1YNo y cyvodes yr oll lliaws o hanynt, ac y ducesont ef at Pilatus.
2Ac wy a a ddechraesont ei gyhuddaw, can ddywedyt. Hwn yma a gawsam yn troi’r bobyl, ac yn gohardd taly teyrnget i Caisar, can ddywedyt, mae ef yw Christ Vrenhin.
3Ac Pilatus a ’ovynnawdd iddaw, can ddywedyt, Ai ti‐yw’r Brenhin yr Iuddaeon? Ac ef atepawdd iddo, ac addyvot, Tu ys ydd yn ei ddywedyt.
4Yno y dyvot Pilatus wrth yr Archoffeiriait, ac wrth y popl, Nyd wyf i yn cahel dim bai ar y dyn hwn.
5Ac wyntae ymlewhay a wnaethant, can ddywedyt, Mae ef yn cynnurfy ’r popul, gan dany dysc tros oll Iudaia. Ac yn dechrae o Galilea yd yma.
6Ac Pilatus pan glypu son am Galilea, a ovynawdd, ai dyn o’r Galilea ytoed ef.
7A’ phan wybu mae o gyvoeth Herod yr hanoedd, ef ei danvones at Herod, ac ydd oedd yntae hefyt yn‐Caerusalem y dyðiae hyny.
8A’ phan weles Herod yr Iesu, ef a lawenechawdd yn vawr: can ys ydd oedd yn hir gantaw am ei weled ef er es talm, erwydd iðaw glywed son llawer o bethae am danaw, ac ydd oedd e yn gobeithiaw gahel gweled gwnaethy ryw arwydd y ganthaw.
9Yno ydd ymholes ac ef am lawer o bethae: eithyr nyd atepawdd ef ddim iddo.
10Yr Archoffeiriait ar Gwyr‐llen a safasant ac ei cyhuddesont yn daerddrud.
11Ac Herod ef a ei gywdawddwyr ny roesont vri arnaw, ac ei gwatworesant, ac ei gwiscesont ef o wynn, ac a ei danvonawð drachefyn at Pilatus.
12Ac ar y dydd hwnw ydd aeth Pilatus a’ Herod yn gymddeithion: canys cyn na hyny yð oeð yn ’elyniaeth rhyngtwynt.
13Yno Pilatus a ’alwoð yn cyt yr Archoffeiriait a’r llywyodwyr a’r popul, ac a ðyuot wrthwynt,
14Chwi ðucesoch y dyn hwn ataf, val vn a vai yn troi ’r popl, a’ nycha, mi ei holeis ef yn eich gwydd, ac ny chevais i vn bai ar y dyn hwn, o’r pethae ydd ywch y’w gahuddaw:
15na ddo, na Herod chwaith: can ys anvoneis chwi ataw: a’ nycha, dim teilwng o angae ny wnaed yddaw.
16Erwydd paam, mi ei cospaf, ac ei gellyngaf yn rhydd.
17(Can ys angenrait oedd iddaw ellwng ryvv vn yddwynt yn rhydd ar yr wyl.)
18Yno yr oll lliaws a lefawdd ar vnwaith, can ddywedyt, Ymaith ac ef, a’ gellwng Barabbas yn rhyð i ni:
19yr hwn am draws gyfodiat a wnaethit yn y dinas, ac am lawryddiaeth a ddodesit yn‐carchar.
20Yno Pilatus a ddyvot wrthyn drachefyn, can ewyllysy rhyddhay ’r Iesu.
21An’d wy lefent can ddywedyt, Croc, croc ef.
22Ac ef a ddyvot wrthynt y drydydd waith, An’d pa ddrwc a wnaeth ef: ny chefais ynthaw achos angae: am hyny mi ei cospaf, ac ei gellyngaf yn rhydd.
23Ac wyntwy oeddent daerach a llefeu vchel, can erchi y groci ef: a’ ei llefae hwy a’r Archoffeiriait a ’orvu.
24Velly Pilatus a varnawdd yddwynt gahel ei h’arch.
25Ac ef a ellyggawð yddwynt hwn‐am gyfodiat a’ llawryddiaeth a roesit yn carchar: ys ef yr hwn a archesent wy, ac ef a roddes yr Iesu y wnaethy ’r ac ef a vynnent.
26Ac val ydd oeddent yn ei arwein ef ymaith, wy ddaliesont vn Simon o Cyren, yn dyuot o’r maes, ac arnaw ef y gosodesont y groc, y’w dwyn ar ol yr Iesu.
27Ac ydd oedd yn ei ganlyn ef turfa vawr o popul, ac o wragedd, a’r gvvragedd hyny oedd yn cwynofain ac yn galary drostaw.
