1AC Saul a gytsynniesei am y varwolaeth ef. A’r dyddgwaith hwnw, y bu ymlit dirvawr ar yn Eccles, yr hon ytoedd yn‐Caerusalem, ac ydd oeddent yvv oll wedy ei goyscary rhyd gwledydd Iudaia a’ Samareia, dyeithyr yr Apostolon.
2Yno ryvv wyr dwywol, a ddugesont Stephan ganthynt, yvv gladdu, ac a wnaethant gwynvan mawr uch ei benn.
3A’ Saul yntef oedd yn anreithiaw yr Eccles, gan vyned y mewn y bop tuy, a’ thynny allan ’wyr a’ gwragedd, a ei dody yn‐carchar.
4Ac wyntwy yr ei ’oyscaresit ar lled, a dramwyesont gan praegethy y gair.
5Yno yd aeth Philip i ddinas o Samareia, ac a precethawdd Christ yddwynt.
6A’r popul a ddalioð ar yr hyn a ddywedei Philip, o vnvryd, yn gwrandaw ac yn gweled y gwyrthiae ’r ei wnaethei ef.
7Can ys ysprytion aflan gan lefain a llef vchel, a ddaeth allan o lawereð a berchenogit ganthvvynt: a’llaweredd yn gleifon o’r parlys, ac yn gloffion, a iachawyt.
8Ac ydd oedd gorvoledd mawr yn y dinas hono.
9Ac ydd oeð o’r blaen yn y dinas neb gwr aei enw Simon, yr hwn ytoedd swynwr, ac a ampwyllesei bopul Samareia, gan ðywedyt, e vot ehun yn ryvv vvr mawr.
10Wrth ba vn ydd ydd oeddent wy yn dysgwyl o’r lleiaf yd y mwyaf, gan ddywedyt, Y gvvr hwn yw ’r mawr allu Dew,
11Ac wyntwy oedd yn dysgwyl wrthaw, erwydd iddaw yn hir o amser y ehudaw hwy a swynion.
12Eithyr yn gyflym ac y credesont i Philip, y ytoedd yn precethy y pethe y berthynent i deyrnas Dew, ac yn Enw Iesu Christ, ei batyddit y gwyr, a’r gwragedd.
13Yno Simon yntef hefyt a gredawdd ac a vatyddiwyt, ac a ddylynawdd Philip, ac a chwithawdd arno, pan welawdd yr arwyddion ar gwyrthiae mawrion r’ ei wnaethoeddit.
Yr Epistol ddie Marth y Sul gwyn.
14A’ phan glybu yr Apostolon oedd yn‐Caerusalem, dderbyn o Samareia ’air Dew, ys anvonesont attwynt Petr ac Ioan:
15yr ei wedy ei dyvot i waered, y weddiesont drostwynt, ar dderbyn o hauwynt, yr Yspryt glan:
16(Can na ddaethei ef eto ar yr vn o hāwynt, amyn ei batyddiaw a wnaethit yn vnic yn Enw yr Arglwydd Iesu.
17Yno y gesodesont ei dwylaw arnaddvvynt, ac wy a dderbyniesont yr Yspryt glan.
18Ac pan welawdd Simon, mae trwy ’osot dwylaw yr Apostolon y dodit yr Yspryt glan, e gynygawdd yddwynt ariant,
19gan ddywedyt, Rowch i minef hefyt y meddiant hwn, yd pan yw ar bwy bynac y gesodwyf vy dwylo, bod iddo dderbyn yr Yspryt glan.
20Yno y dyvot Petr wrthaw, Coller dy ariant y gyd a thi, can ys tybieist y perir dawn Dew ac ariant.
21Nid oes yty ran na chymdeithas yn y devnyð hwn: can nad yw dy galon yn vnion geyr bron Dew.
22Edivarha gan hyny o bleit dy ddrugioni hyn, ac gweddia Ddew, a’s agatvydd, bod maddae meddwl dy galon.
23Can ys gwelaf dy vot ym‐bystyl chwerwder, ac yn rhwymedigaeth enwiredd.
24Yno ydd atebawdd Simon ac y dyvot, Gweddiw‐chwi drosof ar yr Arglwyð, na bo i ddim o hyn a ddywedesoch, ðyvot arnaf.
25Ac velly wynt vvy gwedy yðwynt testio a’ lavaru gair yr Arglwyð, a ymchwelesont y Caerusalem, ac a precethesont‐yr‐Euangel yn llawer o ddinasoedd y Samareieit.
26Yno Angel yr Arglwydd a lavarodd wrth Philip, gan ddywedyt, Cyvot, a’ cherdd tu a’r Dehau ir ffordd ’sy yn mynet y waeret o Gaerusalem i ddinas Gaza, yr hon ’sy yn ðyffaith.
27Ac ef a gyvodes ac aeth rac ddaw: ac wele ryw Eunuch o Ethiopia sef Raglaw Candace Brēhines yr Ethiopiait, yr hwn oeð yn llywodraethy y oll drysor hei, ac oedd yn dyvot i Gaerusalem y addoly.
28Ac val ydd oedd ef yn adymchwelyt ac yn eistedd yn y gerbyt, y darllenai ef Esaias y Prophwyt.
29Yno y dyvot yr Yspryt wrth Philip, Cerdda‐yn‐nes ac ymwasc a’r cerbyt acw.
30Ac Philip a redawdd attaw, ac ei clywodd yn darllen y Prophet Esaias, ac a ddyvot. A ddeelly di yr hynn ydd wyt yn ei ddarllen?
31Ac ef a ddyvot, Py wedd y metraf, o ðiethyr bot ryw vn im arwein ir ffordd? Ac ef deisyvawdd ar Philip escen y vynydd, ac eistedd gyd ac ef.
32A’r lle, or Scrythur ydd oedd ef yn ei ddarllen ytoedd hwn, Ef a arwenit mal davat ir lladdfa: ac mal oen mut ger‐bron ei gneifiwr, velly nid agorai ef ei enae.
33Yn ei ’oystyngeiddrwydd ydarchafwyt ei varnedigeth: a’ phwy a venaic ei ’enedigaeth? can ys dugir ei vuchedd oyar y ddaear.
34Yno ydd atebawdd yr Eunuch wrth Philip, ac y dyvot, atolwg yty, am pwy y dywait y Prophet hynn? am dano ehun, ai am vn arall?
35Yno ydd agores Philip ei enae, ac a ddechreawdd ar yr Scripthur hwnw, ac a a precethawdd iddo’r Iesu.
36Ac mal ydd oeddent yn cyd ymddeith ffordd, y daethant at ryw ðwfr a’r Eunuch a ddyvot, Wele, llyma ddwfyr: pa beth a lestair na’m badyddijr?
37Ac Philip a ddyvot wrthaw, A’s credy oth oll calon, ef ellir. Ac ef atebawdd ac a ddyvot. Credaf vot Iesu Christ yn vap Dew,
38Yno y gorchymynodd ef bot sefyll o’r cerbyt: ac vvy ddescenesont ill dau ir dwfr, a’ Philip a’r Eunuch, ac ef ei batiddiawdd.
39Ac yn gytrym ac yr escenesont i vynydd o’r dwfr, ydd aeth Yspryt yr Arglwydd a Philip canthavv, a’r Eunuch ny’s gweles ef mwyach: ac velly ydd aeth ef y ffordd gan lawenhay.
40Ac Philip a gaffat yn dinas Azotus, ac ef a dramwyawdd gan precethy‐yr‐Euangel yn yr oll ddinasoedd, yd y ny ddaeth ef i Cesareia.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.