1AC e ddarvu yn y dyddiae hyny, dyuot o ’orchymyn ywrth Augustus Caisar i vot trethy yr oll vyt.
2(Y trethiat cyntaf hyn a wnaed pan oedd Cyrenius yn llywiawdraethy Syria.)
3Ac am hyny yð aeth pawp y’w drethu yw ðinas y hū.
4Ac aeth Ioseph hefyt i vynydd o Galilaea o ddinas Nazaret, i’r Iudaia, i ddinas Dauid, yr hon a elwir Beth‐lechem (can y vot ef o duy ac o lin Dauid,
5yw drethy y gyd a Mair a ddaroeð hi deweddio yn wreic iddo, yr hon oedd yn veichiawc.
6 Ac e vu hefyd, tra vuont vvy yno, ddarvot cyflawni y dyddiac hi, y escor.
7A’ hi a escorawdd ar hei map cyntaf‐enit, ac y crynoawdd ef mewn cadachae, ac ei dodes ym presep, can nad oedd yddynt le yn y lletuy‐cyffredin.
8Ac ydd oedd yn y wlat hono vugelydd, yn aros yn-y‐maesydd, ac yn cadw gwylfaē ’rhyd y nos o bleit ei cadw devaid.
9A’ nycha, Angel yr Arglwydd a ddaeth arnynt a’ gogoniant yr Arglwydd a dywynawdd o ei h’amgylch, ac ofny yn ddirvawr a orugant.
10Yno y dyvot yr Angel wrthynt, Nad ofnwch: can ys nycha y menagaf ywch’ lewenydd mawr, yr hwn a vydd i’r oll popul:
11nid amgen no geni y’wch heðyw yn-dinas Dauid, Iachawdur yr hwn yw Christ Arglwydd.
12A’ hyn a vydd yn arwydd ychwy, Chvvi gewch y maban wedy ’r grynoi mewn cadachae, a’ ei ddodi yn yn y presep.
13Ac yn ddysymuth ydd oedd y gyd ar Angel liaws o luoedd nefawl yn moli Duw, ac yn dywedyt,
14Gogoniant vo y Dduw yn yr vchelion nefoedd, a’ thangneddyf yn y ddaiar, ac i ðynion ewyllys da.
Yr Euangel ar ddydd Enwediat Christ
15¶ Ac e ddarvu, gwedy myned o’r Angelion odd y wrthynt ir nefoeð, yno y dywede y bugelieit wrth y gylydd, Awn ninae yd ym Bethle‐hem, y welet y peth hynn y ddarvu, ac y ðangosawdd yr Arglwydd y ni.
16Yno y daethant ar ffrwst, ac a gawsant Vair ac Ioseph, a’r dyn‐bychan wedy ei ðodi yn y presep.
17A’ phan ei gwelsont, wy wnaethāt y peth yn gyhoeddus yr hyn, a ddywedesit wrthynt am y dyn bychan hwnw.
18A’ phawp ar ei clywsant, a ryveddasant am y pethae y ddywedesit yddynt can y bugelydd.
19A’ Mair a gatwodd y pethae hyn oll, gan ei hystyriaw yn hei chalon.
20A’r bugelydd a ymchoelasant, can roddy gogoniant a’ moliant y Dduw, am bop peth a’ glywsent ac a welsent, megis y dywedesit wrthynt.
21A’ gwedy cyflawny yr wythvet dydd, y enwaedy ar y dyn‐bychan, yno y galwyt y enw ef Iesu, yr hwn a enwesyt can yr Angel, cyn y ymddwyn ef ynghroth.
Yr Euangel ar ddydd puredigeth y sanctes Vair.
22¶ A gwedy cyflawny dyðiae puredigaeth Mair yn ol Deddyf Moysen, wy y ducesont ef i Caerusalem, y’w oystaty ef i’r Arglwydd.
23(Megis y mae yn escrivenetic yn deðyf yr Arglwyð Pop, vn gwrryw y agoro yn gyntaf y vam a elwir yn sāctaidd ir Arglwydd:
24ac y roddy offrwm erwydd yr hyn a ddywetpwyt yn‐Deddyf yr Arglwydd, par o turturon nei ddeu gyw colombenot.
25A’ nycha, ydd oedd gwr yn Caerusalem a’ ei enw yn Simeon: y gwr hwnn oedd gyfiawn a dwywol, ac yn dysgwyl am ðiðanwch yr Israel, a’r Yspryt glan oedd arnaw.