28A’r Iesu a ymchwelawdd atwynt, can ddywedyt, Merchet Caerusalem, nac wylwch droso vi, ’n amyn wylwch trosoch eich hunain, a’ch plant.
29Can ys, nycha, y daw’r dyddiae y dywedant, Gwyn ei byt yr hespion, a’r bruoedd ny chenedlesont erioed, ar bronnae ny roesant sugn.
30Yno y dechreant dðywedyt wrth y monyddoedd, Syrthiwch arnam: ac wrth y brynnae, Cuddiwch ni.
31Can ys a’s gwnant wy hynn ir prenn ijr, peth a wneir ir crin?
32Ac Ac ydd oeddit yn arwein gyd ac ef dau ddrygddyn eraill y’w lladd.
33A’ gwedy y dyvot hwy i’r lle, a elwyt y Penglocva, yno y crogesont ef, a’r drygddynion: vn ar y ddeheu, a’r all ar y aswy.
34Yno y dyvot yr Iesu. Y Tad, maddae yddwynt, can na wyddon peth y maent yn ei wneythyr. Ac wy a barthesant ei ðillat, ac a vwriesant goelbreni.
35A’r popul oedd yn sefyll, ac yn edrych: a’r llywiawdwyr ei gwatworent y gyd ac wynt, gan ðywedyt, Eraill a iachaeai: iachaet ehun, a’s ef y’w’r Christ, yr Etholedic can Dduw.
36A’r milwyr hefyt y gwatworent ef, can ddawot a’ chynic vinegr ydd‐aw,
37a’ dywedyt. A’s tu yw’r Brenhin yr Iuddaeon, iachaa tyhun.
38Ac ydd oedd yscriuen wedyr yscrivemy ar ei uchaf, mewn llythyrae Groec, a’ Llatin, ac Hebreo, HVN YVVR BRENHIN YR IVDEON.
39Ac vn or drygddynion a grocesit, y cablawdd ef, gan ddywedyt, A’s tu yw’r Christ, iachaa tuhun a’ ninae.
40A’r llall a atepawdd, ac y ceryddawdd ef, can ddyweddyt, Anyd oes arnat ofn Duw, a’ thydy yn yr vn varn?
41Ac ydd ym ni yn gyfiawnus yma, can ys ydd ym ni yn derbyn y pethae y haeddawð ein gweithredoeð: eithyr ny wnaeth hwn ddim ancymmesur.
42Ac ef a ddyvot wrth yr Iesu, Arglwydd, coffa vi pan ddelych ith teyrnas.
43A’r Iesu a ddyvot wrthaw, Yn wir y dywedaf y ti, heddyw y byddy gyd a mi ym‐paradwys.
44Ac yð oedd hi yn‐cylch y chwechet awr: ac a vu tywyllwch tros yr oll ddaiar, yd y nawvet awr.
45A’r haul a dywyllwyt, a’llen y Templ a rwygwyd trwy hei chanawl.
46A’r Iesu a lefawdd a llef vchel, ac a ddyvot, Y Tad, ith ddwylaw y cymennaf vy yspryt. A’ gwedy yddaw ddywedyt hyn, ef a anhetlawdd allan yr yspryt.
47A’ phan weles y Cannwriad yr hyn a wnaethpwyt, ef a roes ’ogoniant i Dduw, can ddywedyt, Yn sicur ydd oedd y dyn hwn yn gyfiawn.
48A’r oll turfa ar a ðauthei ynghyt er y golwc hynn, cann weled y pethae a ddaroedd, a guresont ei dwyvronae, ac ymchwelesont.
49A’ ei oll gydnabot a savent o hir‐bell, a’r gwragedd y dylinesent ef or Galilaia, gan edrych ar y pethae hynn.
50A’ nycha, ydd oedd gwr aei enw Ioseph, cygcorwr, gwr da, a’ chyfiawn.
51Ef ny chytunesei a ei cygcor na’c a’ ei gweithret hwy, ac ef a hanoedd o’r Arimathaia, dinas yr Iuddaeon: yr hwn oedd yntef yn edrych am teyrnas Duw.
52Hwn yma aeth at Pilatus, ac archawdd gorph yr Iesu,
53ac ei tynnawdd i lawr, ac ei amdoes mewn lliein, ac egosodes mewn monwent wedy’r drychy o graic lle ny roesit nep ir ioet.
54A’r dydd hwnw oeð y Darpar, a’r Sabbath oedd yn nesay.
55A’r gwrageð hefyt yr ei oedd yn darddilyn, yr ei a ddaethent gyd ac ef o’r Galilea, a edrychesont ar y vonwēt a’ pha bodd y gesodesit y gorph ef.
56Ac wynt a a ymchwelesont, ac a paratoesont aroglae, ac wylmentae, ac a ’orphoysesont y dydd Sabbath erwydd y gorchymyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.