Yr Actæ 10 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. x.Rybuddio Cornelius gan yr Angel. Yd anuō y mae ef i Ioppa Gweledigaeth Petr. Py wedd ydd anvonwyd ef at Cornelius. Y Cenetloedd hefyt yn d’erbyn yr Yspryt, a’ ei batyddio.

1AC yð oeð nep gwr yn Caisareia a ei enw Cornelius capten y ddiadell y elwit diatell yr Ital,

2gvvr devosionol ac vn yn ofny Dew, y gyd ei oll tuylvvyth, ac yn rhoi llawer o eleeseni ir popul ac yn gweddiaw ar Ddew yn ’oystat.

3Ef a welawdd drwy weledigaeth yn eglur (yn cylch y nawvet awr o’r dyð) Angel Dew yn dyvot ato, ac yn dywedyt wrthaw, Cornelius,

4A’ phan edrychawdd arnaw, ofny a wnaeth, a’ dywedyt, Pa beth ytyw, Arglwydd? Ac ef a ddyvot wrthaw, Dy weddiae ath eleesenae a escenesont yn‐cof geyr bron Dew.

5Ac yn awrhon anfon wyr i Ioppa, a’ galw am Simon a elwir Petr.

6Hwn ys ydd yn lletya gyd ac vn Simon barker, yr hwn ’sy ei dy wrth y mor: ef a ddywait yty pa beth y ddlei y wneythyd.

7Ac wedy ymady or Angel a ymddiddanawdd a’ Chornelius, ef a alwodd ar ddau oei weison, a’ milwr creddyfol, vn or ei oedd yn dylyn wrthaw,

8ac a vanagawdd yddwynt pop peth, ac y danvonoð hwy i Ioppa.

9A’ thranoeth mal yð oeðent yn mynet y ymddaith, ac yn dynessay ir dinas, ydd escennawdd Petr ar vcha y tuy y weddiaw, amgylch y chwechet awr.

10Ac y ddaeth newyn arnaw, ac ewyllysiawdd gahel bwyt: ac wynt y paratoy ryvv beth yddavv, e ddygwyddawdd llewyc arno.

11Ac ef a welas y nef yn agoret, a’ rryw lestr yn descen ataw, mal llen‐lliain vawr, wedy rhwymo erwyð y pedair congyl, ac a ellyngwyt yd y waered yd y ddaiar,

12yn yr hon ydd oedd pop ryw anifal pedwar carnol y ddaear, a’ bestviloedd, ac ymluscieit, ac ehediait y nef.

13Ac e ddaeth llef ataw, Cyvot Petr: lladd, a’ bwyta.

14A’ Phetr a ddyvot, Nage, Arglwydd: can na vwyteis erioed ddim cyffredin nai aflan.

15A’r llef a ddyvot wrthaw yr ailwaith, Y pethae a garthodd Dew, na chyffredina di.

16A hyn a wnaethpwyt teirgwaith: a’r llestr a gymerwyt drachefn i vynydd ir nef.

17Ac pan ytoedd Petr yn petrusaw ynthaw ehū pa beth ytoedd y weledigaeth hon y welsai, wele, y gwyr y ddanvonesit y gan Cornelius, a ymovynesent am duy Simon, ac a safent wrth y porth,

18ac a ’alwasont, ac ’ovynesont, a ytoedd Simon a gyfenwyt yn Petr, yn lletuya ynaw.

19Ac mal ydd oedd Petr yn meðwl am y weledigaeth, y dyvot yr Yspryt wrthaw, Wele, tri‐gwyr yn dy geisiaw:

20cyvot can hyny, a’ descen, a’ dos gyd a hwy, ac na amhae, can ys mivi y danvoneis hwy.

21Yno Petr a ddescennawdd at y gwyr, ydd anvonesit ataw ywrth Cornelius, ac a ddyvot, Wele, mivi yw ’r hvvn ydd ych yn ei geisiaw: pa beth yw ’r achaws o ei bleit y daethoch yma?

22A’hwy a ðywedent, Cornelius y captaen‐cannwr, gwr cyfiawn, ac vn yn ofny Dew, ac a gair da iddaw gan oll genedl yr Iuddaeon, a rybyddiwyt or nef y gan Angel sanct, y ddanvon am danat, y ei duy, ac y wrādaw ar dy ’airiae.

23Yno y galwodd ef wynt y mewn, ac ei lletyawdd: A’ thranoeth, ydd aeth Petr allan y gyd ac wynt, a’r ei o’r broder o Ioppa aeth y gyd a hwy.

24A’ thranoeth, ydd aethant y mewn y Cesareia. Ac Cornelius a arosawdd arnwynt, ac y galwesei ei gydgenedloedd, a’ ei annwyl gereint.

