1AC yn ol hyn, mi weleis pedwar Angel yn sefyl’ ar bedwar cornel y ddayar, yn dala pedwar gwynt y ddayar, rrac yr gwynt chwthy ar y ddayar, nac ar y mor, nac ar vn pren.
2Ac mi weleis Angel arall yn dyfod y vynydd o ddiwrth y Dwyrein, ac yr rydoedd sel Dyw byw gantho, ac ef y lefoedd a lleis ywchel ar y pedwar Angel y rrein y rroyspwydd gallu y ddrygu’r ddayar, a’r mor,
3Dan ddwedyd, Na ddrygwch y ðayar, na’r mor, nar coed, nes yni sely gwasnaethwyr yn Dyw ni yn y talceni.
4Ac mi glyweis rrif y rrei y selwyd, ac yroydent gwedy sely pedeir a seith vgeinmil o holl cenedlaythey meybyon yr Israel.
5O genedyl Iuda ef y selwyd doyddeng mil. O genedyl Ruben ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Gad ef yselwyd doyddengmil.
6O genedyl Aser ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Nephtalei ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Manasses ef y selwyd doyddengmil.
7O genedyl Simeon ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Leui ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Issachar, ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Zabulon ef y selwyd doyddengmil.
8O genedyl Ioseph, ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Ben‐iamyn ef y selwyd doyddengmil.
9Yn ol hyn mi edrycheis, a’ syna rrif mawr, yr hwn ny alley neb y rrifo, or holl nasioney a’ chenedlaythey, a’ phobloedd, ac ieythoedd, yn sefyll gair bron yr eisteddle, a’ chair bron yr Oen, a gowney gwnion hirion amdanynt, a’ phalmwydd yny dwylaw.
10Ac hwy y lefasont a lleis y wchel, dan ddwedyd, Cadwedigaeth sydd yn dyfod oddiwrth yn Dyw ni, ysydd yn eistedd ar yr eisteðle, ac oddiwrth yr Oen.
11Ar holl Angelion y safasant ogylch yr eisteddle, ac ogylch yr henafied, ar pedwar enifel, ac hwy syrthiasant gair bron yr eisteddle ar y hwynebey, ac anrrydeddasant Ddyw,
12Dan ðwedyd, Amen. Moliant a’ gogoniant, a’ doethinep, a diolch, ac anrrydeð, a’ gallu, a’ nerth, y vo yn Dyw ni yn dragywydd, Amen.
13Ac vn or henafied a chwedleyawdd, dan ðwedyd wrthyf, Pwy ydynt y rrei hyn, ysyð a gowney gwnion hirion amdanynt? ac o pa le y ðaythont?
14Ac mi ddwedeis wrtho ef, Arglwydd ti wddost. Ac yntey y ddwad wrthyf i, Yrrein yddynt y rrei y ddaythont allan o drafael mawr, ac y olchasont y gowne‐hyrion, ac y wneythont y gowney‐hyrion yn wnion yn gwaed yr Oen.
15Am hyny y maent gair bron eisteddle Dyw, ac yny wasnaethy ef yn demel dydd a nos, ar vn ysyð yn eiste ar yr eisteddle, y dric yn y plith hwynt.
16Ny vyð arnynt newyn mwy, na syched mwy, ac ny ddeyl yr haul arnynt, na dim gwres.
17Cans yr oen, yr hwn ysydd yn chanol yr eisteddle, y rreola hwynt, ac y towys hwynt at y ffynhoney byw o ddyfroedd, a’ Dyw y sych yr holl ðeigrey o ddiwrth y llygeid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.