1IUdas gwasanaethwr Iesu Christ, a’ brawt Iaco, at yr ei a ’alwyt ac a sancteiðiwyt y gan Ddyw Tat, ac ynt gatwedic i Iesu Christ:
2Trugaredd ywch, a’ thangneddyf a’ chariat a liosocer.
3 Vy‐caredigion, pā rois vy‐
cwbl ddiwydrwydd ar escrivenu atoch am yr iechydvvrieth cyfredinavvl, angenraid oedd y mi scrivenu atoch ich annoc, y ymdrech‐yn‐ddirving ym‐plait y ffydd, rhon a roed vnwaith ir Sainct.4Can ys y mae rryw ddynion wedy ymlusco y mewn yr ei oeddent gynt wedy rrac ordino ir varnedigeth hon: andywolion ytynt yr ei ’sy yn ymchwelyd rrat Dyw yn ddrythyllvvch, ac yn gwadu Dyw yr Arglwyð vnic, a’n hArglwyð Iesu Christ.
5Wollysio gan hynny ydd wyf ych coffan, yn gymeint ac ychwy vnwaith wybot hyn, p’wedd y bu ir Arglwydd, gwedy darvot iddo waredu y bopul allan or Aipht, destruo gwedy hyny yr ei ny chredent.
6Yr Angelon hefyt yr ei ny chatwasāt eu dechreuat cyntaf, eithyr gadael eu preswylfa y hun, ef eu catwodd yn‐catwynae tragyvythal y dan dywyllwch yd varn y dydd mawr.
7Megis Sodoma a’ Gomorrha, a’r dinasoedd oi hamgylch, yr ei yn gyffelip vodd ac wyntwy a wnaethant ’odinep, ac a ddilynesont gnawt arall, a ’osodwyt yn esempl, ac yn dyoddef dialeð tan tragyvythawl.
8Yn gyffelip hagen y mae hefyt y breuddwydwyr hyn yn halogi’r cnawt, ac yn tremygu llywodraeth, ac yn cablu yr ei‐’sy mewn‐awdurtot
9Eithyr Mihacael yr Archangel, pan ymrysonawdd ef yn erbyn diavol, ac ymðadleu am corph Moysen ny veiddiawdd y veio ef a chableu anyd dywedyt Ceryddit yr Arglwydd di.
10Eithyr yr hein a gaplant y petheu ny wyddant: a ’pha betheu bynac a wyddant yn anianawl, megis aniueilieit, ys y yn ddireswm, yn y petheu hyny yr ymlygrant.
11Gwae hwyntvvy; can ys cerddesont yn ffordd Cain, ac eu trosgwyddwyt can dwylliat cyfloc Balaam, ac eu cyfercollwyt yn‐gwrthddywediat Core.
12Yr‐ei‐hyn ynt vrycheu yn eich cariatvvleddoedd pan vont yn cydwledda a chvvi, yn ddiofn, yn eu pescy y hunain: wybrennæ ynt diddwfr, wedy eu cylcharwein gan wyntoedd, prenneu llygredic eb ffrwyth, ddwywaith yn veirwon, ac wedy eu diwreiddio.
13Tonneu cynddeirioc y mor ydynt, yn ewynnu allan eu cywilydd y hunain: ser gwibioc, ir ei y catwyt duedd y tywyllwch yn dragyvyth.
14Ac Enoch hefyt y saithfet o Adda, a prophwytawdd am y cyfryw ’rei, can ddywedyt, Wele, yr Arglwyð ’sy yn dyvot gyd a myrðion o ei sainctæ,
15I roi barn yn erbyn pawp, ac y argyweddu yr oll andewolion yn y plith hwy am eu holl andewiol weithredoedd, yr ei a wnaethant wy yn andewiol, ac am eu holl ymadroddion calet yr ei a ðywedei pechaturieit andewiol yn eu herbyn.
16Yr ei hyn ynt murmurwyr, achwynwyr, ’rei yn cerddet yn ol y chwanteu y hunain: yr ei a ðyweit eu geneu valch‐betheu, yn rryveddu personae dynion, o bleit caffaeliat.
17Eithyr, garedigion, cofiwch y gairieu y ragddywetpwyt y gan Apostolieit Iesu Christ,
18Can yddyntvvy ðywedyt ywch’ y byddei gwatworwyr yn yr amser dywethaf, yr ei a gerddent yn ol eu andewiol chwanteu eu hunain.
19Yr hein ynt y sawl a ymohanant, cnawdolion, eb vot yr Yspryt ganthynt.
20Eithr, chvvychwi garedigion, ymadeiladwch yn eich sancteiddiaf ffydd, gan weddiaw yn yr Yspryt glan,
21Ac ymgadwch yn‐cariat Dyw, gan edrych am drugaredd Iesu Christ, y vywyt tragyvythawl.
22A’ thrugarhewch wrth ’rei, gan amravael‐varnu,
23A’ eraill cadwch ac ofn, gan eu tynnu allan o’r tan, a’ chasau ys y wisc vrychedig y gan y cnawt.
24Ac i hwn a ddygon eich cadw, yn ddigwymp, ach gosot yn ddiveius yn‐gwydd ei ’ogoniant trwy ’orvoledd,
25 Ys ef, y Ddyw yr vnic ddoeth, ein Iachawdur y bo gogoniant a’ mawrygrwydd, ac arglwyðiaeth, a’ meddiant, ys yr owrhon ac yn oll oesoedd, Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.