1OR achos hwn, rrown heibio yr addysc sy yn dechrau Christ, a thynnwn at perffeithrwydd, ac na ’ossodwn eilwayth growndwal y difeirwch o ddiwrth gweithredoedd meirwon, a’ ffyð tu a Dyw.
2O addysc y bedyddiadau a’ gosodiad dwylaw, a’ chyfodiad y meirw, a’r farn tragwyddawl.
3A’ hynny a wnawn ni os Dyw ai Cannihata.
4Can ys amhossybl ir rrai a ’oleuwyd vnwaith, ac a brofasont y rodd nefawl, ac a wnaythbwyt yn gyfrannawg or Yspryt glan,
5Ac a brofason o ddayonus air Dyw, a’ rrinweddau y byd a ddaw,
6Os llwyrgwympant, adnewyddy trwy edifeirwch, gan y bod hwynt drachefn yn rroi ar y groes vddynt y hunain fab Dyw, ac yn y ’osod ar watwar.
7Can ys y ddaiar a ddaryfo y glaw a vo yn mynych ddyvot arnei, ac a ddyco lyssiau addas ir rai drwy bwy y ddys yn y llafurio, a gymer fendith can Ddyw.
8Eithyr hon a ddyco ddrain ac yscall, amharchus fydd, a chyfagos y gael y melltigo, ai diweð fydd y llosci.
9Eithyr fyngaredigion, coelio y ddydym am danoch i bethau sy wel’ no hyn, ac sy wedi y cydglymmu ac iechid, ir yn bod ni yn doydyd val hyn.
10Can ys nid anghyfion Dyw, mal y gollyngo tros gof ych gwaith, a’r llafurus gariad, a ddangosasoch yn y enw ef, yn gwneuthyr ir saint wasaneth, ac eto yn y gwasneuthu.
11A’ chwenychu ddydym ddangos o bob vn o honoch gyfriw ddiwdrwyd, ir mwyn sicerhau gobaith hyd y diwedd,
12Val na bythoch fuscrell, eythr yn ddilynwyr ir rrai, y sawl drwy ffydd ac ymyneð, sy yn meddiannu yr addaweidion.
13Cans Dyw wrth wneuthyr yr addewid y Abraham, lle ni allai ef dyngu y neb a fai fwy, a dyngodd yddo y hun,
14Can ddoydyd, Yn wir mi ath fendithia yn helayth, ac yn ddiandlawd yr amylhaa dydi.
15Ac velly pan ydoedd dda i emyneð, ef a feddiannodd yr addewid.
16Can yn lle gwir dynion tyngu byddant ir neb a vo mwy nag ynhvvy hunain, a’ diwedd pob ymryson vddyntwy ydiw llw y gadarnhau.
17Velly Dyw yn chwenychu yn helaethach ðangos y ytifeddion yr addewid ðianwadalwch y gyngor ef, a ymrwymodd trwy roi llw,
18Megis trwy ddau beth disymmut, yn yr rrai y may yn amhossibl y Ddyw fod yn gelwyðog, y gellem gael cysur cryf, rrain ydym yn daredec y ddala yn dynn y gobaith rag‐osodedic,
19Rrwn sy cenym i, megis angor yr enaid, diogel a’ chyfan, ac yn entrio hyd at y peth sy tu vewn ir llen,
20Ir man yr entriodd y rracflaynor trosomni, ’sef Iesu, a wnaythbwyd yn ben effeiriad yn tragwyddol ar ol ordr Melchi‐sedec.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.