1YR Arglwyð vy-golauni a’m iechyt: gan bwy yr ofnaf? yr Arglwyð nerth vy-bywyt, gan bwy yr ofnaf?
2Pan vu ir dryc ddynion, sef vy=cystuddwyr a’m gelynion nesau ataf y ysu vy-cnawdd, y trancwyddesont ac y cwympesont.
3Cyd bei l’u yn castel’y im erbyn, nyd ofnai vy-calon: a’ chyd codei vrwydyr im erbyn, yn hyn yr ymddiriedaf.
4Un oeth a erchais ar yr Arglwydd, hyny a geisiaf, cahel trigo yn tuy yr Arglwyð oll’ddyðiae vy-bywyt, y welet prydverthwch yr Arglwydd, ac ymwelet aei Templ.
5Can ys yn y dydd mall, y cudd vi yn ei bapell, yn-dirgelfa ei luest’ y cudd ef vi, ar graic ef am derchaif,
6Ac yr owrhon y dercha ef vy-pen goruch vy-gelynion o’m amgylch: am hyny ydd aberthaf yn ei luest’ ef ebyrth gorfoledd, canaf a’ chanmolaf yr Arglwydd.
7Clyw Arglwydd, vy lleferydd, pan lefwyf: trugará hefyt wrthyf a’ gwrando arnaf.
8[Pan ddywedeist] Caisiwch vy wynep, vy-calon a atepawdd yty, Arglwydd, dy wynep a geisiaf.
9Na chudd dy wynep ragof, ac na vwrw ymaith dy was mewn soriant: buost yn porth ymy, na ad vi, ac na’m gwethot, Dew vy iechyt.
10Cyd im gadawei vy=tat a’m mam, eto yr arglwydd am casclei.
11Dysc ymy dy ffordd, Arglwydd, a’ thywys, vi yn y ffordd vnion, o bleit vy-gelynion.
12Na ddyro vi wrth buchet vy=gwrthnepwyr: can ys cyvodes im erbyn testion gauoc, a chyfryw ac a ddywait drawseðd.
13[Mi ðefficieswn] pe na byswn yn credy cahel gwelet daoni yr Arglwydd yn=tir y bywion.
14Gobeitha yn yr Arglwydd: bydd gadarn, ac ef a ðiddana dy galon, ac ymddiriet yn yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.