1Y Dydd hwnw ydd aeth yr Iesu allan o’r tuy, ac ydd eisteddawdd geir llaw’r mor:
2A’ thorfoedd lawerion a ymgynullent attaw, yn yd aeth ef i long, ac eistedd: a’r oll dorf a safawdd ar y lan.
3Yno yr adroddawdd ef wrthwynt lawer o bethae drwy barablae, gan dywedyt, Nycha, ydd aeth heuwr ymaith i heheu.
4Ac val ydd oedd ef yn heheu, y cwympodd ’rei or had ym‐min y ffordd, ac a ddaeth yr ehediait ac y difaodd wy.
5Ar ei a gwympodd ar dir caregoc, lle ny chawsant vawr ddaiar, ac yn y man, yr eginesont, can nad oeð yddynt ddyfnedd daiar.
6A’ gwedy cyfody yr haul, y crasasont, ac o eisiae gwreiddio, y crinesont.
7A’r ei a gwympesont ymplith drain, a’r drain a gododd, ac ai tagawdd.
8Rei hefyd a gwympesont mewn tir da, ac a ddygesont ffrwyth, vn gronyn ar ei ganfed, arall ar ei drigeinfed, arall ar ei ddecved ar vgain.
9Y nep ’sydd iddo glustiae i wrando, gwrandawet.
10¶ Yno y daeth y discipulon, ac y dywedesont wrthaw, Paam yr ymadroddy wrthynt ym‐parabolae?
11Ac ef a atepawdd ac a ddyvot wrthwynt, Can roðy i chwi wybot dirgeliō teyrnas nefoeð, ac na’s roddwyt yddwynt wy.
12O bleit pwy pynac ys ydd iddo, iddo ef y rhoir, ac ef a gaiff helacthrwydd: eythyr pwy pynac nid oes iddo, o y arno ef y dugir, ac hyn y ’sydd yddo.
13Am hyny yr ymadroddaf wrthwynt mewn parabolae, can ys wy yn gweled ny’s gwelant: ac yn clywet, ny’s clywant, ac ny’s dyallant.
14Velly ynthynt wy y cyflawnwyt Prophedoliaeth Esaias, yr hon a ddywait, Can glywet y clywwch, ac ny’s dyellwch, ac yn gweled y gwelwch, ac ny’s canvyddwch.
15Can ys brasawyt calon y popul hyn, ac aei clustiae pwl y clywant, a’ei llygait a wrthgaysont, rac canvot a’ei llygait, a chlybot aei clustiae, a’ dyall a’ei calonae, ac ymchwelyd, yn yd iachawn i hwy.
16Eithyr ys dedwydd yvv eich llygait chvvi, can ys gwelant: ach clustiae, can ys‐clywant.
17O bleit, yn wir y dywedaf ychwi, mai llawer o Prophwyti, a’ Rei cyfiawn a ddeisyfesant weled yr hyn a welw‐chwi, ac ny’vv welsant, a’ chlybot yr hyn a glywsoch, ac ny’vv chlywsant.
18¶ Gwrandewch chwithe barabol yr heuwr.
19Pa pryd pynac y clyw nep ’air, y Deyrnas, ac ef eb ei ðyall, e ddaw’r Drwc, ac ysclyffia’r hyn a heuwyt yn ei galon ef: a’ hwn yw ef a gymerth yr had ar vin y ffordd.
20A’ hwn a gymerth had yn y tir caregawc, yw’r vn a wrendy’r gair, ac yn ebrwydd drwy lewenydd ei derbyn.
21Nid oes hagen wreiddin ynthaw ehun, a’ thros enhyd yw: can ys er cynted y daw trallod nei ganlyn o bleit y gair, yn y van y rhwystrir ef.
22A’ hwn a dderbyn yr had ymplith y drain, yw’r vn a wrendy’r gair: anyd gofal y byd hwn, ac ehudrwydd golud, a dag y gair, ac ef a wnaethpwyt yn ddiffrwyth.
23And hwn a gymerth yr had yn y tir da, yw’r vn a wrendy’r gair, ac ei dyall, yr vn hefyd a ffrwytha, ac ei dwc, vn ar ei ganfet, arall ar ei drugeinfet, ar‐all ar ei ddecfet ar ugain.
24Parabol arall a osodes ef yddwynt, can ddywedyt.
Yr Euangel y pempet Sul gwedi ir Ystwyll.
¶ Teyrnas nefoedd’s ydd gyffelip i ddyn a heuei had da yn ei vaes.
25A’ thra vei ’r dynion yn cyscu, e ddaeth y elyn ef, ac a heuawdd efrae ymplith y gwenith, ac aeth ymaith.
26A’ gwedy ir egin dyvu, a’ dwyn ffrwyth, yno yr ymddangosodd yr efrae hefyt.
27Ac a ddaeth gweision gwr y tuy, ac a ddywedesont wrthaw, Arglwydd, a‐ny heaist ti had da yn dy vaes? O b’le gan hyny y mae ynddo yr efrae?
28Ac yntef a ddyvot wrthynt, Y gelyn‐ddyn a wnaeth hynn. A’r gweision a ddyvot wrthaw, A ewyllysy di i ni vyned a’ei cascly wynt?
29Ac ef a ddyvot, Na vynnaf: rac ychwy wrth glascly’r efrae ddiwreiddiaw y gwenith gyd ac wynt.
