1CLodvorwch yr Arglwydd, galwch ar ei Enw: manegwch ei waithredoedd ym-plith y populoedd.
2Cenwch ydd-aw, canmolwch ef, a’ chyminwyllwch am ei oll ryveddodae.
3Bid eich gorvoledd yn ei Enw sanctaidd: ymlawenhaet calon y sawl y geisiant yr Arglwydd.
4Caisiwch yr Arglwydd a’ ei gedernit, caisiwch y wynep ef yn oystatawl.
5Coffewch ei ryveddodae, yr ei y wnaeth ef, y aruthroedd ef a’ barnae ei enae,
6Chwychwy had Abraham y was ef, blant Iaco y etholedigion ef.
7Ef e yw’r Arglwydd ein Dew: rhyd yr oll ddaiar y mae y varnae ef.
8Meddyliawdd bop amser am ei ddygymbot ei air, yr hwn a wnaeth e y vil o genedlaethae,
9Ys ef yr vn a wnaeth ef wrth Abraham, a ei lw wrth Isac:
10Ac ei gosododd y Iaco yn Ddeddyf, y Israel yn ddygymbot tragyvythawl,
11Can ddywedyt, I ti y rhoddaf dir Canaan rhandir eich etiveddiaeth.
12Cyd byddent ychydig o niver, ychydigion ac estronion yn y tir,
13A’ gorymddaith o genedl y genedl, o’r deyrnas at popul arall,
14Ac ny adawdd i nep wneythy cam a hwy, ac a gospoð Vrenhinedd erddynt,,
15Na chyhurddwch am rei enneiniawc, ac na ddrygwch vy-Prophwyti.
16Hefyt ef a alwodd newyn ar y tir, ac a ddinistriawdd oll gynnalieth bara.
17[Eithr] anvonawdd ef’wr rhac ei hwynep: dros was y gwerthwyt Ioseph.
18Poenesont ei draet mewn hual, ac e ddodwyt mewn haiairn,
19Yd pan ddaeth y amser nod, ac ymadrodd yr Arglwydd y lanhau ef.
20Anvonawdd y Brenhin, ac ei gellyngawdd: Llywawdr y popul ei rhyddhaodd.
21Gosodawdd ef yn Arglwydd ar ei duy, ac yn llywodraethwr ar ei oll veddiant,
22Val y rwymei ef ei dywysogion yn ol ei ewyllys, a’ dyscy y’w Henyddion ddoethinep.
23Yno yd aeth Israel ir Aipht,,ac Iaco oedd estran yn=tir cHam.
24Ac ef a angwanegawdd ei bopul yn ddirvawr, ac ei gwnaeth yn gadarnach na ei gorthrymwyr.
25Troes ef y calon hwy y gasau y bopul ef, ac ymddichellu a’ ei weision.
26Yno yd anvonawod ef Voysen ei was, Aaron yr hwn a ddywysesei.
27Dangosesont yn eu plith weithredoedd ei arwyddion, a’rhyveddodae yn-tir cHam.
28Anvonawdd ef dywyllwch, ac ef ei tywyllawdd: ac nid anvfyddesont y’w ’air.
29Ymchwelawdd ef ei dyfredd hwy yn waed, ac a laddoð ei pyscawt.
30Dygawdd ei tir hwy lyffaint, [ac] yn ystefyll ei Brenhinedd.
31Dywedawdd ef, a’ daeth pop ryw adnoc llau yn ei h’oll dervynae.
32Roddes yddwynt genllysc yn lle glaw, fflammae tan yn ei tiredd.
33Ac ef a drawodd ei gwinwydd a’r preniae fficus, ac a ddrylliawdd y prenniae ei tervyneu.
34 Dywedawð, a’ daeth y ceilioc rhedyn, a’r lindys beth aneirif:
35A bwytesont oll laswellt yn ei tir, ac a ysasont ffrwyth ei tudwedd.
36Hefyt trawodd ef oll gyntenit yn ei tir, dechreuait y h’ol nerth hwy.
37Ac ef y Duc hwy ymaith ac arian ac aur, ac nyd oedd vn gwan yn ei llwythae,
38Llawenychoð yr Aipht pan ymadawsont: canys dygwyddesei y hofn hwy arnwynt.
39Tanawdd ef wybren yn do, a thán y ’oleuo y nos.
40 Govynesont, ac ef a dduc soflieir, ac a bara nefoedd y llanwodd ef hwy.
41Agorawdd ef y graic, a’ dylifodd y dyfredd, ac a gerddawdd yn avonydd rhyd y sych-leoedd.
42Can ys cofiawdd ef ei air sanctaið wrth Abraham ei wasanaethwr,
43A duc ef y maith ei bopul mewn llawenydd, ei ðetholedigion a gorvoloedd, a’ llafur y populoedd a veddianesont,
44 Modd y catwent ei gyfreithieu, a’ chynnal ei Ddeðfeu. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.