1PAwl apostol Iesu Christ, trwy ordinhaad Dyw eyn keidwad, ar arglwydd, Iessu Christ eyn gobaith,
2At Tymotheus fy mab naturiol yn y ffydd: Gras, trugaredd, a heddwch can Ddyw eyn tad, a’ chan Christ Iessu eyn Arglwydd.
3Megis i dysyfais arnat aros yn Ephesus, pan aethym i ymaith i Vacedonia, gvvna velly, mal i gellych rybuddio rrai, na ddyscont amryw ddyskeidiaeth.
4Ag nad ystyriant chwedlay, ag achay anorffen, rrain kynt yddynt fagu questiwnay, nag edeiladaeth dywiol sy drwy ffydd.
5Can ys diwedd y gorchymyn ydiw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a ffyð ðiau.
6O ddiwrth y rrain i kiliasont rrai, ag a droysont at oferson,
7hwy a fynnen fod yn ddoctoriaid y gyfraith, heb na dyall yr hyn a ddoytont, nar pethau i boont yn i sikerhau.
8Nyni a wyddom, eisus taw da y gyfraith, os erfyr dyn hi yn gyfreithlon,
9can wybod hynn, na ddodwyd y gyfraith ir kyfion, eithr ir rrai afreolus ac ir anostyngedigion, ir hai andywiol, ar pechaduriaid, ir rrai enwir, a’ rrai anlan, i lawruddogion tad a’ llawruddogion mam, i lawruddogion‐dynion,
10ir putteniwyr, ir bwggeryddion, i ladron dynion, i rrai celwyddog, ir anudonwyr, ag od oys dim arall, rrwn sy wrthwyneb i athrawaeth iachus.
11Y sydd ar ol ’gogoneddus efengil y bengidedig ddyw, a ymddiriedwyd i myfi.
12Am hynny diolch i ddwy ir hwn, a roes ym allu ’sef Christ Iesu eyn Arglwyð: can ys ef am barnoð yn ffyðlon, ac am dodes yn eu wasanaeth:
13a’ mine or blaen yn cablwr, ag yn emlidiwr, ag yn draws: eithr trugarhau wrthyf a wnaeth ef: cans yn anwybodus i gwneuthym trwy angrredinieth.
14Eithyr tragorddigonawdd rrad eyn Arglwydd gida ffydd a chariad, hwn ’sydd yn‐Christ Iesu.
15Gair gwir yvv hvvnn, ag ym pob modd yn heuddu cymeriad, mai Christ Iesu a ddoeth ir byd i gadw pechaduriaid, o rrain pennaf ydwyfi.
16Eithr achos hyn i trugarhaodd wrthyf, mal i bai i Iesu Christ ðangos ynof yn gyntaf pob hir‐oddeu, ir syampl yddyntwy, rrain rrag llaw a grettont ynthaw herwyð y bowyd tragwyddol.
17Weithian ir brenin tragwyðol, difarwol, anweledigol, vnig synhwyrol Ddyw, i bo vrddas, a gogoniant yn oysoedd oesau, Amen.
18Y gorchymyn hwn i ddwyf yn y roddi attatti, fy mab Timotheus, mal ar ol y proffodolaethay, a gerddasout or blaen am danat, i gellech trwyddynt wy ymdrechu yr ymdrechiad ta,
19trwy gadw ffyð a’ chydwybod dda, rron a ddodasont rrai heibio, ac a wnaythont longgyfergoll am y ffydd.
20O rrai hyn i may Hymeneus, ac Alexander, rrain a ddyroddais i Satan, i ddyscu vddynt na chablont.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.