Psalm 143 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .cxliij.Domine exaudi.¶ Psalm Dauid.

1ARglwydd, clyw vy-gweddi, chlustymwrando am glochwyt: erglyw vi yn dy wirionedd a’th gyfiawnder.

2(Ac na ddoes i varn ath was: can ys yn dy olwc ny chyfiawnir nebun byw)

3Can ys y gelyn a erlidiawdd vy eneit: trawodd ef vy-bywyt yd y ddaiar: gesodawdd vi yn y tywyllwch, val yr ei vysei vairw ys talm byt.

4Am yspryt oedd yn gyving arno om mewn, ac ynof y brawychawdd vy-calon.

5[Er hyny] cof genyf y dyddiae gynt, mevyriaw ydd wyf yn dy oll weithredoedd, astud ytwyf yn-gweithrededd dy ddwylaw.

6Estennais vy-dwylaw arnat: vy enait am danat mal y tir sychedic. Sélah.

7Gwrando vi ar vrys, Arglwydd, can ys deffyciawð vy yspryt: na chudd dy wynep rhagof, rac vy-cyffelypy ir ei y ddescenant ir pwll.

8Par ymy gahel clybot dy drugarawgrwydd y borae, can ys ynot yr ymddiriedaf: moes ym’ wybot y ffordd, y rhodiwyf ynthei, can ys arnat] y derchaf vy eneit.

9Gwared vi Arglwydd, rac vy-gelynion: can ys wrthyt yr ymguddiaf.

10Dysc ymy wneythy dy ewyllys, can ys vy-Dew ytwyt: tywyset vi dy yspryt daonus i dir yr vniondap.

11Bywia vi, Arglwydd, er mwyn dy Enw, er dy gyfiawnder dwc vy enait o gyvingdra.

12Ac er dy drugaredd dyvertha vy-gelynion, a’ diva oll y orthrymant vy eneit: can ys dy was ytwyf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help