.
6Clustiae y sy yddwynt ac ny chlywant: trwyneu y sy yddwynt ac nid aroglant.
7Dwylaw sy yddwynt ac ny theimlant: traet sy yddwynt ac ny cherddant: ac ny laisiant o’ei mwnwgl.
8 Megis wynteu yw’r ei y gwnant wy: sawl oll y ymddiriet ynthwynt.
9 Tithau Israel ymddiriet yn yr Arglwydd: ef yw ei porth a’ ei tarian.
10Tuy Aaron ymddiriedwch yn yr Arglwydd: ef yw eu porth a’ ei tarian.
11Yr ei y ofnoch yr Arglwydd, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: can ys ef yw eu porth a’ ei tarian.
12Yr Arglwydd a veddyliawdd am danam: ef a’n] bendithia, bendithia ef duy Israel, bendithia ef duy Aaron.
13Bendithia ef y sawl y ofnant yr Arglwydd, vychein a’ mawrion.
14Yr Arglwydd a angwnega arnoch, arno-chwi ac ar eich plant.
15Bendigeit ydych gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a’ daiar.
16Y nefoedd, y nefoedd ys ydd ir Arglwydd: a’r ddaiar a roes e y veibion dynion.
17Ny volant y meirw yr Arglwydd, na’r ei y ddescennāt i’r dystawrwydd.
18 A’ nyni y volwn yr Arglwydd, o’r awrhon ac yd yn tragywyth. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.