1PEtr apostol Iesu christ, at y dieithraid, sy ar wascar rryd Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a’ Bithynia,
2Detholedic o racwybodaeth Dyw tad i santeiddrwydd yr ysbryd, trwy vfuddtawd, a thaynelliad gwaed Iesu Christ: Gras ywch a heddwch a amylhaer.
3Bendigedic fo Dyw, a thad eyn harglwydd Iesu Christ, rrwn oi fawr drugaredd an adenillawð ni, y obaith bywiol trwy ail gyfodiad Iesu Christ o ddiwrth y meirw,
4Y gael ytifeddiaeth diddiwedd a dilwgr, ac ni diflanna ’rron a roed y gadw yn y nef y nyni,
5Rrain trwy allu Dyw ydym gadwedic herwyð ffydd y gael y diogelwch a ddarparwyd yw arddangos yn yr amser diwaythaf:
6Yn yr hwn beth y ddych yn llawenhau, cyd byddech ennyd bach (o ba raid) mewn tristwch, herwydd amryw brofedigaythay,
7Mal y ceffer profiad ych ffydd chwi, sy werthfowrusach nor aur colledic, (cyd profer ef trwy dan) ir mawl, ac anrrydedd a’ gogoniant yvvch, pan ymddangoso Iesu Christ:
8Rrwn heb y weled y ddych yn y garu, yn yr hwn ir nas gwelwch ef yrwan, y ddych ir hynny yn credu, ac yn llawenhau a llywenyð ni ellir eu ymadrodd a’ gogonyddus,
9Gan dderbyn terfyn ych ffydd, ys diogelwch yr eneidiau.
10Am yr hwn ddiogelwch ir ymofynasont, ac y chwiliasont y prophwydi, rrain a prophwydasont am y gras oedd taac attochi,
11Gan ymgais pa bryd neu pa ryw amser y gwnai ysbryd Christ oedd ynthyntwy yn testlauthu yn y blaen, ysbusu, y dioddefau y gaffai Christ, ar gogoniant ay cydcanlynay hwynt.
12Ir rrain y dangoswyd, nad vddyntwy, eithyr y nyni y gwasnaythay y pethau a fanegwyd y chwi trwy yr hai a bregethasont ywch yr efengl trwyr ysbryd glan a ddanfoned or nefoedd, ac ar yrrain y chwennych yr angylion gael edrych.
13O blegid hyn gwregyswch llwynay ych meddwl: byddwch sobr: a’ gobeithiwch yn berffaith ar y gras a ddycpwyd attoch, drwy ðrychioleth Iesu Christ,
14Megis plant vfuddion, rrain ni chydymgyfflybwch ychvnain ar hen trachwantay yn yr anwybodaeth einoch:
15Eithyr megis ac y may y neb ach galwoð chwi, yn santaidd, byddwchithay hevyd santaidd ymhob ymwreddiad,
16Am hyny ir escrivennir, Byddwch santaidd, cans myvy santaidd ydwy.
17Ac as gelwchi ef yn Tad, rrwn heb ystyriaeth person a farna ar ol gweithred pawb, ymddygwch tros amser ych preswylfa yma mewn ofn,
18A chwi yn gwybod nad a phethau llygredic megis arian nei aur ich ymwaredwyd o ddiwrth ofer ymwreddiad, a gowsoch o ’osodigaythay’r tadau,
19Eithr a gwerthfawr waed Christ, megis yr oen difrychenlyd dihalogedic.
20Rrwn a ddarparhawyd yn y blaen, cyn gosod seilfaynay y byd, eithr a ysbyswyd yn yr amseroedd diwaythaf ir ych mwyn chwi,
21Rrain ydych trwyddo ef yn credu i Ddyw, rrwn ay cyvodes ef o ddiwrth y meirw, ac a roðes iddo ef ogoniant, mal y bay ych ffydd chwi ach gobaith ar Ddyw.
22A chwi gwedi puro ych eneidiau, am vfuddhau ir gwirionedd trwyr ysbryd, mewn cariad broduraidd diweniaeth, cerwch bavvb y gilidd yn ’rymus,
23Chwi a aned o newydd, nid o hil farwol eithr o hil anfarwol trwy air Dyw, rrwn sy fyw ac yn aros yn dragwyddol.
24Can ys pob cnawd mal y glaswelltyn yvv, a’ phob ryfig dyn val blodeu yn y glaswelltyn. Gwywo a wnar glasweltyn, a’r blodeuyn a gwympa i lawr.
25Eithr gair yr Arglwydd a erys yn dracwyddol: a hwnvv ydyw y gair a bregethwyd y chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.