Gweledigeth 2 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. ij.1 Y mae ef y cygori pedeir Eccles, 5 I ’diweirwch, 10 I barhau, dyoddefgarwch ac amendaat, 5, 14, 20, 23 yn gystal trwy vygwth, 7, 10, 17, 26 Ac addeweidion gobrwy.

1EScryvena at Angel Eglwys Ephesus, Hyn y may ef yn dywedyd y syð yn dala y seith seren yn u law ddehe, ac y syð yn treiglo yn chanol y seith canwyllbrē aur.

2Mi adwen du weithredoedd, ath travael, ath goddef, ac na elly cyd ddwyn ar rrei drwc, ac y holeist hwynt ysydd yn dywedyd y bod yn Ebostolion, ac nyd ydynt, ac y gefeist hwynt yn gellwddoc.

3A thi oddefeist, ac yr wyd yn oddefgar, ac y dravaeleist yr mwyn vu enw i, ac ny ddyffigieist.

4 Ac er hynny y may genyf peth yth erbyn, am yt ymadel ath cariad cyntaf.

5Meddylia, am hyn, o pa le y cwympeist, ac etiverha, a gwnar gweithredoedd cynta: ac onys gvvnei mi ddof ar vrys yth erbyn, ac y symydo dy ganwyllbren allan oy le, any wellhey.

6Ond hyn y sydd genyt, achos yt cashay gweythredoedd y Nicolaitait, y rrein yr wyf vi hevyd yny cashay.

7Y sydd a chlyst gantho, gwrandawed, pa beth y ddwed yr ysbryd wrth yr Eglwysi, Ir gorchtrechwr, y rrof vwytta or pren y bywyd, yr hwn y sydd yn chanol paradyvys Ddyw.

8¶ Ac escrifena at Angel Eglwys y Smyrniaid, Hyn y ðywed ef y sydd gyntaf a’ ddiwethaf, Yr hwn y vy varw ac y sydd vyw.

9Mi adwen dy weythredoedd, ath travael, ath tlodi (eithr yr wyd yn gyvoethoc) ac mi advven enllib melleigedic yr rein ydynt yn dywedyd y bod yn Iddewon ac nyd ydynt, ond y maent yn Synagog Satan.

10Nac ofna ddim or pethey y orvydd yd y oddef: synna, e ddervydd y bwrw y cythrel rrei o hanoch chwi y garchar, mal y gellyr ych profi, a’ chwi a gewch travayl deng niwrnod: bydd ffyddlawn hed myrvolaeth, a mi y rrof ytti coron y bowyd.

11Ysydd a chlyst gantho, gwrandawed pa beth y ddwed yr ysbryd wrth yr eglwysi, Ny chlwyfir y gortrechwr gan yr eil marvolaeth.

12Ac Escrifena at Angel Eglwys Pergamus, Hyn ymay ef yny Ddwedyd y sydd ar cleddey llym day vinioc.

13Mi adwen dy weithredoedd ath trigadle ’sef lle may eiteddley Satan, a thi y gedweist vy Enw i, ac vy ffudd i nys gwedeist, ac yn y dyddiey pan las vu ffuðlon merthyr Antipas yn ych plith chwi, lle may Satan yn drigadwy.

14Eithr y may genyf ychydicion yth erbyn, cans y may yno genyd rrei yn dala dysc Balaam, yn yr hwn y ddyscoedd Balac, y vwrw plocyn tramcwyddys gar bron meibion yr Israel, er yddynt vwytta or pethey y aberthwyd u ddelwey, a godineby.

15Velly hefyd y may genyd rrei yn dala dusc y Nicolaitait, yr hyn yr wyfi yn y gasay.

16Etifarha, ac onys gvvnei, mi ddof attad ar vrys, ac a ymlaðaf yn y erbyn hwynt a chleddey vy vy‐geney.

17Ysydd a chlyst gantho, gwrandawed pa beth y ddwed yr ysbrud wrth yr Eglwysi, Yr gortrechwr, mi rrof y vwytta or Manna ysydd gyddiedic, ac mi rrof yddo ef garec wen, ac yn u garec enw newydd yn escrivenedic, yr hwn ny adnebydd neb, ond ae herbyno.

18¶ Ac escrivena at Angel Eglwys Thyateira, Hyn y may Mab Duw yny ddwedyd, ysydd ae lygeid mal fflam dan, ae draed mal pres‐pur.

19Mi adwen dy weythredoedd ath cariad, ath wasanaeth, ath ffydd, ath goddeviad, ath weithredoedd, a’ bot y diwethaf yn rragori ar y cyntaf.

20Eithr ymae genyf ychydic bethe yth erbyn, am yd goddef y wreic hono Iezabel, yr hon ysydd yn galw y hyn yn broffwydes, y ddusgy ac y dwyllo vyngwasnaethwyr i y beri yddynt godyneby, ac y vwytta bwydydd gwedy y aberthy y ddelwey.

21Ac mi a rroyssym amser yddy y etiferhay am y godinep, ac ny chymerth hi etifeyrwch.

22 Syna, mi a bwraf hi ywely, ar sawl a wnāt odineb gyd a hi, y gospedigaeth mawr, onyd etiferhant am gweithredoedd.

23Ac mi ladda y phlant a myrfolaeth: ar holl Eglwysi y gydnabyðant mae mi wyf yr hwn y chwhilia y ’rrennae ar caloney: ac mi a rrof y bob vn o hanoch yn ol ych gweithredoedd.

24Ac y chwi y dwedaf, y gweddillion Thyateira, Ysawl bynac na does ganthynt y ddusc hon, ac ny adnabyont dyfnder Satan (mal y dwedant) ny ddodaf arnywch beych arall.

25Ond y peth yssydd genywch eisus, delwch yn dda hed yn ’ddelwyf.

26Can ys yr vn y orfyddo ac y gatwo vyngweithredoedd hed y diwedd, mi a rroddaf yddo ef gallu ar genetloedd,

27ac ef a rriola hwynt a gwialen hayarn, ac hwynt a ddryllir mal llestri pridd. Ac yny modd y dderbynes i gan vyn had,

28velly y rroddaf i yddo ef y seren vorey.

29Sydd a chlyst gantho, gwrandawed pa beth y ddwed yr ysbryd wrth yr Eglwysi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help