1MAwr yw’r Arglwydd, a’ thra molianus, yn dinas ein Dew, ar ei vynyth santaið
2[Ys] prydverth o le mynyth Tsijon yn-tuedd y Gogledd: llewenyð i’r oll ddaiar, dinas y Brenhin mawr.
3Yn ei llysoedd yr adweinir Dew yn noddva.
4Can ys wely, y Brenhinedd y gydymgasclasant, ac aethant ynghyt.
5Pan welsont, rryvedd vu ganthwynt: echrynesont, eu tra gwethladwyt.
6Ofn y ddaeth arnynt yno, gofid, val ar wraic wrth=escor plentyn.
7Megis a gwynt Dwyrein y drylly longae Tarschisch, velly darvu eu dinistrio.
8Megis y clywsam, velly y gwelsam yn-Dinas Arglwyð y lluoedd, yn-dinas ein Dew: Dew hei ffyrfá yn tragywydd. Sélah.
9Dysgwyl ydd ym â Ddew dy drugarogrwydd, ympervedd dy Templ.
10A ðew, megis dy Enw, velly y mae voliant yd dyben byt: dy ddeheulaw ys yd yn llawn cyfiawnder.
11Llawenhaet mynydd Tsijon, a’bit hyfryt merchet Iudáh, o bleit dy varneu.
12Amgylchynwch Tsijon a’ chompeswch hi, a’ rhivwch hi thyrae.
13 Deliwch yn graff ar hi magwyr: edrychwch ar hi thyrae, mal y galloch venegy ir genedlaeth y ddel yn ol.
14Can ys y Dew hwn yw’n Dew ni yn oes oesoeð: efe, vydd ein tywysawc yd angae.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.