2. Thessalonieit 2 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. ij.Dangos y may yddynt na ddaw dyð yr Arglwydd, nes dyvot ymadael a’r ffydd yn gyntaf. A’ theyrnas

Anchrist. Ac am hyny y mae yn eu rhybuddio rrac eu hudo, eithr sefyll o hanynt yn ddiyscoc yn y petheu a ddyscawdd ef yðwynt.

1WEithion yr Atolygwn ywch, vroder, er dyvodiat ein Arglwydd Iesu Christ, ac er ein cydgynulliad ato ef,

2na’ch ysmuder yn ddisyfit ywrth eich meðwl, ac nach cynnyrfer, na chan yspryt, na chā ’air, na chan lythyr, megis scrivenedic ywrthym ni, val be bei dyð Christ yn gyfagos.

3Na thwyllet neb chwi ym‐modd yn y byd: can na’s davv’r dydd hvvnvv nes dyvot yr ymadawiat yn gyntaf, a’ bod dadguddio y dyn y pechoturus, ’sef map y cyfergoll,

4yr hwn a ’wrthnepa, ac a ymðerchaif yn erbyn pop dim a elwir yn Dduw, neu y addolir: yd yn yd eistedd megis yn Dduw yn-Tēpl Dduw, gan y ddangos ehun mae efe yw Duw.

5Any ddaw yn eich cof, pan oeddwn eto gyd a chwi, ddarvot i mi ddywedyt ywch y petheu hyn?

6Ac yr awrhon y gwyddoch y rhwystr ’sy yw ðatcuðio ef yn ei amser.

7Can ys dirgelwch yr enwiredd ys y yn gweithio eisius: yn vnic yr hwn ’sy yr awrhon yn rhwystro, a rwystr yn‐es myned ac ef y ar y ffordd.

8Ac yno yd atguddir yr enwir hwnw, yr hwn a ddiva yr Arglwydd ac Yspryt ei eneu, ac ai diflanna a dysclaerdab ei ddyuodiat,

9ys ef yr hwn ’sy ei ddyuodiat o waithred Satan, wrth oll veddiant, ac arwyddion, ac aruthroeð gauoc,

10ac wrth oll ehudrwydd ancyfiawnder, ym‐plith yr ei a gyfergollir, can na dderbyniesont y cariat y gwirionedd, val yr iacheëit hwy.

11Ac am hyn ydd envyn Duw yddwynt ehudrwydd cadarn, val y credant ir gau,

12val y barner yr oll ’rei ny chredrent y’r gwirionedd, anyd ymvoddhau yn ancyfiawnder.

13Eithr nyni a ðlyem ðiolvvch yn oystat y Dduw y trosoch, vroder caredigion can yr Arglwydd, o bleit y Dduw o’r ddechreuad eich dethol chwi i iechedvvrieth, trwy sancteiddiat yr Yspryt, a’ ffydd gwirionedd,

14ir hyn y galwodd ef chwi trwy ein Euangel ni, y berchenogi gogoniāt ein Arglwydd Iesu Christ.

15A’ chan hyny, vroder, byðwch safadwy, a’ chynneliwch yr athraweth, ich dyscwyt, paun bynac ai gan ’air, ai ein Epistol ni.

16Ac efe ein Arglwydd Iesu Christ, a’n Duw ’sef y Tat yr hwn a’n carawdd, ac a roddes y ni ddiddanwch tragyvythawl a’ gobeith trwy rat,

17a ddiddano eich calonae, ac ach ffyrfhao ym‐pop gair a gweithred dda.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help