25Ac e ddarvu, val ydd oeð Petr yn dyvot y mewn, bot i Cornelius gyfarvot ac ef, a’ dygwyddaw wrth y draet ef a’ ei addoli.

26Ac Petr y cyvodes ef, gan ddywedyt, Cyvot y vynydd: a’ minef wyf ðyn.

27Ac wrth ymddiddan ac ef, y daeth y mewn, ac a gavas lawer wedy dyvot yn‐cyt,

28ac ef a ddyvot wrthwynt, Chvvychwi wyddoch nad yw gyfreithlawn i wr o Iuddew ymwascy n’ai ddyvot at alltut: eithyr Dew a ddangosawdd i mi, yd na ’alwn vn dyn yn gyffredin, ai yn aflan:

29am hynny yd aethym atoch yn ddinag, pan ddanvonwyt am danaf. Erwydd pa bleit y ymofynaf, o ran pa achos yd anvonesoch am danaf?

30Yno y dyvot Cornelius, Er es pedwar diernot a ddeddyvv amgylch yr awr hon, ydd oeddwn yn vmprydiaw, ac ar y nawvet awr y gweðiais, yn vy‐tuy, ac wele, y savoð gwr geir vy‐bron yn‐gwisc ddysclaer,

31ac y dyvot, Cornelius, e glypwyt dy weði, ath eleesenae ynt yn‐coffa ger bron Dew.

32Yd anvon am hyny rei el i Ioppa, a’ galw am Simon, ys ydd ei gyfenw yn Petr (efe ’sy yn lletya yn‐tuy Simon y barker yn‐glann y mor) yr hwn pan ddel, a ymadroð wrthyt.

33Yno yd anvoneis i yn ebrwydd am danat, a’ thi wnaethost yn dda ar ddyvot. Yn awr gan hynny ydd ym ni yma oll yn gydrychiol ger bron Dew, er mvvyn gwrandaw pop peth y ’orchymynwyt yty gan Ddew.

Yr Epistol ar ddie Llun Pasc, a’ ddie llun y Sul gwyn.

34Yno yð agores Petr ei enae, ac y dyvot, Yn wir ydd wyf yn dyall, nad ytyw Dew yn yn derbyn cyflwr neb.

35Eithyr ym‐pop cenedlaeth y neb y hofno ef, ac a wnel iawnder, ys yð gymradwy gantho.

36Chvvy vvyddoch y gair yr hwn a ddanvones Dew i plant yr Israel, gan precethy tangneddyf trwy Iesu Christ, yr hwn ys id Arglwydd pavvp oll.

37Ys ef y gair y ddaeth trwy’r oll Indaia, gan ddechrae yn‐Galilaia wedy y batyð a precethei Ioan,

38nid amgen no darvot i Ddew enneiniaw Iesu o Nazaret a’r Yspryt glan, ac a nerth: yr hwn gerddawdd o yamgylch gan wneythy-gvveithredoedd‐da, ac iachay pawp rei oedd yn ’oarsengedic y gan ðiavol: can ys Dew oedd y gyd ac ef.

39Ac ydd ym ni yn testion o’r oll pethae a wnaeth ef yn‐tir yr Iuddaeon, ac yn‐Caerusalem: yr hwn a laddesont vvy, ac a grocesont ar bren.

40Hwn a gyvodes Dew y vyny y trydydd dydd, ac a barawð bot ei ddangos ef yn amlwc:

41nid ir oll popul, amyn ir testion etholedic or blaē gan Ddew, ys ef y nyni yr ei vuam yn cydvwyta ac yn cydyvet ac ef, gwedy iddo gyvody o veirw.

42Ac ef orchymynoð y ni precethy ir popul, a’ thestolaethy, mae ef yw hwnw a ordeiniwyt gan Ddew yn varnwr bywion a’ meirw.

43Ac y gyd hwnn y mae yr oll Prophwyti yn testiaw, mae trwy yr Enw ef, y byð i pwy bynac a creto ynthaw ef, dd’erbyn maddeuant pechatae.

44Tra ytoedd Petr eto yn dywedyt y geiriae hynn, y dygwyddawð yr Yspryt glā ar yr ei oll a glywsant y gair.

45Ac wyntwy o’r enwaediat a’r oeddent yn credy, a sannasant, cynniuer ac a ddaethent y gyd a Phetr, can ys darvot hefyt ar y Cenetloedd diney dawn yr Yspryt glan.

46Can ys yddynt y clybot wy yn ymadrodd a thavodae, ac yn mawrygy Dew. Yno ydd atebawdd Petr,

47A all neb ’ohardd ddwfr, yd na vatyddier yr ei hynn, a dderbyniesont yr Yspryt glan yn gystal a nineu?

48Ac velly ef ’orchymynawdd y patyddio hwy yn Enw yr Arglwydd: Yno y damunasant arno aros gyd a hvvy niver o ddyddiae.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help