1YNo y daeth ef i Derbe ac i Listra: ac wele, ydd oedd ynaw nep discipul aei enw Timotheus, map i wraic oedd Iuðewes ac yn credy, aei dat ytoedd Groegwr.
2I hwn ydd oedd y broder oedd yn Lystra ac Iconium, yn rhoi gair da.
3Ac am hyny Paul a vynnei iddaw vyned ymaith canthaw, ac ei cymerth ac ei enwaedawdd, o bleit yr Iuddaeon y oedd yn y lleoedd hyny: can ys gwyddynt pawp, vot ei dat ef yn groecwr:
4Ac mal ydd oeddent yn ymddeith trwy yr dinasoedd, wy roesont atwynt yr yr athronddysce y ei gadw, y ddaroeð y ordeiniaw gan yr Apostolon ar Henafeit, y oedd yn‐Caerusalem.
5Ac velly y cadarnheit yr Ecclesidd yn y ffyð, ac yr ampleynt o riuedi beunydd.
6Ac wedy yddwynt tramwy dros Phrygia, a’ gorwlad Galacia, ei goharddwyt gan yr Yspryt glan rac precethy ’r gair yn Asia.
7Yno yd aethant y Mysya, ac a geisiasant vyned i Bithynia: anid na ddyoddefawdd yr Yspryt yddwynt.
8Ac am hyny mynet a wnaethant trwy Mysia, ac a ddaethant y wared y Troas,
9lle ymðāgoses gweledigaeth i Paul y nos. Bot gwr yno yn sefyl’ o Macedonia, ac yn gweddiaw arnaw, gan ddywedyt, Dyred y Macedonia, a’ chymporth ni.
10A’ gwedy gwelet o hanaw y weledigaeth, yn y van yr ymparatoesam i vynet i Macedonia, gan ein bot yn ddiogel mae yr Arglwydd a’n galwesei y precethy ’r Euangel yddwynt vvy.
11Yno mordwyaw a wnaetham o Troas, ac vniongyrch dyvot i Samothracia, a’ thranoeth i Neapolis,
12ac o yno y Philippi yr hon ysy ddinas pennaf ym parthae Macedonia, ae thrigianwyr a hanoeðynt o Ruuain, ac yn y dinas hono y buam yn aros niuer o ddiðieu.
13Ac ar y dydd Sabbath, ydd aetham allan o’r dinas gar llaw avon, lle byddit gynefin a gweddiaw: ac eisteðesam y lavvr, ac ymðinasam a’r gwrageð, a ðaethesent yn‐cyt.
14A’ rryw wreic y elwit Lydia, erwerthai burpur, o ðinas y Thyatiriait, yr hon a ddolei Ddew, a wrandawodd arnam: yr hon a egorodd yr Arglwydd hei chalon, i ystyriaw ar y pethae a adroddit gan Paul.
15A’ gwedy y batyðio hi, ai thuylvvyth, ydd ervyniawdd y ni, gan ddywedyt, A’s barnesoch vy‐vot i yn ffyddlawn ir Arglwydd, dewch y mewn im tuy, ac aroswch yno: a hi a’n cympellawdd.
16Ac ef a ’orucpwyt, a nyni yn mynet i weddiaw, bot i nebun vachcennes ac yði yspryt dewindabeth, gyhwrdd a ni, yr hon a barei elw mawr ydd ei hargswyddi wrth ddewiniaw.
17Hon a ddylynei ar ol Paul a’ nineu, ac a lefei gan ddywedyt, Y dynion hyn yw gweision y Dew goruchaf, yr ei ys y’n dangos yni fforð yr iechyt.
18A ’hynn a wnaeth hi lawer dydd: eithyr Paul yn poenedic ganthaw hyn, a’ ledymchwelodd ac a ddyvot wrch yr yspryt, Gorchymynaf yty yn Enw Iesu Christ vynet allau o hanei. Ac ef a ddaeth al’an yr awr hono.
