Ioan 1 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. j.Duwdap, dyndap, a’ swydd Iesu Christ. Testiolaelh Ioan. Galwedigaeth Andreas, Petr. &c.Yr Euangel ar ddie Natalic Christ.

1YN y dechrae ydd oeð y Gair, a’r Gair oeð y gyd a Duw, a’r Gair hwnw oeð Duw.

2Hwn oedd yn y dechrae gyd a Duw.

3Oll a wnaethpwyt trwy ’r Gair hwnw, ac ebddaw ny wnaethpwyt dim a’r a wnaethpwyt.

4Ynddaw yð oedd bywyt, a’r bywyt oedd ’oleuni dynion.

5A’r goleuni a dywyn yn y tywyllwch, a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.

6Ydd oedd gwr a ddanvonesit y gan Dduw, a’ ei enw oedd Ioan.

7Hwn a ddaeth yn testiolaeth, y destiolaethu o’r goleuni, y n y chredent oll trwyddaw.

8Nyd efe oedd y goleuni hwnw, eithr e ddanfonesit y destiolaethu o’r goleuni.

9Hvvnvv oeð y gwir ’oleuni y sy yn goleuo pop dyn ’syn yn dyuot ir byd.

10Yn y byd ydd oedd ef, a’r byd a wnaethpwyt trwyddaw ef: a’r byd nyd adnabu ddim o hanaw.

11At yr ei‐’ddaw y hun y daeth, a’r ei‐’ddaw yhun ny ’s dderbynesont ef.

12A’ chynniuer aei derbyniesont ef, rhoes y‐ddwynt vraint y vot yn veibion i Dduw, ’sef ir sawl a credant yn y Enw ef,

13yr ei a anet nyd o waed, nac o ewyllys y cnawd, na’c o ’wyllys gwr, eithr o Dduw.

14A’r Gair hvvnvv a wnaethpwyt yn gnawt, ac a drigiawð yn ein plith, (a’ gwelsam ei ’ogoniant, vegis gogoniant vn ganedic vap yvvrth y Tad) yn l’awn’rat a’ gwirionedd.

15Ioan a testolaethei am danaw, ac a lefei, gan ddywedyt, Hwn oedd yr vn y ddywedais am danaw, Hwn y ddaw ar v’ ol i, oedd vlaenor i mi: can ys y vot yn gyntaf ei ragorvraint na mi.

16Ac oei gyflawnder ef yd erbyniesam bavvp oll, a ’rhat dros rat.

17Can ys y Ddeðyf a roet trwy Moysen, eithyr y Rat a’ gwirioneð ys y trwy Iesu Christ.

18Ny welas nep Dduw er ioed: yr vn‐Map‐geni, yr hwn ’sy ym‐monwes y Tat, hwnw ai amlygawdd ef i ni.

Yr Euangel y iiij. Sul yn yr Aduent.

19¶ A’ hyn yw testiolaeth Ioan, pan ddanvonent yr Iuðaeon Offeiriait a’ Levitae o Gaerusalem, y ofyn ’yddaw, Pwy ’n wyti?

20Ac ef a gyffesawdd, ac ny wadawdd, ac a addefawdd yn ddiledlef, Nid mi yw’r Christ.

21Yno y gofynesont iddaw, Beth yntef? Ai Elias yvv ti? Ac ef a ddyuot, Na’c ef. A’dyvvedent, Ai ’r Prophwyt yw ti? Ac ef a wrthebawð, Na’c ef.

22Yno y dywedesont wrthaw, Pwy ’n wyt val y gallom ni roi atep ir ei a’n danvonawdd ni? beth dywedy am danad dyhun?

23Eb yr yntef, Mi yvv llef vn yn llefain yn y diffaith, Cyweiriwch ffordd yr Arglwyð, mal y dyuot Esaias Prophwyt.

24A’r ei a ddanvonesit, oeðent o’r Pharisaiait.

25Ac wy a ’ovynesont iddaw, ac a ddywedesont wrthaw, Paam gan hyny y batyddy, anyd wyt’ y Christ, na’c Elias, na’r Prophwyt?

26Ioan ei hatebawdd, gan ddywedyt, Mi ’sy yn batyddio a dwfr: eithyr y mae vn yn sefyll yn eich plith, a’r nyd adwaenw‐chwi.

27Efe yw yr vn a ddaw ar v’ol i, ac a wnaed yn vlaenawr i mi, yr hwn mi nyd wy deilwng y ddatdod carrae y escit.

