Colossieit 2 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. ij.Gwedy yddaw destolaythu ddaed ei wyllys ef yddynt, Y mae ef yn ei rhybyddio nad ymchwelōt yn wysc ei cefn ywrth Christ. I wasaneth Angelion, neu ddychymic arall, neu ynte ceremoniae ’r ddeddyf, Yr ei a ’orphenesont ei swyð, ac eu tervyuwyt in‐Christ.

1CAn ys wyllisiwn y chwi wybot pa veint ymdrech ’sy arnaf er eich mwyn chvvi, ac er yr ei o Laodiceia, ac er mvvyn yr ei ny welsant veu wynep yn‐cnawt,

2val y confforthit eu calonae, ac eu cyssyltit vvy ynghyt yn‐cariat, ac ym‐pop golud gwbl gredadwy ddyall, adnabot dirgelwch Duw ’sef y Tat, a’r yddavv Christ:

3yn yr hwn y mae yn‐cuddiedic oll tresorae doethinep a’ gwybodaeth.

4A’ hyn rwy’n ei ddywedyt, rac bot i nebvn eich twyllo a’ geiriae hygoeliadvvy,

5Can ys cyd bwyf ancydrychiol yn y cnawt, er hyny ydd wyf gyd a chwi yn yr yspryt yn llawenechu, ac yn gweled eich trefn, a’ ffyrfder eich ffydd in‐Christ.

6Megis gan hyny yd erbyniesoch Christ Iesu yr Arglwyð, felly rhodiwch ynðo,

7yn wraiddiedic ac yn adaliedic ynðo ef, ac wedy ymgadarnhau yn y ffydd, val ich dyscwyt, can ymamplau ynddei gan ddyolwch.

8Ymogelwch rac bot neb a’ch espeilio trwy philosophi a’ gwac ehudrwydd, trwy athraweth dynion, erwydd gwyddorion y byt, ac nyd erwydd Christ.

9Can ys ynto ef y preswilia cyfllawnder y Duwdot yn gorphorol.

10Ac ydd ych yn gyflawn yndo ef, yr hwn yw pen oll Tywysogeth a’ Meðiant:

11yn yr hwn hefyt ich enwaedwyt ac enwaediat nyd o waith llaw, gan ymddyosc y pechaturus gorph y cnawt, trwy enwaediad Christ,

12can ys ich cydclaaddwyt y gyd ac ef trwy’r betydd, yn yr hwn hefyt ich cydgyfodwyt trwy ffydd gweithrediat Duw, yr hwn ay cyfodes ef o veirw.

13A’ chwitheu yr ei oeddech veirw ympechotae, ac yn‐dienwaediat eich cnawt, a gyd vywhaodd ef y gyd ac efo, gan vaddeu y‐chwi eich oll gamweddae,

14can ddilëu y llaw graipht yr ordinadeu rhon oedd yn ein herbyn, rhon oedd yn wrth wynep y ni, ys cymerth ef y hi y ar y ffordd, ac hei dodes yn‐glyn ar y groc,

15ac a espeiliawdd y Tywysogaethae, a’r Nerthoedd, ac ei erddangosawdd hwy yn gyhoeddus, gwedi gorvot hwy ynthei.

16Am hyn na varnet neb arno chwi ym‐bwyt a’ diot, neu o ran die‐gwyl, neu leuad‐newydd, neu Sabbathon,

17yr ei nyd ynt anyd gwascot petheu ar ddywot: eithr y corph ysydd in‐Christ.

18Na vit i neb wrth ei wyllys eich llywodraethu gan ’ostyngeiddrwydd‐meddwl, ac addoliad Angelion, gan ymgodi ym‐petheu ny’s gwelawdd e erioed, ac yn andosparthus yn ymchwyddaw gan veddwl ei gnawt,

19eb gyfattal y pen, o’r hwn y mae yr oll gorph wedy ’r drefnu ai gomponi gan gymmalæ a’ chyfrwymae, yn cynnyddu gan gynnyð Duw.

20Can hyny a’s meirw ydych gyd a Christ ywrth ordinadeu y byt, paam mal phe ich vyw yn y byt, ich llwythir ac athrawiaetheu?

21Megis, Na chychwrð, Na orchwaydda, Na theimla.

22Yr ei ’n oll aant yn‐cyfergoll y gyd a’r anarver, ac ynt vvrth ’orchymyneu a’ dysceu dynion.

23Yr hyn betheu yn ddiau ’sydd yddyn ac ailun doethinep, yn wyllys greffydd ac huvylltot‐meddwl, ac nyd yn eiriach y corph: ac nyd yw mewn dim bri ganthynt er cyflawnedd ir cnawt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help