Gweledigeth 13 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xiij.1, 8: Y bestvil yn twyllo yr ei argyoeddus, 2, 4, 12: Ac y gadarnheir gan vestvil arall. 17 Braint not y bestvil.

1AC mi weleis enifel yn cwny or mor, a’ seith pen gantho, a dec corn, ac ar y gyrn ef dec coron, ac ar y beney ef enw dirmigedic.

2Ar enifel rhwn y weleis i, oedd debic y lewpard, ae draed yn debic y draed arth, ae safn yn debic y safn llew: ar dreic y rroedd yddo ef y ’allu ae eisteddle, ac awdyrdod mawr.

3Ac mi weleis vn oe beney ef mal gwedy las yn varw, ae glwyf marfol ef y iachawd, ar’holl vyd y rryfeddoedd, ac aeth yn ol yr enifel.

4Ac hwy dddolasant y ddreic yr hwn rroedd gallu yr enifel, ac addolasant yr enifel, dan dwedyd, Pwy ysydd debic yr enifel, pwy ddychryn rryfely ac ef?

5A’ geney y rroed yddo ef, y ddwedyd mawr eyriey, a dirmygon, a’ gallu yrroed yddo ef, y weithio doy vis a’ deigen.

6Ac ef agoroedd y eney mewn dirmic yn erbyn Dyw, y ddirmygy y Enw ef, ae dabernacl, ar rey trigadwy yny nef.

7A’rroi y wneythpwyd yddo ef rryfely ar Sainct ac y gortrechy y hwynt, a’ gallu y rroed yðo ef ar bob cenedl ac ieith, a’ nasion.

8A’ holl breswylwyr y ddayar, y addolasont ef, yrrein nad yw y henwey yn escrifenedic mewn Llyfr y bowyd yr Oen, yr hwn y las er dechreyad y y bud.

9Y sydd a chlyst gantho, gwrandawed.

10A’s tywys neb y gaethiwed, efo eiff y gathiwed: as lladd neb a chleddey, a chleddey y lleddir: llyma’r goddefeint, a’ ffydd y Sainct.

11Ac mi edrycheis ar enifel arall yn cwny or ðayar, a doy corn oedd gantho yn debic yr Oen, ond yn dwedyd yn debic yr dreic.

12Ac ef y wnaeth cwbl ar allei yr enifel cynta wneythyr oe vlaen, ac ef y wnaeth yr ddayar, ar rrey oyddent yn drygadwy yndi, y addoli yr enifel cynta, clwyf marolaythys yr hwn, y iachawd.

13Ac ef y wnaeth rryfeddodey mawr, ac y baroedd can y ddiscyn or nef yr ddayar, yn golwc y dynion.

14Ac ef a dwyllawdd ddeiled y ddaiar gan yr arwyddion, yrrei y oddefwyd yddo ef y gwneythyr gair bron yr enifel, dan ddwedyd wrthynt hwy y sawl oeyddent yn drigadwy ar y ddayar, am yddynt wneythyr ðelw yr enifel, yr hwn y glwyfwd a chleddey, ac y vy vyw.

15A’ goddef y wneythpwyd yddo ef rroi anadl y ddelw’r enifel, mal y galley ddelw’r enifel ddwedyd, a’ pheri lladd cynifer vn nad addoley ddelwr enifel.

16Ac ef y wnaeth y bawb, bychein a’ a mawr, cyfoethocion a thlawdion rryddion a chaethion, y ðerbyn nod yny dwylaw dehey ney yny talceni,

17Ac na allei neb na phryny na gwerthy, ond y gymerth yr nod, ney enw’r enifel, ney rrif y enw ef.

18Ll’yma ddoethinep. Y sawl ysydd synhwyrys, cyfrifed rrif yr enifel: can ys rrif duyn ydiw, ae rif ydiw chwechant, a’ chwech a’ thrigen,

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help