Matthew 24 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xxiiij.Christ yn menegy yw ddiscipulon o ddistrywiat y templ. Am y gau-Christiae. Am barhay. Precethy ’r Euangel. Arwyddion diwedd y byd. Ef yn ei rhybyddiaw y

ddyffroi. Disymwth ddyvodiat Christ.

1A’R Iesu a ddynnodd allan ac a aeth i ffordd o’r Templ, a’ei ddiscipulon a ddaethan attaw y ddangos iddo adailiadaeth y Templ.

2A’r Iesu a ddyvot wrthynt, Any wellwch chvvi hyn oll? yn wir y dywedaf ychwi, ny edevvir yma vaen ar vaen, a’r ny vwrir i lawr.

3Ac val ydd eisteddai ef ar vynyth olivar y daeth ei ddsscipulon attaw o’r neilltu, gan ddywedyt, Maneg y ni pa bryd y byð y pethae hyn? a’ pha arwydd vydd oth ddyvodiat, ac o ddiwedd y byd?

4A’r Iesu a atepawdd ac a ddyvot wrthyn, Y mogelwch rac i neb ych twyllo chwychvvi.

5Can ys daw llawerion yn vy Enw i, gan ddywedyt, Mi yw Christ, ac a dwyllant laweroedd.

6Ac e vydd i chwi glywed am ryveloeð a’ sonion am ryveloedd: gwelwch na’ch trolloder: can ys dir yw bot cyflavvni y pethae hyn oll, eythyr nad oes etwa dervyn.

7Can ys cyvyt cenedl yn erbyn cenedl, a’ theyrnas yn erbyn teyrnas, ac e vydd y nodae, a’ newynae a ’dayargrynedigaethae mewn amravel vannae.

8Ac nyd yvv hyn oll anyd dechreuad y gofidieu.

9Yno ich rhoddant chvvi ich gorthrymy, ac i’ch lladdant, ac ich caseir gan yr oll genedloedd er mwyn vy Enw i.

10Ac yno y rhwystrir llawerion, ac y bradychant ygilydd, ac y casaant ygylydd.

11Ac e gyfyd gau prophwyti lawer, ac a dwyllant lawerion.

12A’ chanys yr amylhaiff enwireð, ef a oera cariat llawerion.

13Eithyr y nep a barhao yd y diweð, hwn a vydd cadwedic.

14A’r Euangel hon y deyrnas a precethir trwy’r oll vyt, yn testoliaeth i’r oll genedloedd: ac yno y daw ’r tervyn,

15Can hyny pan weloch ffieidtra y diffeithwch, yr hyn a ddywedpwyt y gan Ddaniel Brophwyt, yn sefyll yn y lle sanctaidd (y nep ai darlleno, ystyried)

16yno yr ei a ront yn Iudaea ciliant ir mynyddedd.

17Y nep a vo ar ben y tuy na ddescendet i gymeryd dim allan oei duy.

18A’ hwn a vo yn y maes, nac ymchweled dra i gefyn i gymeryd ei ddillat.

19A’ gwae ’r ei beichiogion, a’r ei yn daly bronae yn y dyddiae hyny.

20A’ gweddiwch na bo ich ciliat y gayaf nac ar y dydd Sabbath.

21Can ys y pryd hyny y bydd gorthrymder mawr, cyfryw ac na bu er dechrae’r byt yd yr awr hon, ac ny bydd.

22Ac o ðyeithyr byrhay y dyddiae hyny, ny’s iacheir neb cnawdd: eithyr er mwyn yr etholedigion y byrheir y dyddiae hyny.

23Yno a’s dywait nep wrthych, Wele, lly’ma Christ, nei ll’yna, na chredwch.

24Can ys‐cyfyd gau Gristie, a’ gau‐prophwyti, ac a ddangosant arwyddion mawr ac aruthroeð, yn y thwyllent, pe bei possibil, y gwir etholedigion.