28Y pethae hyn a wnaethpwyt ym‐Bethabara y tuhwnt i Iorddanen, lle batyddiei Ioan.

29Tranoeth gwelet o Ioan yr Iesu yn dyuot ataw, a ’dywedyt, Wely yr Oen Duw yr hwn ’sy yn tynnu-ymaith pechotae ’r byt.

30Hwn yw ef am yr vn y ddywedais, A’r v’ol i y mae gwr yn dyuot yr hwn a wneithit yn vlaenawr rhagof: can vot ei ragorieth yn gyntaf na mi.

31A’ mi nyd adwaenwn ef: eithyr mal yr amlygit ef ir Israel, am hyny y daythy‐mi, gan vatiðio a dwfr.

32Sef y testolaethei Ioan, gan ddywedyt, Ys gwelais yr Yspryt yn descend o’r nef megis colomben, ac hi a a arosei arnaw.

33A’ mi nyd adnabum ef: eithr yr hwn am danvonawdd i vatydddio a dwfr, y ef a ddyvot wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Yspryt yn descend ac yn aros yn vvastat arnaw, hwnw yw’r vn ’sy yn batyddio a’r Yspryt glan.

34A’ mi a i gwelais ac a testolaethais mai hwn yw Map Duw.

35Tranoeth y safawdd Ioan, a’ dau o ei ddiscipulon:

36ac a edrychoð ar yr Iesu yn gorymðaith, ac a ddyuot, Wely yr oen Duw.

37Yno clybot o’r ðau ddiscipul ef yn ymadrodd, a’ dilyn yr Iesu.

38A’r Iesu a droes, ac y gwelawdd hwy yn dilyn, ac a edyuot, wrthwynt, Pa beth a geisiwch? A’ hwy a ddywedesont wrthaw Rabbi (yr hyn o ei ddeongl yw, Athro, p’le ðwyt yn trigio?

39Dywedawð wrthynt, Dewch, a’ gwelwch. Daethant, a’ gwelesant lle yr oedd ef yn trigiaw, ac aros a wnaethant y gyd ac ef y diernot hwnw: can ys ydd oedd hi yn‐cylch y ddecved awr.

40Andreas, brawt Simon Petr, oedd vn o’r ddau a glywsent y gan Ioan, ac y dilynesent ef.

41Hwn yma a gafas, y vrawt Simon yn gyntaf, ac a ddyuot wrthaw, Ys cawsam y Messias, yr hwn o ei ddeongl, yw y Christ.

42Ac y duc ef at yr Iesu. A’r Iesu a edrychawdd arnaw, ac a ddyuot, Ti yw Simon vap Ioan: ti a elwir Cephas, yr vn wrth ddcongl yw maen.

43 Tranoeth yr wyllesei ’r Iesu vyned i Galilaia, ac y cafas ef Philip, ac y dyuot wrthaw, Dilyn vi.

44A’ Philip oeð o Bethsaida, dinas Andreas ac Petr.

45Cahel o Philip Nathanael a’ dywedyt wrthaw, Ys cawsam hvvn yscrifennawdd Moysen o hanaw yn y Ddeddyf, ef, a’r Prophwyti, ’sef Iesu o Nazaret map Ioseph.

46Yno y dyuot Nathanael wrthaw, ’All dim da ddyvot o Nazaret? Dywedyt o Philip wrthaw, Dyred, a’ gwyl.

47Iesu a welas Nathanael yn dyvot ataw, ac a ddyuot, am dano, Wely, yn ddiau Israeliat, yn yr hwn ny d oes dichell.

48Dywedei Nathanael wrtho, O b’le yr adnabuost vi? Yr Iesu atepawdd ac a ddyuot wrthaw, Cyn na galw o Philip dydi, pan oeddyt ’y dan y fficuspren, mi ith welwn.

49Nathanael atepawdd, ac eb yr ef wrthaw, Rabbi, ti yw yr Map Duw: ti yw yr Brenhin yr Israel.

50Iesu atepawdd ac a ddyuot wrthaw, Can ddywedyt o hanof y‐ty, Mi ath welais ydan y fficuspren, y credy? cai weled pethae mwy na ’rein.

51Ac ef a ddyuot wrthaw, Yn wir, yn wir dywedaf y‐chwy, Ar ol hyn y gwelwch y nef yn agoret, a’r Angelon Duw yn escend, ac yn descend ar y Map y dyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help