2. Corinthieit 11 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xj.Mae yn dangos mor wyllysgar ydyw ef yðynt. Ardderchawgrwydd ei weinidogeth ef. A’i astudrwydd ynðei. Hoccedion y gau ebestyl. Trawsfarn y Corinthieit. A’i volianneu yntef.

1 OCh na ’oddefech y chydic ar vy ynfydrwydd, ac yn ddilys yð ywch im goddef.

2Can ys eiddigus wyf am danoch, ac eiddigeð Duwiol: can ys darperais chwi i vn gwra y’ch gosot vegis morwyn bur i Christ:

3ac ydd wyf yn ofni rac megis y twyllawdd y serph Eua trwy hei challter, velly bot eich meðyliae chwitheu yn l’ygredic a’ diryvvio ywrth y semlrwydd ys ydd yn‐Christ.

4O bleit a’s hwn a ddaw, a precetha amgen Iesu na’r vn a precethesam ni: neu a’ derbyniwch amgen yspryt nac a dderbyniesoch: neu amgen Euāgel, nac a dderbyniesoch, tec y gallesech y ddyoðe ef.

5Can ys im tyb nyd oeðwn yn iselach na’r gwir bennaf Apostolon.

6A’ chyd bvvyf drwscl o ymadrodd, er hyny nyd vvyf velly yn‐gwybodaeth, eithr yn eich plith chwi in eglurhawyt yn ollawl, ym‐pop dim.

7A wneuthum i ar vai, can i mi ymestwng vy hun, val y derchefit chwi, a’ chan i mi precethu y chwi Euangel Christ yn rhat?

8Ecclesidd ereill a espeliais, gan gymeryd cyfloc ganthynt er mvvyn gvvnenthur gwasanaeth y chwi?

9A’ phan oeddwn yn presennol y gyd a chwi, ac arnaf eisieu, ny vu vy‐diogi yn ammorth i nebun: can ys hyn a vyddei arnaf ei eisieu, a gwplay ’r brodur a ðelynt o Macedonia, ac ym‐pop dim ydd ymgedwais ac ydd ymgadwaf yn ðibwys arnoch.

10Y mae gwirionedd Christ ynof, na ’oarchëir y gorvoledd hyn yn v’erbyn yn‐gwledydd Achaia.

11Paam? ai can na charaf chwi? Duw ei gwyr.

12Eithr yr hyn r’wyf yn ei wneuthur, hyny a wnaf: val y torwyf ymaith achos ywrth yr ei a ðeisyfent gael achos, val y ceffit hwy yn gyffelip i ni yn yr hyn y maent, yn ymhoffy.

13Can ys cyfryw geu ebestyl, gweithwyr twyllodrus ynt, wedy ’r ymrithiaw yn Ebes ylieit Christ.

14Ac nyd rhyvedd: o bleit yntef Satan a ymrithia yn Angel y goleuni.

15Cā hyny nyd mawr yw, cyd ymrithio y wenidogion ef, val peten wenidogion cyfiawnder, yr ei vydd ei dywedd erwydd y gwaithredoedd hwy.

16Trachefn y dywedaf, na thybiet neb vy‐bot i yn ynfyd: neu ynte cymerwch vi val vn ynfyd, val y gallwy vinef hefyt ymffrostio ycydig.

17Yr hyn a ðywedaf, ny ðywedaf erwyð yr Arglwyð: eithr val o ynvydrwyð, yn y vawr‐ffrost hon veuvi.

18Can vot llawer yn ymhoffy erwyð y cnawt, minef a ymhoffa hefyt.

Yr Epistol ar y Sul Sexagesima

19Can ys chwi ddyoddefwch yn llawen vn ynvyt, a chwychwi yn ddoethion.

20Can ys goddefwch pe caethiwei vn chwi, pe bei vn ich ysu, pe bei vn yn dwyn y arnoch, pe bei vn yn ymðerchafu, pe trawei vn chwi ar eich wynep.

21Am warthad yð wyf yn dywedyt: megis pe bysem yn weinion: eithr ym‐pa beth bynac y bo neb hyderus (dywedaf yn ynfyt) hyderus yw vynef hefyt.

22Ebraieit ynt, velly vinef: Israelieit ynt, velly vinef: had Abraham ynt, velly vinef:

23gwenidogion Christ ynt (dywedaf val ynwyt) mwy yw vi: mewn travaelion ym amlach: mewn ffonodiae dros vesur: yn carchare yn amlach: yn bron angeue yn vynych.

24Can yr Iuddeon pempgwaith yd erbyniais ddauugain gvvialennot anyd vn.

25Teirgwaith im baydwyt a gwiail: vn waith im llapyðwyt: teirgwaith y tores llong arnaf: nos a’dydd y bum yn y dwfn‐vor.

26Yn ymddeith y bum yn vynych, ym‐periclon llifeiriaint, ym‐periclae llatron, ym‐periclon vy genetleth vyhun, ym‐periclon gan y Cenetloeð, ym‐periclon yn y dinas, ym‐periclon yn y diffeithvvch, ym‐periclon yn y mor, ym‐periclon ym‐plith gauvrodur,

27ym‐blinder a’ lluddet, yn‐gwiliae yn vynech, yn newyn a’sychet, yn vmprydie yn wnech, mewn anwyt a’ noethi.

28Eb law y petheu a ddygvvydd o ddyallan, y mae arnaf gymelri mawr beunydd, nid amgen no gofal tros yr oll Ecclesi.

29Pwy ’sy wā, ac nyd yw vinef wan? pwy a dramcwyddir, na loscwy vi?

30A’s dir ymi ymhoffy, mi a ymhoffa o betheu vy‐gwendit.

31Y Duw, ’sef Tat ein Arglwyð Iesu Christ, yr hwn ’sy vendigedic yn oes oesoedd, a wyr nad wyf yn dywedyt cel‐wyd.

32Yn Damasco llywiawdr y popul y dan Vrenhin Aretas a barawdd wilio dinas y Damascieit, ac a vynesei vy‐dalha i.

33A’ thrwy ffenestr im gellyngwyt y lawr mewn cawell trwy’r vagwyr, ac a ddiengais rrac ei ddwylaw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help