1YNo y dyvot Agrippa wrth Paul, e genietir yty ymadrodd droso tyhun. Velly Paul a estennodd ei law, ac a atepodd drosto ehū.
2Ys dedwydd y tybiaf vy‐bot vyhun Vrēhin Agrippa, can y mi gahel atep heddyw geyr dy vron di, am bop peth im cyhuddir y gan yr Iuddaeon:
3yn bēddivaddae, can dy vot ti yn gwybot o ywrth yr oll ddevodae, a’ chwestionae ’r ysydd ym‐plith yr Iuddaeon: erwydd paam, yr atolygaf yty, vy‐gwrandaw yn ddioddefgar.
4Ac am vy‐buchedd om mabolaeth, a’ pha ryw wedd ytoedd hi or dechreat ym‐plith vy‐cenedlaeth vy hyn yn‐Gaerusalem, e wyr yr oll Iuddaeon,
5yr ei am adwaenēt gynt (pe mynent testolaethy) bot i mi yn ol y sect cynnilaf o’n creddyf vyw yn Pharisai.
6Ac yr awrhon ydd wy yn sefyll ac im cyhuddir am obaith yr adewit a wnaed y gan Ddew i ein tadae.
7At pa addevvit ein dauddec llwyth yn gwasanaethy Dew eb dorr ddydd a’nos, a ’obeithant ðyvot: er mwyn pa ’obeith, a Vrenhin Agrippa im cyhuddir y gan yr Iuddaeon.
8Paam y tybir yn beth ancredadwy y genwch, bot y Ddew gyvody y meirw dragefyn?
9Mineu hefyd yn ðiau a dybiais yno vyhū, y dylewn wneythy llawer peth gwrth wyneb yn erbyn Enw yr Iesu o Nazaret.
10Yr hynn beth a wnaethym i yn‐Caerusalem: can ys llawer o’r Sainct a ’orchaeais yn‐carcharoedd, can vot genyf awturtat o ywrth yr Archofferait: ac wrth ei divetha, y rhoddeis varn.
11A’ mi y poeneis wy yn vynech drwy yr oll Synagogae, ac ei cympelleis i gably, a’ chan ynfydy ym‐pel’ach yn y herbyn wy, mi ei herlidiais, hyd ar ddinasoedd estrō.
12Ac yn hynn, pan aethym i Ddamasco ac awturtawt, a’ chaniatat yr Archoffeiriait,
13ar hanner dydd, a’ Vrenhin, ar y ffordd y gwelais leuver or nefoedd, yn ragori ar ddysclaerdap yr haul, yn towynny om amgylch, mi ar ei oeðynt yn ymðeith y gyd a ni.
14A’ gwedy daroedd y ni oll ddygwyddo ar yddayar, y clywais lef yn llavaru wrthyf, ac yn dywedyt yn‐tavot Hebreo, Saul, Saul, paam im erlidy? Calet yw yty wingo yn erbyn y swmbylae.
15A’ mineu ddywedais, Pwy ytwyt Arglwyð? Ac yntef ddyvot, Myvi yw Iesu yr hwn wy ti yn ei erlit.
16Eithyr cyvod y vyny a’ sa ar dy draet: can ys er mwyn hynn yr ymddangoseis yty sef er dy ’osot ti yn’wenidawc ac yn test, ys am y pethae’ry weleist, ac am y pethae yn yr ei y ymddangosaf yty,
17gan dy waredy y wrth y popul, ac ywrth y Cenedloedd, at pa ’r ei yd anvonaf yr awrhon,
18er yty agory ei llygait, ac ymchwelyt o hanwynt y wrth dywyllwch i ’oleuni, ac ywrth veðiant Satan ar Ddew, yn y dderbyniont vaddeuant pechotae, ac etiveddiaeth ym‐plith yr ei, a sancteiddiwyt trwy ffydd yno vi.
19Am hyny, Vrenhin Agrippa, nid anvfyddheis i ir weledigaeth nefawl,
20anid dangos yn gyntaf ydd wyntwy o Damasco, ac yn‐Caersalem, a’ thrwy oll orwlat Iudaia, ac yno ir Cenedloedd, er yddwynt edivarhay, ac ymchwelyt ar Ddew, a’ gwneythy gweithredoedd a vei teilwng i wellaat buchedd.
21Am yr achos hynn yr amavlawdd yr Iuddaeon ynof yn y Templ, ac a geisiesont vy lladd.
22Er hyny mi gefeis borth y gan Ddew, ac wyf yn aros yd y dydd hwn, gan destolaethy ac i vychan a’ mawr, ac eb dywedyt dim amgen no’r pethae y ðyvawt y Prophwyti a’ Moysen y delei, ys ef yvv hyny,
23bot i Christ ddyoddef ac yðaw ef vot yn gyntaf a gyvotai o veirw, ac a ddangosei ’oleuni ir popul, ac ir Cenedloedd.
24Ac mal ydd oedd ef yn atep hynn drostaw ehun, y dyvot Festus a llef vchel, Paul, ydd wyt yn ynvydu: lliaws o ðysc syð ith wneythy’r yn ynvyd.
25Ac yntef ddyvot Nyd wyf wedy ynvydy, arðerchawc Festus eithr gairiae gwirionedd a’ sobrwyð wyf yn ei hadroð.
26Can ys gwyr y Brenhin am y petheu hyn, ger bron yr hwn hefyt ydd wyf yn cympwyll yn hyf, ac ydd wyf yn tybieit nad oes dim or pethe hynn yn guddiedic rac ðaw ef: can na wnaethant hynn yma mewn congyl.
27A Vrenhin Agrippa, a gredy di y Prophwyti? Mi wnn dy vot yn credy.
28Yno y ’saganei Agrippa wrth Paul, Yðwyt o vewn ychydic im annoc y vot yn Christian.
29Ac Paul a ddyvot, Mi ddamunwn gan Dew nid yn vnic y tydi, namyn a’ phavvp oll ys ydd im clywet i heddyw, eich bot ac o vewn ychydic ac yn gwbyl oll yn gyfryw ac ydd wyf vinef diethyr y rrwymae hynn.
30Ac wedy yddaw ddywedyt hyn, y cyvododd y Brenhin i vynydd, a’r President, ac Bernice, a’r ei oedd yn cyd eistedd ac wynt.
31Ac wedy yddwynt vyned o’r ailltu, wynt a gympwyllesont yn ei plith ehunein, gan ddywedyt, Nid yw’r dyn hwn yn gwneythy dim teilwng o angae, na rrwymae.
32Yno y dyvot Agrippa wrth Festus, Ef ’ellit gellwng y gwr hwnn, pe na bysei iddaw appelo ar Caisar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.