Marc 13 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xiij.Distrywiad Caersalem. Bot precethy ’r Euangel i bawp oll Am yr ymlid, a’r gau brophwyti a vyddant cyn na dyuodiat Christ, yr hwn nyd espes ’moi ei awr. Ef yn anoc pawp y vot yn wiliadurus.

1AC val ydd ai ef allan o’r Templ, y ’syganei vn o ei ddiscipulon wrthaw, Athro, gwyl pa ryw vain a’ pha ryw adeiladoedd ysy yma.

2Yno ydd atepodd yr Iesu ac y dyuot wrthaw, A wely di yr adeiliadoeð mawrion hyn? ny’s gedir maen ar vaen, ar ny’s goyscerir.

3A’ mal ydd eisteddei ef ar vynyth olivar gyfeiryd ar Templ, Petr, ac Iaco, ac Ioan, ac Andreas a ovynesont yddo yn ðirgel,

4Dywait i ni pa bryd y bydd y pethae hyn? a’ pha ’r arwyð vydd pan gyflawner y pethae hyn oll?

5A’r Iesu a atepodd yddynt, ac ddechreuodd ddywedyt, Ymogelwch rac twyllo o nep chvvychwi.

6Can ys llawer a ddawant yn vy Enw i, can ddywedyt, Mi yw Christ, ac a’ twyllant lawer.

7Hefyd pan glywoch son am ryveloeð a’ darogan Ryueloedd, na’ch tralloder chvvi: can ys dir yw bot cyfryvv bethae: eithyr ny bydd y tervyn etwa.

8Can ys cenetl a gyvyt yn erbyn cenetl, a’ theyrnas yn erbyn teyrnas, ac e vydd daiar gryniadae mewn amryw leoedd, ac e vydd newynae a’ thrallodae: hyn vyðant ddechreuoedd y govidiae.

9Anid edrychwch arnoch eich hun: can ys wy ach rhoddant ir Seneddae, ac i’r Synogogae: ych bayddy a wneir, a’ch dwyn geyr bron llywyawdwyr a’ Brēhineð om pleit i, er testiolaeth yddynt.

10A’r Euangel a vydd dir yn gyntaf hi phrecethy ymplith yr oll genetloedd.

11Eithyr pan vont ich arwein ac ich ethrod, na rag ovelwch, ac na rac vefyriwch pa beth a ddywetoch: eithyr pa beth pynac a rodder y chwy yn y pryd hwnw, hynny ymadroddwch: can ys nyd chwi ys y yn ymadrodd, anyd yr Yspryt glan.

12Ac e ddyry y brawd y brawd i varwoleth, a’r tad y map, a’r plant a gyvodant yn erbyn y rhieni, ac ei marwolaethant wy.

13A’ dygasoc vyðwch gan bawp er mwyn vy Enw i: and pwy pynac a baraho yd y dyweð, efe vyð catwedic.

14Hefyd pan weloch y ffiaið ðiffeithwch) ry ðywetpwyt o hanaw gan Ddaniel y Prophwyt) yn bot lle ny ddyly, (a’i darllen, dyalled) yno yr ei a vontyn Iudaia, ciliant i’r mynyðedd.

15A hwn a vo ar ben y tuy: naddescendet i’r tuy, ac nag aed ymewn y gyrchy dim allan o ei duy.

16A’ hwn a vo yn y maes, na ddadymchweled tra i gefyn at y pethae a adawoð ar i ol, y gym’ryd ei ddillat.

17Yno gwae ’r ei beichiogion, ar ei vont yn rhoi bronae yn y dyddiae hynny.

18Gweddwch gan hyny na bo eich cilio yn y gayaf.

19Can ys byð yn y dyðiae hyyn gyfryvv ’orthrymder ac na bu o ddechrae ’r creadurieth a greawdd Duw yd y pryd hyn, ac ny bydd.

20Ac o ddyeithr vesei i Dduw vyrhay ’r dyðiae hyny, ny chadwesit vn cnawd: and er mwyn yr etholedigion yr ei a ddetholes ef,’, y byrhaodd ef y dyddiae hyny.

21Ac yno a’s dywait nep y chwi, Nycha ll’yma Christ, ai, nycha, ll’yna ef, na chredwch,

22Can ys cyfyd gau‐Gristiae, a’ gau Brophwyti, ac a wnant arwyðion ac aruthroeð i hudaw, pe bei possibil, y gwir etholedigion.

23A’ mogelwch chwitheu: wele, ys racðywedais y chwy bop peth oll,

24A’ hefyt yn y dyðiae hyny, gwedy’r gorthrymder hwnw y tywylla yr haul, a’r lloer ny rydd hi llewych,

25a’ ser y nef a syrthiaut: a’r nerthoedd ’sydd yn y nefoedd a yscytwir.

26Ac yno y gwelant Vap y dyn yn dyvot yn yr wybrēnæ, y gyd a nerth lliosawc a’ gogoniant.

27Ac yno yd enfyn ef ei Angelion, ac y cascla ef ei etholedigion y wrth petwar gwynt, ac o eithavoedd y ðaiar yd eithavoedd y nef, dyscwch barabol y gan y fficuspren.

28Tra vo ei gangen eto yn dyner, ac e yn bagluraw dail, ys gwyddoch vot yr haf yn agos.

29Ac velly chwitheu, pan weloch y pethae hyn wedy dyvot gwybyddwch pan yw bot teyrnas Duw yn agos, sef wrth y drws.

30Yn wir y dywedaf y chwi, nad a a’r oes hon heibio, yd pā wneler y pethæ hyn oll.

31Nef a’ daiar aant heibio, eithr vy‐gairiae i nid ant heibio.

32Ac am y dydd hwnw a’r awr ny’sgwyr vn dyn, na’r Angelion chwaith yr ei ’sy yn y nef, na’r Map yntef, namyn y Tat yn vnic.

33Ymogelwch: gwiliwch a’ gweddiwch: can na wyddoch pa bryd yw’r amser.

34Can ys Map y dyn ys y val dyn yn ymddaith i wlad bell, ac yn gadael ei duy, ac yn rhoi awdurdot y’w weision, ac i bob vn ei waith, ac yn gorchymyn ir porthor wiliaw.

35Gwiliwch am hyny, (can na wyddoch pa bryd y daw Arglwydd y tuy, gan hwyr, ai am haner nos, ar ganiat y ceilioc, ai’r borae ddydd)

36rac pan ðel ef yn ddysumwth, iddo ych cael yn cuscy.

37A’r hyn pethe a ddywedaf wrthyh‐wi, a ddywedaf wrth bawp, Gwiliwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help