Ioan 15 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xv.Y melus ddiddamoch a’r cydgariat rhwng Christ ai aylodeu dan ddamec y winwydden. Am ei cyffredin vlinderwch ai hymlit. Swydd yr Yspryt glan a’r Apostolon.Yr Euangel ar dydd Marc.

1MIvi yw ’r winwydden, a’m Tat ys a lavurwr.

2Pob caingen ny ddwc ffrwyth ynofi, ef ei tynn ymaith: a’ phob vn a ddwc ffrwyth, ef ei carth, mal hi dyco mwy o ffrwyth.

3Yr awrhon ydd ywch’ yn ’lan can y gair, a ðywedais ychwi.

4Aroswch ynof, a’ mi ynoch: megis na all y gaingen ddwyn ffrwyth o hanei ehun, a nyd erys yn y winwydden, velly nyd ’ellwch chwi, anyd aroswch ynof.

5Mi yw’r winwyddyn: chwi yw’r cangenae: y nep a roso ynof, a mi ynddaw, hwnn a ddwc ffrwyth lawer: can ys eb ofi, ny ellwch wneythy dim.

6An’d erys vn ynofi, e a tavlwyt allan val cangē, ac a wywa: ac y cesclir wy, ac ei tavlir yn tan, ac ei lloscir.

7A’d aroswch y nof, ac aros o’m gairiae ynoch, erchwch beth bynac a ewyllysoch, ac eu gwnair y chwy.

8Yn hynn y gogoneðir vy‐Tat, ar y chwi ddwyn ffrwyth lawer, a’ch gwnaethy’r yn ddiscipulon i mi.

9Mal y carawdd y Tat vi, velly y ceraisi chwi: trigwch yn vy‐cariat.

10A’s vy‐gorchymynion a gedwch, aros a wnewch’ yn vy‐cariat, megis ac y cedweis i ’orchmyniō vy‐Tat, ac ydd arosaf yn y gariat ef.

11Y pethae hyn a ddywedeis wrthych, y n yd aroso vy llewenydd ynoch, a’ bot eich llawenydd yn gyflawn.

12 Hwn yw ’r gorchymyn meuvi, bot y chwi garu bavvp eu gylydd, mal y cerais i chwichvvi.

13Cariat mwy no hwn nyd oes gan nep, pan ddyd nebvn ei einioes tros ei gereint.

14Chwychvvi yw vy‐cereint, a’s gwnewch y pethae bynac a orchymynaf ychwy.

15Weithian, ny’ch galwaf chvvi yn weisiō, can na wyr y gwas pa beth a wna ei Arglwydd: eithyr gelwis chwi yn gereint: cā ys yr oll bethe ar a glyweis y gan vy‐Tat, a wnethum‐yn‐wybodedic y‐chwy.

16Nyd chwychvvi am detholawdd i, eithyr mivi ach detholais chwi, ac ach darpareis chvvi, y vyned o hanoch a’ dwyn ffrwyth, a’ bot ich ffrwyth aros, val ba herh bynac a archoch ar y Tat yn vy Enw i, y rhoddo ef y‐chwi.

Yr Euāgel ar ddydd Simon ac Iudas.

17¶ Y pethae hynn a ’orchymynaf y‐chwy, cary o hanoch y gylydd.

18A’s y byt a’ch casaa, gwyddoch gasay o honaw vi cyn na chwi.

19Pe o’r byt y bysech, y byt a garei yr eiddo: a chan nad ych or byt, eithyr i mi ech ethol allan or byt, am hynny y casaa’r byt chwi.

20Coffewch y gair a ddwedais ychwy, Nid mwy gwas na ei Arglwydd. A’s erliedesont vi, wy ach erlidiant chwi hefyt: a’s vy‐gair i a gatwasant, wy gatwant eich gair chwi.

21Eithyr y pethae hyn oll a wnant y‐chwy er mwyn vy Enw i, can nad adnabuant yr hwn am danvonawdd.

22Pe byswn eb ddyvot, ac eb ymddiddan ac wynt, ny byddei arnynt pechat: an’d yr owrhon nid oes yddwyut liw ymescus.

23Y nep am casaa i, a gasaa vy‐Tat hefyt.

24Pe na’s gwnaethwn weithredoedd yn y plith wy, yr ei ny’s gwnaethei nep arall, ny bysei pechat arnynt: ac yr owrhon y gwelsont, ac a’m casesont i a’m Tat.

25Eithr hynn ys ydd er cwplay y gair, a ysrivenir yn y Deddyf wy, Wy am casesont i yn rhat.

26An’d pan ddel y Dyddanwr, yr hwn a ddanvonwy vi atoch y wrth y Tat, ys ef Yspryt y gwirionedd, yr hwn a ddaw y wrth y Tat, hwnw, a testiolaetha am danaf,

27a’ chwi destoliaethwch hefyt, can eich bot o’r dechraeat gyd a mi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help