Matthew 20 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xx.Christ yn dyscy drwy gyffelyprwydd, nad yw Duw yn dled neb, a’ei vod ef yn ’oystad yn galw dynion yw waith ef. Ef yn y rhybyddiaw hwy am ei ddyoddefaint. Yn dyscy yr eiddaw ef i ymoglyd nac

rhwysc. Christ yn taly ein ranswm a’n prynedigaeth. Ef yn rhoi ei golwc i ddau ddall.Yr Euangel ar y Sul Septuagesima

1CAnys teyrnas nefoedd ’sy debic y berchen tuy, yr hwn aeth allan a’ hi yn dyðhay i gyflogy gweithwyr y’w ’winllan.

2Ac ef a gytunawð a’r gweithwyr er ceiniawc y dydd, ac y danvonoð hwy yw winllan.

3Ac ef aeth al’an ynghylch y drydedd awr, ac a weles eraill yn sefyll yn segur yn y varchnat, ac aðyvot wrthwynt.

4Ewch chwithe hefyt i ’m gwinllan, a’ pheth bynac a vo cyfiawn mi ei rhof y chwy. Ac wynt aethāt ymaith.

5Trachefyn yddaeth ef allan ynghylch y chwechet a’r nawet awr, ac a wnaeth yr vn moð,

6Ac ef aeth allan yn‐cylch yr vnved awr arðec, ac a gafas ereill yn sefyll yn segur, ac a ddyvot wrthynt. Paam ydd y chwi yn sefyll yma yn hyd y dydd yn segur?

7Dywedesont wrtho, Am nad oedd nep in cyflogy. Ef a ddyvot wrththynt, Ewch chwithae hefyt i’m gwinllan, a’ pheth bynac a vo cyfiawn, chwi ei cewch.

8A’ phan aeth hi yn hwyr, y dyvot Arglwydd y winllan wrth ei ’orchwiliwr, Galw yr gweithwyr, a’ dyro yddynt ei cyfloc, can ddaechrae or hei dywethaf yd yr ei cyntaf.

9A’ phan ðeuth yr ei a gyflogesit yn‐cylch yr vnvet awr arddec, cahel a wnacth pop vn geinioc.

10A’ phan ddeuth yr ei cyntaf, wy dybiesōt y cahēt vwy, eithr hwythae hefyt a gawsant bob‐vn geiniawc.

11A’ gwedy yddwynt gahel, grwgnach a wnaethant wrth wr y tuy,

12gan ddywedyt, Ny weithiodd yr ei olaf hyn anid vn awr, a’ thi ei gwnaethost yn gystal a ninae r’ ei a ddygesam bwys y dydd a’r tes.

13Ac ef a atebawdd i vn o hanwynt ac addyvot, Y carwr, nid wyf yn gwnaethy dim cam a thi: Anid er ceiniawc y cytuneist a mi?

14cymer y peth ’sydd i ti, a’ dos ymaith: mi a ewllysiaf roddy ir olaf hwn, megis ac y tithef,

15Anid iawn i mi wneythyd a vynwyf am y s’y i mi vyhun? a ytyw dy lygat ti yn ddrwc am vy‐bot i yn dda?

16Velly y bydd yr ei olaf yn vlaenaf, ar ei blaenaf yn olaf: can ys llawer a alwyt, ac ychydigion a ddetholwyt.

17A’r Iesu aeth i vynydd i Gaerusalem, ac a gymerth y deuddec discipulon o’r nailltuy ar y fforð ac a ddyvot wrthyn,

18Nycha nyny yn myned i vynydd i Gaerusalem, a’ Map y dyn a roddir i’r Anchoffeirieit ac i’r Gwyr‐llen, ac wy y barnan ef i angae,

19ac y roddant ef i’r Cenedloedd er yddyn watwor, a’ei yscyrsiaw, a’ ei grogi: a’r trydyð dydd y cyfyd ef drachefyn.

Yr Euangel ar ddydd S. Iaco Apostol

20¶ Yno y deuth ataw mam plant Zebedeus y gyd a hei meibion, can ei addoli, ac erchy ryw beth ganto.

21Ac ef a ddyvot wrthei, Peth a vynny? Y hi a ddyvot wrthaw, Caniata ir ei hynn vy‐deu vaip gahel eistedd, vn ar dy ddeheulaw, ar llall ar dy law aswy yn dy deyrnas.

22A’r Iesu a atepawð ac a ddyvot, Ny wyðoch beth y archwch. A ellwch yvet o’r cwpan ydd yfwy vi o hanavv a’ch batyðiaw a’r batydd y batyddier vi? Dywedesont wrthaw Gallwn.

23Ac ef a ddyvot wrthwynt. Diogel ydd yfwch o’m cwpan ac ich batyddier, a’r batydd i’m batydier i gantavv, eithyr eistedd ar vy‐deheulaw ac ar vy llaw aswy, nid yw i mi y roi: eithyr e roddir i’r sawl y darparwyt y ganvy‐Tat.

24A’ phā gigleu ’r dec ereill hyn, sory awnaethant wrth y ddau vroder.

25Can hyny yr Iesu ei galwodd wynt ataw, ac a ddyvot, Ys gwydoch mae penaetheit y Cenetloedd a arglwyðiant arnaðwynt, a’r gwyr mawrion, ae gwrthlywiant wy.

26Ac nid velly y byð yn ych plith chwi, anid pwy pynac a vynno vot yn wr mawr yn eich plith chwi, byddet yn wasanaethwr y chwy,

27a’ phwy pynac a vynno bot yn pennaf yn eich plith, bit e yn was y’wch,

28megis, ac y deuth Map y dyn nyd y’w wasanaethy, ’namyn er gwasanaethu, ac y roddy ei vywyt yn bryniant tros lawer.

29Ac wyntwy yn myned yffordd o Iericho, y dilynodd tyrfa vawr ef.

30A’ nycha, ddau ddeillion yn eistedd ar vin y ffordd, pan glywesont vot yr Iesu yn myned heibio, y llefesont, gan ddywedyt, Arglwydd vap Dauid trugara wrthym.

31A’r dyrfa y ceryddawddvvy, yn y thawent a son: wythe a lefason yn vwy, gan ddywedyt, Arglwydd vap Dauid trugara, wrthym.

32Yno y safodd yr Iesu, ac y galwadd wy ac a ddyvot, Beth a ewyllisiwch imi y wneythyd ywch’?

33Dywedesont wrthaw, Arglwydd, bod agori ein llygait.

34A’r Iesu gan dosturiaw a gyhyrddodd a ei llygait: ac yn y van y cymerth ey llygait olwc, ac vvy y dylynesont ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help