19Pellach pan welas hi arglwyddi vyned ymaith gobeith y elw hwy, dalha Paul a’ Sylas a wnaethant, a’ ei llusco ir varchnatva at y Raclawieit,
20a’y harwein hwy at y llywiawdwyr, gan ddywedyt, Y mae yr dynion hynn ac wynt yn Iuddaeon, yn cyntyrfy ein dinas ac yn precethy moesae,
21a’r nyd cyfreithlawn y ni ei derbyn, na ei cadw, a’ nyni yn Runveinieit.
22A’r tyrfa a gydgodes yn y h’erbyn hwy, a’r llywyawdwyr a rwygesont h’ei dillat, ac a ’orchymynesont ei curaw‐a‐gwiail.
23Ac wedy dody llawer gwialennot yddwynt, wy ei tavlesont i garchar, gan ’orchymyn i geidwat y carchar y cadw wy yn ddiescaelus.
24Yr hwn pan derbyniawð gyfryw ’orchymyn, y bwriodd hwy ir carchar canolaf, ac a rwymodd ei traed yn y cyffion.
25Ac am haner nos y gweddiawdd Paul a’ Sylas, ac y can‐molasant Ddew: a’r carcharorion y clywsant wy.
26Ac yn ddysyfyt y bu daiar‐gryn mawr, yd yn y yscytwyt dysailiae yr carchar: ac yn ebrwydd yr agores yr oll ddrysae, a’ Rwymae pawp a ryddhawyt.
27Yno goarcheidwat y carchar wedy dihuno, pan ganvu ddrws y carchar yn agoret, a dynnawdd ei gleddyf allan, ac a vynnesei ei lað ehun, gan dybieit cilio o’r carcharorion.
28Ac Paul a lefawdd a ei lawnllef, gan ddywedyt, Na wna ddim drwc yty hun: can ys ydd ym ni yma oll.
29Yno y galwoð ef am ’olaeni, ac y rruthiawdd y mewn ac yd aeth yn echrynedic, ac y dygwyddawdd y lawr geyr‐bron Paul ac Silas,
30ac y duc wy allan, ac a ddyvot, Arglwyði, pab beth ’sydd rait ymy ei wneythy’r, y vot yn gatwedic?
31Ac wynte a ddywetsant, Cred yn yr Arglwydd Iesu Christ a’ chatwedic vyddy, ti ath tuylwyth.
32Ac wy a precethesont yddaw ’air yr Arglwydd, ac i pawp oedd yn ei duy.
33Ac yno ef ei cymerawð hwy yr awr hono o’r nos, ac a ’olchawdd ei cleisiae, ac y batyddiwyt ef a’ ei oll bewchenogaeth ebohir.
34Ac wedy iðo y dwyn hwy yew duy, e ’osodes vort geyr ei bron, ac a vu lawen ganthaw y vot ef a’ ei duylu yn credy yn‐Dew.
35Ac wedy iddi ddyddhay, ydd anvones y llywiawdwyr, y caisiait, gan dywedyt, Gellyngwch ymaith y dynion hynny.
36Yno y managawdd ceidwat y carchar yr ymadraddion hynn i Paul, gan ddyvvedyt, Y llywyawdwyr a ddāvonesont ich gellwng: yn awr am hyny tynnwch ymaith, ac ewch yn heddwch.
37Yno y dyvot Paul wrthwynt, Gwedy darvot yddwynt ein bayddu yn gyhoedd eb ein barny, a’ nineu yn Ruuainiait, wy a’n bwriesont yn‐carcar, ac yr owrhon a vynnent wy ein tavlu ni allan yn ddirgel? nac e ðim; eithyr dawant wy, a’ ducant ni allan.
38A’r caisiait a vanegesont y geiriae hynn ir llywawdwyr, ac hvvy a ofnesont pan glywsant mae Ruuainait oeddent.
39Yno yd aethant ac atoligesont yddynt, ac eu ducesont allan, ac a ddeisyfesont arnynt vyned allan o’r dinas.
40Ac wy athant allan o’r carchar, ac a ddaethant y mewn i duy Lydia: wedy yddwynt welet y broder, ei diddany a’ ’orugant, a mynet ymddaith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.