1YR Henafgwr at y ddetholedic Arglwyddes, a’i phlant, yr ein a garaf yn y gwirioneð: ac nyd mivi yn vnic, eithr yr oll ’rei a adnabuont y gwirionedd,
2Er mwyn y gwirionedd ys ydd yn trigio ynom, ac a vydd y gyd a ni yn tragyvyth.
3Bit rrat, gyd a chwi, trugaredd, a’ thangneðyf ywrth Ddyw Tat, ac o ddywrth yr Arglwydd Iesu Christ Vap y Tat, y gyd gwirionedd a’ chariat.
4Llawen iawn vu genyf, gahel o honaf dy blant yn rrodio yn‐gwirionedd, val yd erbyniasam ’orchymyn gan y Tat.
5Ac yr owrhon yr ervyniaf yt’, Arglwyddes, (nyd mal vn yn yscrivennu gorchymyn newyð yty, eithr yr hwn oedd y ni or dechreuat) bot y ni garu eu gylydd.
6A’ hwn yw’r cariat, bot y ni rodio ar ol y ’orchymynion ef. Hwn yw’r gorchymyn, bot ychwy val y clywsoch or dechreu, rodio ynthaw.
7Can ys llawer o twyllwyr a ddaethant y mevvn ir byt, yr ei ny choffessant ddyvot Iesu Christ yn‐cnawt. Yr hwn ’sy gyfryw, twyllwr yw ac Antichrist.
8Edrychwch arnoch ychunain, na chollom y petheu, y wnaetham, eithyr val yd erbyniom lawn gyfloc.
9Pwy pynac a drosedda ac nyd erys yn‐dysceideth Christ, nyd oes Dyw yðaw. Yr hwn a erys yn‐dysceidaeth Christ, y mae yðo y Tat a’r Map.
10A’s daw nep atoch, ac eb ddwyn y ddyscedaeth hon, na dderbyniwch ef ir tuy, ac na ddywedwch wrtho, Hyn‐pych‐well.
11Can ys yr hwn a ðywet wrtho, Hynpych‐well, ys y cyfrannoc oy weithredoedd drwc ef.
12Cyd bei cenyf lawer o betheu yw scrivennu atoch, er hyny nyd scrivennvvn a phapyr ac inc: eithyr gobeitho ydd vvyf ddyvot atoch, ac ymadrodd geneu yn‐geu, mal y cyflawner ein llawenydd.
13Y mae meibion dy ddetholedic chwaer ith anerch. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.