Matthew 22 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen xxij.Damec y

neithior. Galwedigaeth y Cenedloedd. Y dillat priodas. Taly teyrnget. Am y Cyuodiadiadigaeth. Gorchest y Gwyr llen

Dywdap Christ.Yr Euangel yr xx. Sul gwedy Trintot.

1YNo ydd atepawd yr Iesu, ac a lavarawdd wrthwynt drachefyn ym‐parabolae, gan ddywedyt,

2Cyffelyp yw teyrnas nefoeð i ryw Vrenhin a wnaethoedd briodas yw vap,

3ac a ddanvonawdd ei weision i ’alw yr ei a ohaddesit ir briodas, ac ny vynnesont wy ddawot:

4Trachefyn yd anvones ef weision er‐eill, gan dywedyt, Dywedwch wrth yr ei a ’ohaddwyt, Wele, paratoais vy‐giniaw: vey ychen am pascedigion a ladwyt, a’ phop peth ys y parat: dewch i’r priodas.

5Ac wy vu ddiystyr ganthwynt, ac aethant ymaith, vn y’w duy, ac arall y’w vasnach.

6Ac y relyw a ddaliesont y y weision ef, ac ei gwarthruddiesont, ac a ei llaðesont.

7A’ phan glypu yr Brenhin, y llidiawdd, ac a ddanvones allan ei lueddwyr, ac a ddinistriawdd y lladdwyr hynny, ac a loscawdd eu dinas.

8Yno y dyvot ef wrth ei weision, Yn wir y briodas ys y parat: anid yr ei a ohodesit, nid oeddent teilwng.

9Ewch gan hyny allan i’r priffyrð, a’ chynniuer y gaffoch, gohaddwch i’r briodas.

10Yno ’r gweision hyny aethant allan ir prifffyrdd, ac a gesclesont ynghyt gynniuer oll ac gawsont, ddrwc a’ da: ac a lanwyt y briodas o ’ohaddwyr.

11Yno ’r Brenhin e ddeuth y mewn, y weled y gohawddwyr, ac a ganvu yno ddyn nid oedd gwisc priodas amdauaw.

12Ac ef a ddyvot wrthaw, Y cyveil’ pa ddelw yd aethost y mewn yma, eb vot am danat gwisc priodas? Ac ynte aeth yn vut.

13Yno y dyvot y Brenhin wrth y gweision, Rwymwch y draet a’ ei ddwylo: cymerwch ef ymaith, a’ thavlwch i’r tywyllwch eithav: ynaw y bydd wylofain, ac yscyrnygy dannedd.

14Can ys llawer a elwir, ac ychydicion a ddetholir.

Yr Euangel y xxiij. Sul gwedy Trintot.

15¶ Yno ydd aeth y Pharisaieit, ac a gymersont gygcor pa vodd y dalient ef yn ei ymadrawdd.

16Ac wy a ddanvonesont attaw ei ddiscipulon y gyd a’r Herodiait, can ddywedyt, Athro, gwyddam dy vot yn ’air wir, ac yn dyscy ffordd Dduw yn‐gwirionedd, ac nyd oes arnat oval nep: can nad wyt yn edrych ar wynep dynion.

17Dywet y‐ni gan hynny, beth a dyby di? Ai iawn rhoddy teyrnget i Caisar, ai nyd yw?

18A’r Iesu yn gwybot y drigioni wy, a ddyvot, Paam im temptwch vi chwychwi hypocriteit?

19dangoswch ymy vath y deyrnget. Ac wy a roeson attaw geiniawc.

20Ac ef a ddyvot wrthynt, Pwy pie’r ddelw hon a’r argraph?

21Dywedesont wrthaw, Caisar. Yno ydyvot ef wrthwynt, Rowch gan hyny ys ydd i Caisar, i Caisar, a’ rhowch i Dduw y pethe ys yð y Dduw.

22A’ phan glywsant wy hyn, ryveddy awnaethant, a’ ei ady a’ myned ymaith.

23Y dydd hwnw y daeth y Zadducaieit ataw, (yr ei a ddywedan nad oes cyfodedigaeth) ac ovynesont iddo,

24gan ddywedyt, Athro, eðyvot Moysen, a’s bydd marw vn, eb yddo blant, priodet ei vrawd y wraic ef, a chyfodet had y’w vrawt.

25Ac ydd oedd gyd nyni saith broder, a’r cyntaf a briodawdd wreic, ac a vu varw: ac ef eb hiliogeth iddaw, a adawodd ei wreic y’w vrawt.

26Yr vn ffynyt yr ail, a’r trydydd, yd y saithfed.

27Ac yn ðywethaf oll y bu varw’r wreic hefyt.

28Can hyn yn y cyfodedigaeth, gwraic i bwy o’r saith vydd hi: can ys pop vn y cawsei hi.

29Yno ydd atepawdd yr Iesu ac y dyvot wrthynt, Cyfeiliorny ydd ych, eb wybot yr Scrythurae, na meddiant Dyw.

30O bleit yn y cyfodedigaeth nid ynt yn gwreica, nag yn gwra, namyn, bot val Angelion Dew yn y nefoedd.

31Ac am gyfodedigaeth y meirw, any ddarllenysoch hyn a ddywetpwyt wrthych gan Dduw, yn dywedyt,

32Mi yw Duw Abraham, Dew Isaac, a’ Dew Iaco? Dew nid yw Ddew ’r meirw, namyn y bywion.

33A’ phan glybu’r popul hyny, rhyfeddy a wnaethant am ei ddysceidaeth ef.

Yr Euangel y xviij. Sul gwedy Trintot.

34¶ A’ gwedy clybot o’r Pharisaieit ddarvot i’r Iesu ’oystegu y Saddukaieit, wynt a ymgynullesant ir vn‐lle.

35Ac vn o hanwynt yr hwn oeð Gyfreithiwr a ymofynawdd ac ef, er ei brovi gan ðywedyt,

36Athro, pa vn ywr gorchymyn mawr yn y Ddeðyf?

37Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Cery yr Arglwydd dy Dduw o’th oll calon, ac o’th oll eneit, ac o’th oll veddwl.

38Hwn yw’r cyntaf a’r gorchymyn mawr.

39A’r ail ys y gyfelip i hwnn, Cery dy gymydawc mal tuhun.

40Yn y ddau ’orchymyn hynn y saif yr oll Ddeðyf a’r Prophwyti.

41A’ gwedy ymgascly o’r Pharisaieit yn‐cyt, y govynnawdd yr Iesu yddwynt,

42can ddywedyt, Peth a dybygwch chwi am y Christ? map i bwy ytyw? Dywedesont wrthaw, Map Dauid.

43Ef a ddyvot wrthwynt, can hyny pa vodd y mae Dauid yn yr yspryt yn y y ’alw ef yn Arglwydd, can ðywedyt,

44Dywedawð yr Arglwydd wrth vy Arglwydd, Eistedd ar vy‐deheulaw y ny ’osotwyf dy ’elynion yn droetvainc y‐ty?

45Ac a’s galwadd Dauid ef yn Arglwydd pywedd y mae ef yn Vap iddaw?

46Ac ny vetrawdd vn‐dyn atep gair iddaw, ac ny veiddiawdd nep o’r dydd hwnw allan ymgwestioni ddim ac ef mwyach.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help