26Ac a venagesit iddaw gan yr Yspryt glā, na welei ef ange cyn yðo welet Christ yr Arglwydd.
27A’ thrwy annoc yr Yspryt y deuth ef ir Templ.
A’ gwedy ir rieni ddwyn y mewn y map Iesu y wneythy’r drostaw herwydd devot y Ddeddyf,
28yno yntef y cymerth ef yn ei vraichiae, ac a voloð Dduw, ac a ddyvot,
29Arglwydd yr awrhon y gillyngy dy was, mewn tangneðyf erwydd dy’air.
30Can ys gweled om llygait dy iachyduriaeth di.
31Yr vn baratoaist yn golwc yr oll populoedd.
32Llewych i yw dywynny ir Cenetloedd a’ gogoniant dy popul Israel.
33Ac Ioseph a’ ei vam a ryveddesōt wrth y pethae y adroðesit am danaw.
34A’ Simeō y bendithioð hwy, ac a ddyuot wrth Vair y vam ef, Wele ys gesodwyt y map hwn yn gwymp ac yn gyfodiadigaeth llawer yn yr Israel, ac yn arwydd yr hvvn a ddywedir yn ei erbyn,
35(ac ys aiff cleðyf trwy dy enait) er ymatguddiaw meðyliae l’awer o calonae.
36Ac ydd oeð Prophwetes vn Anna verch Phanuel, o ’lwyth Aser, yr hon oedd yn dra oedranus, ac a vysei vyw gyd a gwr saith blynedd oei gweryfdawt.
37A’ hi vysei yn weddw ynghylch petwar vgein blynedd, ac nyd ai allan o’r Templ, anyd gwasanaethu Duvv yn vmprydiae a’ gweddiae, nos a’ dydd.
38Hitheu yn dyvot yn y cyfamser hwnw arnaddynt, a gyd gyffessawdd yr Arglwydd, ac a ymadroddawdd am danaw wrth yr oll rei a edrychent am y prynedigaeth yn‐Caerusalem.
39A’ gwedy yddyn ’orphen pop peth erwydd Deddyf yr Arglwydd, yd adymchwelesont i Galilaea y’w dinas y hunain Nazaret.
40A’r maban a dyfodd, ac a nerthit yn yr Yspryt, ac a gyflawnit o ddoethinep, a ’rhat Dew oedd arnaw.
Yr Euangel y Sul cyntaf gwedy yr Ystwyll.
41¶ Yno yðai y rieni ef i Gaerusalem bop blwyðyn ar wyl y Pasc.
42A’ phan ytoedd ef yn ddauddec blwydd oed, a’ myned o hanynt i vynydd i Gaerusalem yn ol arver yr wyl,
43a’ gorphen ei dyddiae ac wynt yn adymchwelyt, yr arhoawdd y map Iesu ar ol yn‐Caerusalem eb wybot i Ioseph a’i vam ef,
44eithr can tybieit y vot ef ar y fforð gyd ac wynt, aethant daith ðiernot, ac ei caisiesōt ef ym plith ei cenetl a’i cydnabot.
45A’ phryd na chawsant ef, yr ywchoelasāt i Gaerusalē, ac ei caisiasant.
46Ac a ðarvu ym pen tridie yn ol, yddwynt ei gaffael yn y templ, yn eisteð yn cenol y Doctorieit, yn gwrādo arnynt, ac yn ymholy ac wynt.
47Ac a vu aruthr gan pawp ae i clywoð, ei ðyall ef, a ’ei atepion.
48A’ phan welsant ef, ryveddy a wnaethant, a’i vam a a ddyvot wrthaw, Y map pam y gwneuthost val hyn a ni? Nycha, dy dat a minae gau ymovidio ath gaisiesam.
49Ac ef a ddyuot wrthynt, Pa gaisio ydd oeddech arna vi? a ny wyddech y gorvyðei i mi vot yn‐cylch y pethae a berthynant im tad?
50Eithr nid oddent wy yn deall y gair a ddyvot ef wrthynt.
51Yno ydd aeth ef i wared gyd ac wynt, ac a ddaeth i Nazaret, ac a vu ’ostyngedic yðynt: A’i vam ef a gatwodd yr oll’airieu hynn yn hei chalon.
52A’r Iesu a gynnyddodd mewn doethinep a chorpholaeth a’ chariat gyd a Duw a’ dynion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.