25Nycha, ys dywedeis yw’ch yny blaen,

26Gan hyny a’s dywedant, wrthych, Nycha, y mae ef yn y diffaith, nac ewch allan, Nycha y mae ef mewn dirgelfae, na chredwch.

27O bleit val y daw’r vellten o’r Dwyrein, ac y tywynna yd y Gorllewyn, velly hefyt y bydd dyfodiat Map y dyn.

28Can ys p’le pynac y bo celain yno ydd ymgascla’r eryrod.

29Ac yn y van wedy gorthrymdere y dyddiae hyny, y tywyllir yr haul, a’r leuad ny rydd ei goleuni, a’r ser a syrthiant o’r nef, a’ nerthoedd y nefoedd a gyffroir.

30Ac yno yr ymddengys arwydd Map y dyn yny nef: ac yno y bydd oll llwythae ’r ddayar yn ewynvanu, ac wy a welant Vap y dyn yn dyvot yn wybrenae ’r nef, y gyd a nerth a’ gogoniant mawr.

31Ac ef a ddenfyn ei Angelion gyd a llef vawr yr vtcorn, ac wy a gaselant yr etholedigion yn‐cyd, o’r pedwar gwynt ac o’r eithafoedd bygylydd i’r nefoedd.

32Dyscwch weithian barabol y ffycuspren: pan yw ei gangen yn dyner, a’ei ddail yn tarddy, ys gwyddoch vot yr haf yn agos.

33Ac velly chwithe, pan weloch hynn oll, gwybyddwch vot teyrnas Ddevv yn agos, ’sef wrth y drws.

34Yn wir y dywedaf wrthych, nad aa yr oes hon heibio, yn y wneler hyn oll.

35Nef a’ daiar aan heibio, eithyr vy‐gairiae i nyd an heibio.

36Ac am y dydd hwnw a’r awr nys gwyr nep, nac Angelion y nef, anyd y Tad meu vi yn vnic.

37Ac val ydd oedd dyddiae Noe, velly hefyt vydd dyvodiat Map y dyn.

38Obleit val ydd oeddent yn y dyddiae ym‐blaen diliw yn bwyta, ac yn yfet, yn gwreica, ac yn gwra, yd y dyð ydd aeth Noe ir Arch,

39ac ny wybuont dim, yn y ddeuth y diliv a’ei cymeryd wy oll y ffordd, ac velly vydd dyvodiat Map y dyn.

40Yno y bydd dau ddyn yn y maes, vn a gymerir ac arall a adewir.

41Dwy vydd yn maly ym‐melyn, vn a gymerir, a’r llall a edevvir.

42Gwiliwch am hyny: can na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.

43A’ gwybyddwch hyn, pe gwyddiat gwr y tuy pa wylfa y dauei ’r lleitr, ef a wiliesei yn ddilis, ac ny adawsei gloddio ei duy trywodd.

44Can hyny byddwch chwithe parot: can ys yn yr awr ny’s tybiwch yd‐aw Map y dyn.

45Pwy wrth hyny ’sy was ffyddlon a’ doeth, yr hwn a ’osodawdd ei Arglwydd yn or’chvvilivvr ar ei duylu, y roddi bwyt yddynt yn ei dympor?

46Gwyn ei vyd y gwas hwnaw yr vn pan ddel ei Arglwyð ei caiff yn gwneythyd velly.

47Yn wir y dywedaf ywch’ y gesyt ef yn oruchvvilivvr ar ei oll dda.

48And a’s dyweit y gwas drwc hwnw yn ei galon, Ef a oeda vy Arglwydd ei ddyvoddiat,

49a’ dechrae bayddy ei gydweision, a’ bwyta ac y fed y gyd a’r meddwon:

50ef a ddaw Arglwydd y gwas hwnaw yn y dydd nyd edrych am danaw, ac mewn awr a’r ny’s gwyr ef:

51ac ef a ei gwahan ef, ac a ddyd yddo ei ran y gyd a’r hypocritieit: yno y bydd wylofain ac ys cyrnygy dannedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help