1AC yn‐cylch y cyfamser hyny, yr estennoð Herod Vrenhin ei ddvvylaw y gystuðiaw yr ei or Ecclesi.
2Ac ef a laðawð Iaco brawd Ioan a chleddyf.
3A’ phan welas ei vot yn voddlawn gan yr Iuddaeon, ef aeth racddo, y ddalha Petr hefyt (ac dyddiae yr bara croyw ytoedd hi)
4ac wedy iddaw ei ddalha, y dodes ef yn‐carchar, ac ei rhoðes at petwar petwarieit milwyr yew gadw, gan veddwl ar ol y Pasc y ddwyn e allan ir popul.
5Ac velly Petr a getwit yn‐carchar, a’ gweddi ddifrifol a wnait gan yr Eccles ar Ddew y drostaw.
6Ac pan oedd Herod aei vryd ar y ddwyn ef allan ir bohul, y nos hon o y cyscawdd Petr rryng dau vilwr, wedy ei rwymo a dwy catwyn, a’r ceidweit rac y drws a gatwent y carchar.
7Ac wele, Angel yr Arglwydd yn dyvot ar ei huchaf, a’ llewych oedd yn dyscleiriaw yn y tuy, ac ef yn taro Petr ar ei ystlys, ac yn ei gyvody i vynydd, gan ddywedyt, Cyvot yn vuan. A’ei gatwynae a syrthiasant o iar ei ddwylaw.
8Dywedyt o’r Angel wrthaw, Ymwregysa, a ’rhwym dy sandalae vvrthyt. Ac velly y gwnaeth. Yno y dywedodd wrthaw. Gwisc dy ddillat am danat, a’ chanlyn vi.
9Ac Petr a ðaeth allan ac ei canlynawdd, ac ny wyddiat ef vot yn wir, y peth a wnaethit gan yr Angel, anid tybyet mae gweledigaeth a welsai.
10Weithiam wedy ei mynet eb law y gyntaf ar ail gadwriaeth, wy ðaethant ir porth haiarn, y arwein ir dinas, yr hwn a ymagorawdd yddwynt o ei waith ehun, ac wy aethant allan, ac a drawenesont trwy vn heol, ac eb‐oludd ydd ymedawodd yr Angel y wrthaw.
11Ac wedy ymchwelyt Petr ato ehun, y dyvot, Yn awr y gwnn yn ddiau, mae yr Arglwydd a dd’anvonas ei Angel, ac am gwaredawdd i o law Herod, ac y wrth ddysgwyliat popul yr Iuddaeon.
12Ac wrth iddaw adveðylied, e ðaeth i duy Vair, vam Ioan, ’rhwn oedd ei gyfenw’ Marc, lle ydd oedd llawer wedy’r ymgascly ac yn gweddiaw.
13Ac wedi i Petr guro drws yr entri, y daeth morwyn allan y wrandaw, aihenw Rhode.
14A’ phan adnabu hi lais Petr, nid agores hi ddrvvs yr entri gan lewenydd, eithyr rhedec y mewn, a’ manegy bot Petr yn sefyll gerwynep yr entri.
15Ac wytheu ddywedesont wrthei, Ydd wyt ti wedy ynvydy. A’ hithae a gadarnhaodd vot y peth velly. Yno y dywedesant wy, Ei Angel ef ytyw.
16Ac Petr oedd yn parhay yn curo, a’ gwedy yddwynt ei agori, a’ y welet ef, sanny a wnaeth arnwynt.
17Ac ef a amneidiawdd arnwynt a llaw, ar dewi o hanwynt, ac a vanagawdd yddwynt, paddelw y dugesei yr Arglwydd ef allan o’r carchar. Ac ef a ddyvot, Evvch‐y‐ddangos y pethae hyn i Iaco ac ir broder: ac ef a ymadawodd ac a hyntiodd i le arall.
18Eithr pan ddyddhaodd hi, y bu trallot nyd bychan ymplith y milwyr, pa beth a wnaethit i Petr.
19Ac wedy i Herod y geisiaw ef, ac eb ei gahel, ef a holawdd y ceidweit, ac a ’orchymynawdd ei harwein ymaith yvv poeni. Ac ef aeth y waered o Iudaia i Caisareia, ac a arosodd ynavv.
20Ac Herod oedd aei vryd ar ryvela yn y erbyn wy o Tyrus a Sidon: ac wyntwy oll a ddaethant yn vn vryd attaw, ac wedy troi Blastus oedd was stavell yr Brenhin, erchy heddwch a ’orugant, can ys bot maethddrin y gwlad hwy gan dir y Brenhin.
21Ac ar ddyddgwaith nodedic, ydd ymwiscodd Herod yn‐gwisc brenhinawl, ac ydd eisteddawð yn y vrawdle, ac y areithiawdd wrthwynt.
22A’r popul a roes gawri, gan ddyvvedyt, Llef Dew, ac nyd dyn.
23Ac yn ehegr Angel yr Arglwydd y trawodd ef, can na roðesei ef y gogoniant y Ddew, ac ef a eswyt gan bryvet, ac a ddyffoddes.
24A’ gair Dew a dyvot, ac a liosocwyt
25Yno Barnabas ac Saul a ymchwelesont o Gaerusalaem, gwedy yddwynt gyflawny ei swydd, ac a gymeresont gyd a’n hwy Ioan, yr hwn y gyfenwit, Marc.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.