30Gedwch ir ddau gyddtyfu, hyd y cynayaf, ac yn amser y cynayaf y dywedaf wrth y vedel, Cesclwch yn gyntaf yr efrae, a’ rhwymwch yn yscupae y’w lloscy: a’ chesclwch y gwenith i’m yscupawr.
31¶ Parabol arall a roddes ef yddwynt, gan dywedyt, Cyffelip yw Teyrnas nefoedd i ’ronyn o had mustard, yr hwn a gymer dyn a’ ei heuha yn ei vaes,
32ys yr hwn ’sy ’leiaf o’r oll hadae: anyd gwedy tyfo, mwyaf vn or llysae ytyw, a’ phren vydd, yd ’n y ddel ehediait y nef a nythy yn ei gangae.
33¶ Parabol arall a ddyvot ef wrthwynt, gan ddyvvedyt, Cyffelip yw teyrnas nefoedd y surdoes, yr hwn a gymer gwraic ac ei cuð mewn tri pheccet o vlawt, yn y sura oll.
34¶ Hyn oll a ddyvot yr Iesu trwy barabolae wrth y dyrfa: ac eb parabolæ ny ddyvot ef ddim wrthwynt,
35yn y chyflawnit hyn a ddywetpwyt gan y Prophwyt, yn dywedyt, Agoraf vy‐genae ymparavolae, a’ menagaf ddirgeledigion o’r pan sailiwyt y byd.
36Yno yd anfonawdd yr Iesu y dorf ymaith, ac ydd aeth ir tuy. A’ ei ddiscipulon a ddaeth attaw, can ddywedyt, Deongl i ni barabol efre yr maes.
37Yno ydd atepawdd ef ac ydyvot wrthwynt, yr hwn a heyha yr had da, yw Map y dyn,
38a’r maes yw’r byd, a’r had da, wyntwy yw plant y deyrnas, a’r efrae ynt blant y Drwc,
39a’r gelyn sy ’n y heheu hwy, yw diavol, a’r cynayaf yw dywedd y byd, a’r medelwyr yw’r Angelion.
40Megis gan hyny y cynullir yr efrae, ac y lloscir yn tan, velly y bydd yn‐diwedd y byt hwn.
41Map y dyn a ddenvyn ei Angelion, ac wy a gynnullant allan oei deyrnas ef yr oll rwystrae, ar ei a wnant enwiredd,
42ac y bwriant wy i ffwrnais dan: ynaw y bydd wylo ac rhiccian danneð.
43Yno y l’ewyrcha yr ei cyfiawn val yr haul yn teyrnas eu Tad. Hwn sy iddo glustiae i glywet, clywet.
44¶ Trachefyn cyffelyp yw teyrnas nefoedd i dresawr cuddiedic mewn maes, yr hwn wedy y ddyn ei gaffael, ef ei cudd, ac o lewenydd am danaw, ef a dynn heibio, ac a werth oll ar a vedd, ac a brym y maes hwnw.
45¶ Trachefn cyffelip yw teyrnas nefoedd i varsiandwr, yr hwn a gais vargaritaetec,
46ac wedy iðo ei gaffel vn margaret gwerthfawr, yr aeth ac y gwerthodd cymeint oll ac a veddei, ac ei prynoð.
47¶ Tragefyn cyffelip yw teyrnas nefoedd i rwyt tynn a vwrit yn y mor, yr hon a dyrra o bop ryw beth.
48Yr hon wedi bo yn llawn, a ddugant ir lan, ac eistedd a wnant, a’ chlascy ’r ei da y mywn llestri, a’ thavly ’r ei drwc heibio.
49Velly y bydd yn‐diwedd y byd. Yr Angelion a ant allan, ac a nailltuant yr ei drwc o blith yr ei cyfiawn,
50ac y tavlant wy i ffwrneis dan: ynaw y bydd wylofain a’ riccian dannedd.
51¶ Yr Iesu a ddyvot yddwynt, A y chwi yn dyall hyn oll? Dywedesont wrthaw, Ym, Arglwydd.
52Yno y dyvot ef wrthwynt, Can hynny pop Gwr‐llen yr hwn a ddyscir i deyrnas nefoedd, a gyffelypir i berchen tuy, yr hwn a ddwc allan oei dresawr newyddion a’ henion.
53¶ Ac e ddarvu, gwedy i’r Iesu ddyweddyt y parabolae hyn, yr ymadawodd o ddyno,
54ac yd aeth ef y’w wlat y un, ac ei dyscawdd yn y synagogae wy, yny synnodd arnynt, gan ddywedyt, O b’le y doeth y doethinep hyn a’r gwethredoed‐nerthol ir dyn hwn?
55Anyd hwn yw map y saer? Anyd y vam ef a elwir Mair, a’ ei vrodur Iaco ac Ioses, a’ Simon ac Iudas?
56Ac anyd yw ei chwioredd oll y gyd a nyni? O b’le gan hyny y mae ganthaw y pethae hyn oll?
57Ac wy a rwystrit yntho. Yno y dyvot yr Iesu wrthwynt, Nyd yw Prophwyt eb anrydedd anyd yn ei wlat y un, ac yn y duy ehun.
58Ac ny wnaeth ef vawr weithrrdoedd‐nerthol yno, o bleit ei ancrediniaeth wy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.