1AC yn ol pemp diernot, y daeth y waeret Ananias yr Archoffeiriat y gyd a’r Henafieit, ac Tertullus rryw areithiwr, yr ei a apariesont ger bron y President yn erbyn Paul.
2A’ gwedy ei ’alw ef ir lle, e ddechreawdd Tertullus ei guhuddaw, gan ddywedyt, Can y ni vot yn byw yn dra heddychol oth bleit ti, a’ bot gwneythyr llawer o bethe gwiw, ir genedl hon drwy dy racddyall di,
3Hyn yð ym ni yn cydnabot yn hollawl, ac ym‐pop lle, yr ardderchocaf Felix, y gyd a chwbyl ddiolvvch.
4Eithr rac bot ymy dy ðalha yn rryhir ddygn, atolwc yty ein gwrandaw oth hynawster ar ychydic ’airiae.
5Can ys cawsam y gwr hwnn yn ddyn adwythus, ac yn cyffroy tervysc ymplith yr holl Iuddaeon trwy’r holl oll vyt, ac yn brifnerthwr ar yr heresi y Nazarieit,
6ac a vynysei halogy y Templ: ac am hyny y daliesam ef, ac a vynesem ei varny yn ol ein Deddyf:
7Eithyr y pen‐Captaen Lysias a ddaeth arnam, a’ thrwy drais mawr ei duc allan o’n dwylo,
8gan orchymyn ydd ei guhuddwyr ddyvot ata ti, y gan ba rei y gelly (a’s myny ymofyn )wybot yr oll pethae hynn yð ym ni yn y gyhuddaw ev.
9A’r Iuddaeon hvvythe hefyt a daeresant, gan ddywedyt vot y peth y moð hynny.
10Yno Paul, gwedy amneidio o’r President arnaw y amadrawddd a atebawdd, Y mae yn haws genyf atep troso vyhun, can vy‐bot yn gwybot dy vot ti lawer o vlyddynedd yn ynat ir genadleth hon,
11can ys gelly wybot, nad oes anid dauddec dieernot er pan ðaethym i vynydd i addoly i Caerusalem.
12Ac ny im cawsant i yn y Templ yn ymddadleu a nep, nac yn cyffroy yr dyrva y gyvodi, nac yn y Synagogae, nac yn y dinas.
13Ac ny allant chvvaith provi y pethae, y maent im cuhuddaw am danwynt.
14Eithr cyffessy yty ddwyf hyn yma, mae yn ol y fforð (rhon y alwant vvy yn heresi) velly yr addolaf vi Ddew vy‐tadae, sef gan gredy yn yr oll pethe r’ y scrivenir yn y Ddeðyf a’r Prophwyti,
15a’ gobeith ’sy genyf ar Ddew, am yr vn cyfodiadigeth y meirw ac y maent wytheu hefyt yn ei ddysgwyl, y bydd ef ys ir cyfiawnion ac ir ancyfiawnion.
16Ac yn hyn ydd wy vi ystudio vot genyf yn wastad gydwybot ddirwystr tu ac Ddew a’ thu ac at ðynion.
17Ac yrovvon yn ol llawer o vlyddynedd, y daethym ac y dugeis eluseni im cenedleth ac offrymae.
18Ac yn yr amser hynn, ’rei or Iuðeon o’r Asia am cawsant wedy vy‐glanhay yn y Templ, ac nid gyd a thorf, na thervysc.
19Yr ei a ddylesynt vot yn gynnyrchiol rac dy vron, am cyhuddaw, a bysei ganddwynt ddim im erbyn.
20Ai ynte dywedet yr ei hyn yma, a gawsant vvy ðim ancyfion ynof, tra sefeis yn y Cyngor,
21dieithr am y llef vnic hon, a ’r a lefeis yn sefyll yn ei plith vvy, sef Am gyfodiadigeth y meirw im bernir heddyw genwch.
22Pan glybu Felix y pethae hynn, yr oedawdd ef wynt, gan ddywedyt, Pan wypwyf yn yspesach y pethae a perthyn ir ffordd hon, pan vo i Lysias y pen‐Captaen ddyvot yma, y dosparthaf eich mater.
23Yno ydd archawdd i Gannwriat gadw Paul, a gadael iddaw gahel gorffywys, ac na ’oharddei i neb oei gydnabot ei weini, nei ddyvot attaw.
24Yn ol talm o ddyddiae, yd aeth Felix ef aei wreic Drusilla, yr hon ytoeð Iuddewes, ac ef a ’alwodd am Paul, ac a glywawdd ganthaw am y ffydd ys ydd yn Christ,
25Ac mal ydd oedd ef yn dosparth am gyfiawnder, a’ chymmedroldep, ac am y varn y ddyvot, Felix a ddechrynawdd, ac a atebawdd, Does ymaith ar hyn o amser, anid pan gaffwy amser‐cyfaddas, mi alwaf am danat.
26Ac ydd oedd ef yn gobeithio hefyt y rhoddesit ariant iddaw gan Paul, er iddo ei ellwng ef: erwyð pa bleit yd avonodd ef am danaw yn vynychach, ac y chwedleuawdd wrthaw.
27A’ gwedy cerddet dwy vlwyddyn, y daeth Porcius Festus yn lle Felix: a’ Felix yn ewyllysio enill bodd yr Iuddaeon, a adawdd Paul yn rhwym.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.