1. Ioan 3 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iij.1 Dirfawr gariat Dew arnam, 7 A p’hwedo y dlyem nineu drachefn garu ei gylydd.

1GWelwch, pa’r y gariat a roes y Tat arnam, val in gelwit yn veibion Dew: o bleit hyn nyd edwyn y byt chwi, can nad edwyn e efe.

2 A garedigion, yr owrhon ydd ym ni veibion Dew, eithyr nyd ymddangosawdd eto pa beth vyddwn: a’ gwyðam pan ymddangoso ef, y byddwn gyffelip yddaw: can ys gwelwn ef megis ac y mae ef.

3A’ phop vn ’sy ganthaw y gobaith hyn yntho ef, ei purha y hun, megis ac y mae yntef yn bur.

4Pwy pynac a wna bechot, y mae ef hefyt y gwneuthur ancyfraith: cans ancyfraith yw pechot.

5A’ gwyddoch may ymddangos a wnaeth ef er dileu yn pechotae ni, ac ynthaw ef nyd oes pechot.

6Pwy pynac ’sy ’n aros yntho ef, ny phecha ef: pwy pynac a pecha, ny welawdd ddim o hanaw, ac ny’s adnabu ef.

7Blant bechain, na thwyllet nep chwi: yr hwn a wna gyfiawnder, ys y gyfiawn, megis y mae yntef yn gyfiawn.

8Hwn a wna bechot, o dðiavol y mae: can ys diavol a becha or dechreu: er mvvyn hyn yr ymddangosodd Map Dew, val yd atdodei ef weithredoedd diavol.

9Pop vn a anet o Ddew, ny phecha: can ys y had ef ys ydd yn aros ynthaw, ac ny all ef bechu, can y eni ef o Dduw.

10 Yn hyn yr adwenir plant Dew, a phlant diavol: pwy pynac ny wna gyfiawnder, nyd ef yw o Ddew, na’r hwn ny char ei vrawt.

11Can ys hyn yw’r genadwri, a glywsoch or dechreuat, bot y ni garu eu gylydd,

12Nyd mal Cain yr hvvn oeð or Vall, ac a ladoð ei vrawt: ac er mwyn pa beth y lladawdd ef vo? can vot y weithredoedd e yhun yn ddrwc, a’r ei ei vrawt yn dda.

Yr Epistol yr ij. Sul gwedy yr Trintot.

13Na ryveddwch, vy‐broder, cyd casao y byt chwi.

14 Nyni a wyddom ddarvot ein ysmuto o varwolaeth y vywyt, can ein bot yn caru y broder: hwn ny charo ei vrawt, ’sy’ n aros yn angen.

15Pwy pynac a gasao ei vrawt, lladdwr‐dyn ydyw: a’ gwyddoch nad oes i vn lladwr‐dyn vywyt tragyvythawl yn aros ynthaw.

16Wrth hyn y gwybuom gariat, can yddo ef ddodi ei einioes drosom ni: a’ nineu a ddlem ddodi ein einioes dros ein broder.

17A’phwy pynac ysy ganthaw vywyt y byt hwn ac a wyl ei vrawt mewn eisieu, ac a gayo ei dostri oddywrthaw, p’wedd y trig cariat ar Ddew ynthaw?

18Vy plant‐bychain, na charwn ar’ air, nac ar davot yn vnic, eithyr ar weithred a’ gwirionedd.

19Ac wrth hyny y gwyddam ein bot or gwirionedd, ac y bydd y ni ger y vron ef ddiogelu ein calonneu.

20Can ys a’s ein caloneu a’n condemna, mwy yw Duw na’n caloneu, ac a wyr bop peth.

21Caredigion, a’s ein calon ni’n condemna, yno y mae y ni hyder ar Dduw.

22A’ pha beth bynac a archom, ni ei derbyniwn cantbaw, can y ni gadw ei ’orchymyneu, a’ gwneuthur y petheu ys y voddlawn yn ei ’olwc.

23Hwn gan hyny yw y ’orchymyn ef, vot y ni gredu yn Enw ei Vap Iesu Christ, a’ charu eu gylyð, mal y rroes ef ’orchymyn.

24Can ys yr hwn a gaidw y ’orchymynion ef, a drig ynto ef, ac yntef yntho ef: ac wrth hyn y gwyddam y vot ef yn aros ynom, ys ef o’r Yspryt y roddes ef y ni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help